Canllawiau
Felly mae gennych chi ddiddordeb mewn gwneud byd o wahaniaeth
yn eich cymuned - mae hynny'n newyddion gwych!
Yn Chwaraeon Cymru rydyn ni eisiau creu cymunedau chwaraeon
ffyniannus a chynaliadwy ble mae'r cyfranogwyr wrth galon ein
penderfyniadau a'n camau gweithredu ar gyfer ehangu cyfranogiad
mewn chwaraeon. Rydyn ni eisiau gweld Cymru ble ceir llu o
gyfleoedd mewn amrywiaeth o leoliadau i blant, pobl ifanc ac
oedolion.
Gall grant gan Chwaraeon Cymru eich helpu chi i wella chwaraeon
yn eich cymuned a'n helpu ni i gyflawni hyd eithaf ein gallu i
chwaraeon yng Nghymru.
Rydyn ni wedi llunio 'Canllawiau'
defnyddiol i gyflwyno'r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i
wneud yn siŵr bod y broses yn rhedeg mor esmwyth ag y bo
modd.
Bydd y canllawiau'n cynnwys:
1. Y mathau o grantiau sydd ar gael
2. Pwy a beth sy'n gymwys am gyllid Chwaraeon Cymru
3. Awgrymiadau a chyngor ynghylch llenwi'r ffurflen
gais
4. Beth i'w wneud nesaf?
Gallwch lawrlwytho copi o'r 'Canllawiau' yma.
Ond, os oes gennych chi gwestiynau heb eu hateb o hyd, ar ôl
darllen y canllawiau, rydyn ni yma i helpu felly ffoniwch ni ar
0845 045 4310 a byddwn yn fwy na pharod i helpu.
NB: Sylwer bod Chwaraeon Cymru yn ddosbarthwr cyllid y Loteri
Genedlaethol.