Meysydd gwaith
Mae ein hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y canlynol:
- Asesiad perfformiad niwrogyhyrol
- Cryfder, cyflymder/newid cyfeiriad ac amserlenni hyfforddi seiliedig ar ffitrwydd, yn y gampfa ac ar y cae
- Hyfforddiant codi barbelau, ymarferion atodol a driliau ar y tir
- Hyfforddiant cryfder craidd
- Asesiad penodol i chwaraeon seiliedig ar symudiad
Ein Hardal Perfformiad Uchel Ar y Safle
Mae ein tîm Cryfder a Chyflwr wedi’i leoli yn Ardal Perfformiad Uchel Athrofa Chwaraeon Cymru, gyda’n gwasanaethau gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon eraill. Mae gan yr Ardal Perfformiad Uchel offer llawn ac mae’n cynnwys llwyfannau grym. Mae ein hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr yn gweithio hefyd gydag athletwyr a hyfforddwyr mewn lleoliadau hyfforddi penodol i chwaraeon ledled Cymru.
Ein henw da
Mae gan ein hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr gymwysterau MSc i gyd mewn Cryfder a Chyflwr ac mae rhai wedi’u hachredu gan UKSCA.
Gweithio’n gyfannol
Mae’r ymarferwyr yn Athrofa Chwaraeon Cymru’n cydweithio’n agos fel bod yr athletwyr yn cael triniaeth gyfannol. Mae’r hyfforddwyr cryfder a chyflwr yn gweithio’n agos gyda’r Ffisiolegwyr a’r Ffisiotherapyddion yn benodol.