Modiwl 2
Modiwl Gymnasteg 2 - Yn gwneud gymnasteg yn hygyrch i athrawon a dysgwyr ac yn adeiladu ar y Gweithgareddau Addysgu’r Corff a gyflwynwyd ym Modiwl 1.
Adnodd: Modiwl Gymnasteg 2 | |
Pwrpas: Gwneud gymnasteg yn hygyrch i athrawon a dysgwyr ac adeiladu ar y Gweithgareddau Addysgu’r Corff a gyflwynwyd ym Modiwl 1. | |
Crynodeb o’r cynnwys:
Gweithgareddau Addysgu’r Corff Pellach: cadarnhau i ddatblygu cryfder, dygnedd a hyblygrwydd angenrheidiol i ymgeisio’n llwyddiannus Gemau Addysgu’r Corff Siapiau Sylfaen Ystumiau Sylfaen Ystumiau Neidio
Gweithredoedd sylfaenol: teithio (gan gynnwys dringo), neidio (gan gynnwys hedfan), cydbwyso (gan gynnwys siglo), rholio (gan gynnwys cylchdro) Amrywiaeth: cyflymder, cyfeiriad, lefel, siâp Ansawdd: rheolaeth, eglurder siâp, tensiwn y corff, ac os yw’n briodol ymestyn, manwl gywirdeb a chysondeb
Continwwm addysgu’r corff Cyfarpar: cyfarpar trin, offer, cynlluniau cyfarpar a defnyddio cyfarpar 6 uned waith (7 – 12) chwe sesiwn yr un Datblygu dilyniannau gan gynnwys amcanion dysgu clir Cyfarwyddyd clir ar gyfer cynllunio i ddefnyddio RECIPE fel strwythur gwers Llwyddiant i Bawb Cronfa o ymadroddion
Adnoddau corfforol i'w lawrlwytho: Gweithgareddau Addysgu’r Corff Cardiau gwag – ar gyfer lluniau o ddysgwyr i’w defnyddio Cardiau bingo Lluniau bach Taflenni gwerthuso Straeon addysgu’r corff
CD Rom Modiwl Gymnasteg 2 gyda gwybodaeth ehangach a fersiwn electronig o gardiau sgiliau a chardiau gweithgarwch.
| |
Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:
Gweithgareddau Addysgu’r Corff Siapiau Sylfaen Ystumiau Sylfaen Datblygu gweithgareddau / dilyniannau a sgiliau RECIPE Adeiladu a mireinio dilyniannau Continwwm addysgu’r corff Straeon addysgu’r corff Modelau gwerthuso Cyfarwyddyd ar ddefnyddio cyfarpar – mae neges yr ysgol gyfan yn berthnasol i Fodiwlau 1, 2, 3 a 4
| |
Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:
Ystyried anghenion datblygu’r dysgwyr gyda’r dysgwyr i gyd yn gallu cymryd rhan yn llwyddiannus yn y gweithgareddau.
Cyfannol a datblygiadol ei natur.
Cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a deall problemau a thasgau (e.e. cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad dysgwyr a gweithgareddau dan arweiniad ymarferwr).
Defnyddio gwerthuso’r hunan ac eraill (hunanwerthuso a gwerthuso cyfoedion) | |
Hyder a Chymhelliant | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Mae helpu plant i ddatblygu eu brwdfrydedd dros symudiad yn rhoi hyder iddynt ddal ati i fod yn actif yn gorfforol. | Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny. |
Medrusrwydd | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Datblygiad corfforol gweithgareddau addysgu'r corff, siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen. Mae dysgu sgiliau symud allweddol yn meithrin mwynhad ac ymgysylltu gydol oes â chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Adeiladu dilyniannau gan ddefnyddio siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen newydd BSA. | Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous. Gwybodaeth a chyfarwyddyd am bob BSA, siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen. Yn cynnwys ar gefn y cardiau sy’n cael eu dangos i’r dysgwyr. Strwythur RECIPE
|
Gwybodaeth a Dealltwriaeth | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Mae’r dysgwyr yn gwybod techneg gywir y sgiliau ac yn deall sut gallant eu rhoi mewn gemau, gweithgareddau a dilyniannau. Datblygu annibyniaeth a gweithio gydag eraill. Adlewyrchu gan ddefnyddio hunanasesu ac asesu cyfoedion. | Cardiau adnoddau yn rhoi cynnwys clir i athrawon / ymarferwyr a hefyd sut i haenu datblygiad dilyniannau gydag agweddau ar amrywiaeth, defnydd o gyfarpar a chwestiynu effeithiol. |
Cyfleoedd | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Cyfleoedd i wneud cardiau adnoddau dysgwyr unigol i'w harddangos neu eu defnyddio. Ysgrifennu straeon Addysgu'r Corff eu hunain a chreu gweithgareddau a gemau newydd ar eu pen eu hunain, gydag eraill, gydag ymarferwyr. | Cyfleoedd lluosog i arwain a hwyluso dysgu gan ddefnyddio’r cardiau adnoddau, straeon Addysgu’r Corff, siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen, gweithgareddau a gemau. Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu. |
Dolenni at MDaPh eraill
Celfyddydau Mynegiannol – Gellir defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu a pherfformio dilyniannau gymnasteg. Iechyd a Lles - Os yw plant yn mwynhau bod yn actif, yn hyderus yn eu gallu ac yn dysgu sgiliau symud allweddol bydd hyn yn meithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac felly'n gwella iechyd a lles. Archwilio a darganfod siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Cynnwys cronfa o eiriau ac ymadroddion a geirfa. Straeon addysgu’r corff – dysgwyr yn cael eu hannog i ysgrifennu straeon addysgu’r corff eu hunain. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog. Mathemateg a rhifedd - cyfleoedd ar gyfer cyfrif, adnabod siapiau ac iaith lleoli. | |
Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:
Mae gweithgareddau addysgu'r corff yn darparu sylfeini ar gyfer gymnasteg ond hefyd rheoli'r corff yn gyffredinol. Cynyddol wrth gyflwyno siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen – posibilrwydd y gall hyn ddod yn hybrid
Defnyddio addysgeg o athrawon yn arwain ac felly datblygu eu gwybodaeth a'u hyder gyda'r adnodd a'u medrusrwydd o ran sut i'w ddefnyddio.
Haenu gyda dulliau Asesu ar gyfer Dysgu eraill.
Ymgorffori mewn gweithgareddau / gemau eraill.
Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un.
Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19). |