Cyfnod Sylfaen
Symudiad Creadigol – I gyflwyno’r camau cynyddol ar gyfer datblygu Symudiad Creadigol a Dawns.
Adnodd: Symudiad Creadigol | |
Pwrpas: Cyflwyno’r camau cynnydd ar gyfer datblygu Symudiad Creadigol a Dawns. | |
Crynodeb o’r cynnwys:
Agweddau ar Symudiad Creadigol Beth - Gweithredoedd Dawns Sylfaenol: Teithio, Troi, Neidio, Ystum, Llonyddwch Ble – Cyfeiriad, Lefel, Llwybr, Ymwybyddiaeth Ofodol Gyda - phwy (Ymarferwr, partner, grŵp bychan, dosbarth cyfan) beth (props) Sut – Deinameg (Egni, Llif, Maint, Cyflymder), Ansawdd, Dyfeisiau Coreograffig (cytgord, canon, ailadrodd) I beth – cyfeiliant, byrfyfyrio
Ysgogiad - Cyffyrddol – defnyddio prop, Syniadaethol – defnyddio cysyniadau neu faterion, Cinesthetig – defnyddio patrymau symud, Clywedol – defnyddio cerddoriaeth, geiriau, cerddi, Gweledol – defnyddio lluniau, darluniau, dyluniadau, clipiau fideo Defnydd o ysgogiad mewn amgylchedd dysgu
Creu Dawns Cynllunio cyfleoedd symudiad creadigol er mwyn annog cysondeb a chynnydd
Sut i ddefnyddio ystod o adnoddau (e.e. cerddi, straeon, lluniau, lliwiau) i gynllunio, perfformio, gwerthuso ac asesu mewn symudiad creadigol
Mapiau Cynnydd Cardiau Thema RECIPE fel dull Gwerthuso, pennu targedau a chwestiynu
Nid yw’r adnoddau yn gynlluniau gwersi nac yn gynlluniau unedau ond gellir eu defnyddio fel sbringfwrdd i ysgogi syniadau pellach y gellir eu datblygu’n hawdd i ddarparu profiadau dysgu gwahaniaethol.
Cynnydd a ystyrir: ‘Wrth iddynt ddatblygu’, ‘Wrth iddynt wneud cynnydd’ ac ‘Wrth iddynt ddod yn fwy medrus’.
CD Rom gyda gwybodaeth ehangach a fersiwn electronig o’r cardiau thema a’r Wal Eiriau.
| |
Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:
Symudiad Creadigol yn cyfrannu at y plentyn cyflawn Agweddau ar Symudiad Creadigol Beth, Ble, Gyda, Sut, I beth Defnydd o amrywiaeth o ysgogiadau Cynllunio cyfleoedd symudiad creadigol Mapiau Cynnydd Cardiau Thema
| |
Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:
Ystyried anghenion datblygu’r dysgwyr (e.e. wrth iddynt ddatblygu, gwneud cynnydd a dod yn fwy medrus) o bersbectif cyfnod nid oedran.
Gellir cyflwyno agweddau datblygu (e.e. haenu’r dysgu gyda dyfeisiau coreograffig) i unigolion, parau, grwpiau bychain, dosbarth cyfan fel a phan mae’r dysgwyr yn barod.
Cyfannol ei natur.
Adeiladu ar Weithredoedd Dawns Sylfaenol a gall y camau o ddatblygu cysylltiadau dawns gael eu gwneud i’r rhan fwyaf o themâu / ysgogiadau er mwyn ystyried cyfleoedd trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach.
Cyfleoedd i ddysgwyr fynegi syniadau, meddyliau a theimladau.
Mae archwilio trefniadau gofodol yn gyfle i archwilio perthnasoedd mewn ffordd ddatblygiadol a diogel.
| |
Hyder a Chymhelliant | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Mae helpu plant i ddatblygu eu brwdfrydedd dros symudiad yn rhoi hyder iddynt ddal ati i fod yn actif yn gorfforol.
| Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, a’u cymell i wneud hynny.
|
Medrusrwydd | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Mae datblygu gweithredoedd dawns sylfaenol a chynyddol yn meithrin medrusrwydd dysgwyr. Mae dysgu sgiliau symud allweddol yn meithrin mwynhad ac ymgysylltu am oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.
| Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous. Yn defnyddio RECIPE fel strwythur cynllunio gan arwain athrawon i gyflwyno gwersi cynyddol.
|
Gwybodaeth a Dealltwriaeth | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Datblygu annibyniaeth. Mae’r dysgwyr yn dysgu gweithredoedd dawns sylfaenol yn gyflym ac yn trosglwyddo’r rhain yn ddawnsfeydd safonol gyda geirfa benodol yn gysylltiedig â’r rhain.
| Defnyddio Wal Eiriau a Chardiau Thema i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer elfennau fel Beth, Sut, Ble, Gyda, I Beth? |
Cyfleoedd | |
Disgyblion | Athrawon / ymarferwyr |
Cyfleoedd lluosog i ddefnyddio’r straeon, llyfrau, cerddi, lluniau, haniaethau (e.e.) lliwiau i ddatblygu ymadroddion symudiad creadigol a dawnsfeydd cynnydd yn annibynnol a gydag eraill.
| Cyfleoedd lluosog i arwain a hwyluso dysgu gan ddefnyddio straeon, llyfrau, cerddi, lluniau, haniaethau Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu ac amrywiaeth o ddulliau addysgu. |
Dolenni at MDaPh eraill Gellir cymhwyso egwyddorion symudiad creadigol i unrhyw gyd-destun ac unrhyw ysgogiad. Gallai cynnwys o unrhyw un, a phob Maes Dysgu a Phrofiad gynnig y cyd-destun hwn gyda'r thema a'r ysgogiadau. Celfyddydau Mynegiannol – Mae symudiad creadigol yn gyfle i gyfathrebu drwy symud a chreu ystyr. Mae'n ffordd gynhenid i ddysgwyr fynegi syniadau, meddyliau a theimladau. Ystod o gerddoriaeth i gyd-fynd â gweithredoedd a gweithgareddau. Cyfleoedd lluosog i gysylltu symudiad creadigol â synhwyrau a dychymyg. Iechyd a Lles – Gall symudiad creadigol gael effaith gadarnhaol ar iechyd, ffitrwydd a lles dysgwyr a gall fod yn gyfle personol iawn i archwilio a mynegi teimladau ac emosiynau. Mae trefniadau gofodol yn datblygu perthnasoedd mewn ffordd ddatblygiadol a diogel. Gall Dawns fod yn weithgaredd hamdden gydol oes Dyniaethau – Codi ymwybyddiaeth dysgwyr o wahanol draddodiadau, diwylliannau a chredoau, gan barchu gwahaniaethau pobl eraill, ysbrydoli chwilfrydedd yn y byd. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Defnyddio llyfrau, straeon, cerddi fel ysgogiadau. Mae dawns greadigol yn gyfle i gyfathrebu drwy symud. Cyfleoedd i drafod a chynllunio e.e. defnyddio Waliau Geiriau. Defnyddir iaith ddisgrifiadol wrth greu dawnsfeydd i ehangu a datblygu geiriau allweddol a geirfa ystyrlon. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog. Mae wal eiriau o greu dawnsfeydd yn ysgogiad gweledol. Mathemateg a rhifedd - nifer o gyfleoedd i gyfrif (curiadau a rhythm), ac iaith sy'n gysylltiedig ag Amrywiaeth – cyflymder, cyfeiriad, lefelau, llwybrau. Gwyddoniaeth a Thechnoleg – bod yn chwilfrydig am y byd naturiol, archwilio gwahanol leoliadau symudiad creadigol.
| |
Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:
Byddai’r Symudiad Creadigol yn elwa o ddadansoddi a symleiddio. Mae dulliau addysgol a syniadau addysgu niferus yn amlwg yn yr adnodd, fodd bynnag, mae cymaint o’r rhain fel eu bod yn anhygyrch i raddau ac mae hyn yn atal athrawon ac ymarferwyr rhag eu defnyddio.
Defnyddio addysgeg o athrawon yn arwain ac felly datblygu eu gwybodaeth a'u hyder gyda'r adnodd a'u medrusrwydd o ran sut i'w ddefnyddio.
Dull symlach – llai yn fwy.
Os yn arwain gyda chardiau, dangos cysylltiadau thematig clir i’r MDaPh (Môr-ladron, Hydref, Mythau a Chwedlau)
Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un.
Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19). |