Clwb Pêl Droed Corwen, Sir Ddinbych
Arferai
Clwb Pêl Droed Corwen chwarae pêl droed mewn ysgol gynradd leol,
ond pan gafodd y goliau eu difrodi gan fandaliaid, nid oedd gan y
tîm unrhyw le i ymarfer
wedyn.
Felly cysylltodd Huw Jones â Chwaraeon Cymru ac wedi derbyn
grant bychan, prynwyd goliau symudol fel eu bod yn gallu ymarfer ar
gae'r clwb rygbi
lleol.
Mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth gyda mwy na 60 o ieuenctid
yn chwarae pêl droed bob wythnos. Hefyd, mae pump aelod o'r gymuned
wedi cwblhau eu cymwysterau hyfforddi ac mae pedwar arall ar y
rhestr fer.
Cewch ragor o wybodaeth am Glwb Pêl Droed Corwen yn eu gwefan.
Os ydych chi'n meddwl y gallai grant gan Chwaraeon Cymru wneud
gwahaniaeth i'ch cymuned chi, yna beth am wneud cais am
un heddiw.