CWESTIYNAU CYFFREDIN
Beth yw'r ymrwymiad amser?
Y penwythnosau ymarferol, wyneb yn wyneb ar gyfer cwrs 2024 yw: 21-22 Medi, 19-20 Hydref, a 23-24 Tachwedd. Ar ôl hyn, bydd yr holl asesiadau ar-lein ac yn hyblyg. Bydd angen i chi ymrwymo i hyfforddi cyfranogwr (yn ddelfrydol byddai hwn yn athletwr rydych chi eisoes yn ei hyfforddi, ond gallai fod yn aelod o'r teulu neu'n ffrind sy'n cymryd rhan mewn unrhyw lefel o chwaraeon) drwy raglen Cryfder a Chyflyru a chadw portffolio cynhwysfawr o'ch cynlluniau a'ch darpariaeth dros gyfnod o 12 wythnos.
Ydych chi’n darparu ar gyfer anghenion dysgu penodol?
Ydym! Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw ofynion dysgu penodol neu anafiadau parhaus a allai effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn sesiwn ymarferol, a byddwn yn darparu ar gyfer y rhain ar eich cwrs.
A fydd hyn yn caniatáu i mi gael fy yswirio i ddarparu mewn amgylchedd campfa?
Bydd! Os ydych chi eisoes yn gweithio drwy CRhC neu ysgol, dylai'r cymhwyster ganiatáu i chi gyflwyno Cryfder a Chyflyru fel rhan o'ch cyflogaeth a chael eich cynnwys yn eu polisi atebolrwydd presennol. Gallwch hefyd benderfynu cymryd yswiriant preifat os hoffech wneud eich gwaith Cryfder a Chyflyru preifat eich hun y tu allan i'ch sefydliad.
Beth os na allaf ddod i un o'r penwythnosau?
Er ein bod yn argymell mynychu pob diwrnod wyneb yn wyneb i gael y gorau o'r cwrs, byddwch yn dal yn gallu cwblhau'r cymhwyster os na allwch fynychu un o'r dyddiau / penwythnosau. Efallai y bydd angen i chi gwblhau rhywfaint o waith annibynnol i ddal i fyny gartref, neu ddod i mewn yn ystod diwrnod o'r wythnos os byddwch yn colli un o'r asesiadau ymarferol.