Mae siop ar-lein Chwarae i Ddysgu yn darparu ystod eang o adnoddau sy'n hybu Datblygiad Corfforol a Symud Creadigol yn y Cyfnod Sylfaen.
Mae cyfres y Ddraig wedi'i chynllunio i'w chyflwyno i blant 7 i 11 oed. Mae'n cynnwys ystod o adnoddau sy'n cynorthwyo ymarferwyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau corfforol sylfaenol plant, ac mae'n rhoi cyflwyniad i ystod o gampau.
Fel rhan o'r prosiect Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (AGChY), mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu adnoddau i gefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau amrywiol ac ysgolion, wrth iddynt gyflwyno Gymnasteg.