Defnyddio'r canlyniadau
Gwneud defnydd da o'u
llais
Rydyn ni i gyd wedi gwneud llawer o ymdrech er mwyn casglu
ymatebion mwy na 116,000 o blant yn Arolwg ar Chwaraeon Ysgol
2015.
Felly mae'n briodol iawn bod y wybodaeth y mae'r arolwg wedi'i
rhoi i ni yn cael ei defnyddio'n effeithiol ac o fudd i ni i
gyd.
Rydyn ni'n gwybod bod bron i hanner yr holl blant wedi gwirioni
ar chwaraeon, sy'n grêt, ond mae'n rhaid i hynny fod yn well. Pan
maen nhw wedi gwirioni ar chwaraeon, maen nhw'n fwy tebygol o fod
yn iachach, yn fwy hyderus, a gwneud yn well yn gyffredinol yn yr
ysgol - mae hynny'n ffaith!
Gwneud i'r canlyniadau weithio i'ch ysgol
Roedd 116,000 o ymatebion yn rhoi llawer o ddata i ni ac rydym
yn gweithio'n galed i wneud defnydd da ohono ar lefel genedlaethol.
Ceir hefyd lawer iawn y gellir ei wneud ar lefel leol, yn eich
ysgolion chi eich hunain ac o dan arweiniad eich
disgyblion.
"Mae Estyn yn annog ysgolion i ddefnyddio
pecyn adnoddau'r arolwg ar chwaraeon ysgol i wella mentrau
lles"
Bydd y pecyn adnoddau isod yn helpu gyda gwneud defnydd da o
ganlyniadau eich ysgol. Defnyddiwch y pecyn gyda'ch adroddiad ysgol
a gofynnwch am gyfraniad creadigol gan eich disgyblion, er mwyn dod
o hyd i unrhyw ddulliau pwrpasol ar gyfer gwneud pethau'n well fyth
yn eich ysgol.
Mae'r holl adnoddau cynllunio i weithredu wedi cael eu datblygu
yn unol â chanlyniadau lles Estyn a dangosyddion Fy Ysgol Leol,
sy'n golygu y gallwch chi ddefnyddio'r canlyniadau i gefnogi
mentrau eraill yn eich ysgol.
Pecyn Adnoddau i Ysgolion
Cofiwch lwytho'r holl adnoddau y mae arnoch eu hangen i lawr a
dechreuwch wneud defnydd da o'ch canlyniadau yn yr arolwg ar
chwaraeon ysgol isod.
- Defnyddiwch y
Nodyn Briffio i'ch arwain drwy bob adnodd, cam wrth gam
- Llwythwch eich Cynllun
Gweithredu i lawr er mwyn dechrau arni
- Defnyddiwch y Poster i
gyfathrebu eich cynlluniau i'r ysgol gyfan
Angen ysbrydoliaeth? Cymerwch gipolwg ar y cyngor doeth gan
ysgolion ac awdurdodau lleol a ddefnyddiodd y canlyniadau yn
2013
I gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg ar chwaraeon ysgol,
cysylltwch â thîm yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol yn Chwaraeon Cymru -
schoolsportsurvey@sportwales.org.uk
Yn ôl at ganlyniadau 2015