Skip to main content
  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru

Athrofa Chwaraeon Cymru

Beth yw Athrofa Chwaraeon Cymru?

Mae ein tîm yn Athrofa Chwaraeon Cymru yn cefnogi athletwyr Cymru i sicrhau llwyddiant ar lwyfan y byd.

Mae ein tîm ni’n cynnwys ymarferwyr gwyddoniaeth a meddygaeth a chynghorwyr perfformiad, ynghyd â chynorthwywyr o Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru (WIPS). 

Mae ein hymarferwyr wedi gweithio ym mhob cwr o’r byd, mewn gemau aml-chwaraeon mawr ac mewn gwersylloedd hyfforddi rhyngwladol. Gan ddarparu cefnogaeth i gyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol, helpodd gwaith y tîm i sicrhau bod Cymru’n cael ei Gemau Cymanwlad mwyaf llwyddiannus erioed yn 2018 gan ddychwelyd adref gyda 36 o fedalau - 10 aur, 12 arian ac 14 efydd.

Sefydliad Chwaraeon Cymru - Ein Gwasanaethau

Therapi Meinwe Meddal

Therapi Meinwe Meddal yw rheoli, trin ac adfer y meinweoedd meddal yn y corff er mwyn adfer/gwella estynadwyedd…

Darllen Mwy

Ffisiotherapi Perfformiad

Mae ein Ffisiotherapyddion Chwaraeon yn rhan allweddol o baratoadau athletwr. Maent yn gweithio fel…

Darllen Mwy

Ffisioleg Perfformiad

Ffisioleg chwaraeon yw’r wyddoniaeth gysylltiedig â sut mae ymarfer corff yn newid strwythur a swyddogaeth…

Darllen Mwy

Seicoleg Perfformiad

Mae gennym ni dîm penodol ac angerddol o Seicolegwyr Perfformiad sy’n gweithio gyda chwaraeon i alluogi…

Darllen Mwy

Maeth Perfformiad

BETH YW MAETH PERFFORMIAD?Ein nod cyffredinol ni fel tîm maeth perfformiad yw helpu athletwyr i ddatgloi…

Darllen Mwy

Cryfder a Chyflwr

Pwrpas cryfder a chyflwr yw gwella perfformiad a lleihau’r risg o anaf drwy ddatblygu cryfder, pŵer…

Darllen Mwy

Ymgynghoriaeth Meddygaeth Chwaraeon

Mae ein meddygon meddygaeth chwaraeon yn arbenigwyr ar reoli salwch cyffredinol ac agweddau meddygol…

Darllen Mwy

Ffordd o Fyw yn Perfformio

Mae ein tîm penodol o gynghorwyr Ffordd o Fyw yn Perfformio yn gweithio gydag athletwyr i gefnogi eu…

Darllen Mwy

Dadansoddi Perfformiad

Mae ein tîm o Ddadansoddwyr Perfformiad yn darparu gwybodaeth wrthrychol i hyfforddwyr ac athletwyr…

Darllen Mwy

Ein dull o weithredu

Ein dull o weithredu yw trin pob unigolyn fel person, cyn eu bod yn athletwr neu’n bencampwr.  Er bod ennill yn bwysig, lles ac iechyd sy’n dod gyntaf.

Rydyn ni’n mabwysiadu’r athroniaeth ar ein cyfer ein hunain a’n staff hefyd. Rydyn ni’n buddsoddi mewn datblygiad personol i gefnogi twf pob unigolyn i ddarparu gwell gwasanaeth i chwaraeon yng Nghymru yn y pen draw. 

Mae ein holl ddisgyblaethau – seicoleg, ffisioleg, ffisiotherapi, ffordd o fyw yn perfformio, dadansoddi perfformiad, meddygaeth chwaraeon – yn cydweithio’n agos i sicrhau bod ein gwaith ni’n gyfannol.

Yn ceisio gwella drwy’r amser, rydyn ni’n mesur ymddygiad ac ansawdd ein rhyngweithio. Rydyn ni bob amser yn ceisio gwella ein harbenigedd dechnegol ac mae ein hadrodd yn ôl yn adlewyrchu ar adborth yr athletwyr a’r staff. 

Cyfleoedd

Rydyn ni’n cynnal rhaglen Interniaeth flynyddol i Fyfyrwyr, ar gyfer y rhai sy’n dilyn addysg ôl-radd berthnasol. Mae ein rhaglen yn rhedeg fel rheol rhwng mis Hydref a mis Awst. Os hoffech chi wneud cais am fod yn rhan o’n grŵp nesaf, siaradwch gydag arweinydd eich cwrs ôl-radd

Am swyddi gwag, ewch i’n tudalennau recriwtio ble gallwch gofrestru ar gyfer hysbysiadau am swyddi.

Sylwer nad ydym yn gallu cynnig profiad gwaith.

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Sut mae'r Loteri Genedlaethol yn Cefnogi Chwaraeon Elitaidd yng Nghymru

Heb gyllid gan y Loteri Genedlaethol, ni fyddai llawer o’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i athletwyr…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Olympaidd

Pan fydd Olympiaid Cymru yn camu allan ar lwyfan y byd yr haf yma, bydd byddin gyfan o wirfoddolwyr,…

Darllen Mwy

Ella Maclean-Howell: Canllaw Olympiad i Feicio Mynydd yng Nghymru

Dyma ddadansoddiad Ella o’r llwybrau beicio mynydd gorau yng Nghymru.

Darllen Mwy