Y Siwrnai Llythrennedd Corfforol
Nid dim ond i bobl ifanc mae llythrennedd corfforol yn berthnasol. Mae’n siwrnai o enedigaeth, yn ystod y cyfnod yn yr ysgol, pan yn oedolyn ac yn nes ymlaen mewn bywyd – gyda’r profiadau ar hyd y daith i gyd yn cyfrannu at lythrennedd corfforol person.
(physical literacy journey poster)
Mae’n bwysig archwilio a chael hwyl gyda rhieni a gofalwyr yn y blynyddoedd cynnar. Ac mae yr un mor bwysig bod yn fodel rôl ar ôl mynd yn hŷn, drwy drosglwyddo’r gwersi a ddysgwyd ac agweddau allweddol ar wybodaeth i’r genhedlaeth nesaf.
Rydyn ni eisiau i bawb, gan gynnwys plant, rhieni, teidiau a neiniau, athrawon, hyfforddwyr ac arweinwyr ifanc, chwarae eu rhan ar y siwrnai llythrennedd corfforol.
Mae ysgolion yn hynod bwysig ar gyfer y gwaith hwn gan eu bod yn chwarae rhan mor hanfodol yn natblygiad pobl ifanc ac yn gallu dylanwadu ar beth sy’n digwydd y tu hwnt i giât yr ysgol. Fodd bynnag, ni all addysg ar ei phen ei hun gyflawni hyn gan fod llythrennedd corfforol yn siwrnai oes i bob unigolyn. Mae pawb yn unigryw gyda gwahanol brofiadau bywyd, amgylcheddau a chyfranwyr ar hyd y daith.
Lle Chwaraeon Cymru fel sefydliad yw helpu i ddod â’r bobl briodol at ei gilydd i wneud gwahaniaeth mawr ar draws pob cymuned yng Nghymru. Mae mwy o waith ar y cwricwlwm newydd ar gael isod.
Ein Hadnoddau
Mae gennym ni ddau adnodd y gall unrhyw un eu defnyddio i helpu i ddatblygu sgiliau a hyder pobl ifanc.
Chwarae i Ddysgu
Adnodd i helpu plant 3 i 7 oed (cyfnod sylfaen) i wella eu Datblygiad Corfforol a’u sgiliau Symud Creadigol.
Mae Chwarae i Ddysgu yn ymwneud â defnyddio gemau hwyliog a datblygu sgiliau a hyder sy’n gwbl greiddiol i weithgareddau chwaraeon.
Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig
Y cam nesaf ar yr ystol sgiliau chwaraeon ar ôl Chwarae i Ddysgu ac mae Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig ar gyfer plant 7 i 11 oed. Y nod yw i bobl ifanc ddatblygu sgiliau corfforol allweddol sy’n berthnasol ac yn drosglwyddadwy ar draws amrywiaeth o wahanol chwaraeon.
Aml-Sgiliau’r Ddraig
Mae Aml-Sgiliau’r Ddraig yn rhoi sylw i ddatblygu sgiliau symud sylfaenol – ystwythder, cydbwysedd a chydsymudiad – yr ABC. Mae pob plentyn yn datblygu yn ei amser ei hun felly mae’r sesiynau’n cael eu teilwra i ddiwallu anghenion y person ifanc a’r gweithgareddau’n cael eu cynllunio i gefnogi eu datblygiad corfforol mewn ffordd gynyddol.
Campau’r Ddraig
Yn dilyn Aml-Sgiliau’r Ddraig mae Campau’r Ddraig. Wrth i sgiliau sylfaenol plentyn ddatblygu, bydd yn cael ei gyflwyno i fwy o weithgareddau penodol i chwaraeon, gan gynnwys:
1. Athletau
2. Criced
3. Pêl Droed
4. Golff
5. Hoci
6. Pêl Rwyd
7. Rygbi
8. Tennis
Beth arall ydyn ni’n ei wneud ym myd addysg?
Yn ogystal â datblygu adnoddau, rydyn ni’n buddsoddi mewn partneriaid fel awdurdodau lleol i ddatblygu chwaraeon mewn ysgolion a’r cysylltiadau gyda’r gymuned leol.
Hefyd rydyn ni’n casglu ymchwil a gwybodaeth, gan gynnwys yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol nodedig.
Rydyn ni’n gweithio gyda’r Youth Sport Trust i gynnal rhaglen y Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru.
Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, gan gynnwys ein partneriaeth gyda sefydliad Colegau Cymru.
Y Dyfodol – Y Cwricwlwm Newydd yng Nghymru
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar elfennau chwaraeon y cwricwlwm newydd.
Bydd y cwricwlwm, sy’n cael ei lunio ar hyn o bryd, yn seiliedig ar lythrennedd corfforol. Wedi’i ddatblygu gan y proffesiwn addysgu ar gyfer y proffesiwn addysgu, gyda chefnogaeth arbenigwyr yn eu meysydd perthnasol, bydd y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant, ar ôl ei gwblhau, yn esiampl o safon byd o sut gellir gweithredu llythrennedd corfforol ym myd addysg, gan ddarparu sylfaen ar gyfer dysgu i’r rhai 3 i 16 oed.