Clwb Gymnasteg Lido Afan, Castell-nedd Port Talbot
Ar ôl cau campws hamdden
Lido Afan, a ddinistriwyd gan dân, roedd llawer o'r clybiau
cymunedol a'r grwpiau chwaraeon yn y rhanbarth heb
gartref.
Cyllidwyd y gwaith o adnewyddu hen garej a phrynu offer newydd
drwy grant gan Chwaraeon Cymru yn rhannol.
Bellach mae cyfleusterau dawns, bocsio a jiwdo ar gael yn yr
adeilad, a hefyd gymnasteg. Yn wir, mae'r clwb bellach yn denu hyd
at 60 o ieuenctid bob penwythnos ac mae'r hyfforddwyr yn y clwb yn
aelodau o Gymnasteg Cymru, y corff rheoli ar gyfer gymnasteg yng
Nghymru.
Os ydych chi'n meddwl y gallai grant gan Chwaraeon Cymru wneud
gwahaniaeth i'ch cymuned chi, yna beth am wneud cais am
un heddiw.