Elite Cymru
O ran llwyddiant chwaraeon elitaidd, mae gennym lawer i fod yn
falch ohono
Cenedl fechan yw Cymru, ond rydym yn gwneud yn llawer gwell na'r
disgwyl wrth ddisgleirio ar lwyfan y byd.
Rydyn ni am i Gymru gael ei gweld fel cenedl o bencampwyr, ble mae
ennill yn cael ei ddisgwyl, talent yn cael ei datblygu a llwyddiant
yn cael ei hybu a'i ddathlu mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.
Mae cynllun Elite Cymru wedi bod yn weithredol ers 1997.
Fodd bynnag, ym mis Ebrill 2006, daeth UK Sport yn gyfrifol
am gyllido chwaraeon Olympaidd a Pharalympaidd drwy system Llwybr y
DU.
Pwy all wneud cais
Mae Elite Cymru yn cynnwys athletwyr unigol sy'n cystadlu mewn
chwaraeon heb fod yn rhai Olympaidd (e.e. carate, snwcer),
chwaraeon Gemau'r Gymanwlad fel Bowlio, saethu a sboncen neu
chwaraeon sy'n ennill medalau ar lefel y byd, fel golff.
Mae Elite Cymru yn gweithredu yn unol â gwledydd eraill y DU o
ran yr hyn mae'n ei gefnogi, e.e. Sport England, Sport Scotland ac
ati.
Dylid nodi nad yw Chwaraeon Tîm yn gymwys i wneud cais.
Gofynion ymgeisio:
Y safonau cyffredinol ar gyfer cael cefnogaeth gan Elite Cymru
yw:
- Rhif 1 o leiaf yng Nghymru mewn grŵp oedran a disgyblaeth,
ac
- Fel canllaw bras, o leiaf rhif 3 yn y DU a gyda safle
Ewropeaidd a / neu Fyd arwyddocaol - OND rydym yn edrych ar
bob camp a chais ar sail eu rhinweddau unigol ac mae safonau
mynediad penodol i'w hystyried, sydd wedi'u cytuno gyda phob Corff
Rheoli Cenedlaethol, er mwyn gweithredu yr un fath â gwledydd
eraill y DU.
Sut mae ymgeisio
Drwy wahoddiad yn unig y cewch wneud cais am grant gan Elite
Cymru. Bydd eich Corff Rheoli Cenedlaethol yn rhoi gwybod i
Chwaraeon Cymru am ei Athletwyr Elitaidd sy'n gymwys am gyllid
Elite Cymru a bydd Chwaraeon Cymru yn gwahodd yr Athletwyr Elitaidd
hynny i wneud cais am gyllid drwy e-bost. Os ydych chi'n credu eich
bod yn gymwys am gyllid Elite Cymru a heb gael gwahoddiad,
cysylltwch â'ch Corff Rheoli Cenedlaethol neu cysylltwch â Wendy
Yardley yn Chwaraeon Cymru ar wendy.yardley@sport.wales.
Ar ôl i chi gael gwahoddiad ar e-bost, gallwch wneud cais
ar-lein drwy glicio ar y botwm "Ymgeisio Ar-lein" ar y dde - bydd
hwn yn mynd â chi i Borthol Grantiau Chwaraeon Cymru. Dilynwch y
manylion am sut mae mewngofnodi (yn eich e-bost yn eich gwahodd i
ymgeisio) ac wedyn cliciwch ar rownd gyllido Elite Cymru i ddechrau
eich cais.