CA3
Dawns CA3 - I wneud dawns yn hygyrch i athrawon a dysgwyr. Am fwy o wybodaeth am yr adnodd hwn a sut mae’n bodloni gofynion y Cwricwlwm i Gymru, cliciwch yma.
CD Rom gyda chardiau adnoddau ar gyfer: 5 Gweithred Dawns Sylfaenol Trefniadau gofodol – 3 Ffurfiant a 9 Perthynas 5 Agwedd ar Amrywiaeth (cyflymder, cyfeiriad, lefel, llwybr, siâp) 17 dyfais goreograffig 6 uned waith gyda chwe sesiwn yr un (yn adeiladu o’r 12 uned waith flaenorol y gellir eu defnyddio hefyd) Arddulliau Dawns Taflenni data ar gyfer: Affricanaidd, Ballet, Cha-cha, Cyfoes, Hip-hop, Indiaidd, Lladin, Mambo, Merengue, a Salsa. Taflenni gwybodaeth ar gyfer 9 coreograffydd dylanwadol, 3 chwmni dawns dylanwadol, Gyrfaoedd mewn dawns. Syniadau cynhesu Taflenni data ar gyfer Salsa a Lindy hop. Lluniau Cwestiynu effeithiol, cwestiynau heriol a datblygu sgiliau cwestiynu dysgwyr Llwyddiant i Bawb
| |
Mae Gweithredoedd Dawns Sylfaenol yn sylfaen i’r holl symudiad creadigol a gellir eu cymhwyso i unrhyw gyd-destun, unrhyw thema ac unrhyw ysgogiad. Camau cynyddol ar gyfer datblygu dawns safonol gan ddefnyddio: Trefniadau gofodol; Amrywiaeth; Dyfeisiau coreograffig Cyfarwyddyd clir ar gyfer cynllunio defnyddio RECIPE fel strwythur gwers. Cyflwyniad i amrywiaeth o arddulliau dawnsio 6 uned waith o chwe sesiwn yr un Y cyfarwyddyd yn cynnwys defnyddio STEP, arddulliau addysgu, strategaethau grwpio, asesu, dulliau addysgeg (e.e. model Addysg Chwaraeon), defnydd effeithiol o gwestiynu, defnydd o TGCh.
| |
Cyfannol a chynhwysol ei natur.
Gellir cyflwyno agweddau datblygu (e.e. haenu’r dysgu gyda dyfeisiau coreograffig) i unigolion, parau, grwpiau bychain, dosbarth cyfan fel a phan mae’r dysgwyr yn barod.
Adeiladu ar Weithredoedd Dawns Sylfaenol a gall y camau o ddatblygu cysylltiadau dawns gael eu gwneud i’r rhan fwyaf o themâu / ysgogiadau er mwyn ystyried cyfleoedd trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach.
Cyfleoedd i ddysgwyr fynegi syniadau, meddyliau a theimladau.
Mae archwilio trefniadau gofodol yn gyfle i archwilio perthnasoedd mewn ffordd ddatblygiadol a diogel.
| |
Hygyrchedd yr adnodd a’r natur gynyddol yn rhoi hyder i ddysgwyr i ddatblygu dawnsfeydd o safon. | Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen, y brwdfrydedd a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny. |
Mae datblygu gweithredoedd dawns sylfaenol a chynyddol yn meithrin medrusrwydd dysgwyr ac yn eu herio i wella. Datblygu annibyniaeth fel perfformiwr, coreograffydd, beirniad a thechnegydd. | Yn defnyddio RECIPE fel strwythur cynllunio gan arwain athrawon i gyflwyno gwersi cynyddol. Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous.
|
Mae’r dysgwyr yn dysgu gweithredoedd dawns sylfaenol yn gyflym ac yn trosglwyddo’r rhain yn ddawnsfeydd safonol drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o ddyfeisiau coreograffig, trefniadau gofodol ac agweddau ar amrywiaeth ochr yn ochr â’r eirfa benodol yn gysylltiedig â’r rhain. | Defnyddir Cardiau Adnoddau a Chardiau Data i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer elfennau fel Trefniadaeth Ofodol, Amrywiaeth, Dyfeisiau Coreograffig. |
Cyfleoedd lluosog i ddysgwyr greu dawnsfeydd cynyddol yn annibynnol, gyda chefnogaeth cardiau adnoddau a thaflenni data. | Cyfleoedd lluosog i hwyluso dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ysgogiadau a haenu dysgu gan ddefnyddio cardiau adnoddau a thaflenni data. Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu ac amrywiaeth o ddulliau addysgu. |
Gellir cymhwyso egwyddorion dawns i unrhyw gyd-destun ac unrhyw ysgogiad. Gallai cynnwys o unrhyw un, a phob Maes Dysgu a Phrofiad gynnig y cyd-destun hwn gyda'r thema a'r ysgogiadau.
| |
Dangos yn glir, unwaith y cyflwynir Gweithredoedd Dawns Sylfaenol, y gellir cymhwyso'r rhain i UNRHYW thema / dawns / cyd-destun / ysgogiad.
Mae cael strwythur clir, cynyddol yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i athrawon / ymarferwyr gyda'r adnoddau, eu medrusrwydd a sut i'w defnyddio a'u trosglwyddo.
Tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer Asesu ar gyfer Dysgu, dulliau addysgeg, cwestiynu a chreadigrwydd.
Datblygu Model Addysg Chwaraeon fel dull addysgeg – drwy dynnu sylw pellach a mabwysiadu rôl perfformiwr, coreograffydd, beirniad a thechnegydd am yn ail fel cyfle i gysylltu ymhellach â MDaPh eraill.
Tynnu sylw clir at gynhwysiant a gwahaniaethu gyda dysgwyr yn cael eu herio. Gellir cyflwyno'r agweddau datblygiadol a chynyddol (e.e. haenu’r dysgu gyda dyfeisiau coreograffig) i unigolion, parau, grwpiau bach, dosbarth cyfan fel a phan mae’r dysgwyr yn barod.
Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un.
Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19). |