BETH FYDDAF YN EI DDYSGU?
Fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn gwbl gymwys i gyflwyno hyfforddiant corfforol i athletwyr sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon (bob cam o lawr gwlad i lefel elitaidd) er mwyn gwella eu perfformiad ac atal anafiadau.
Mae hyn yn cynnwys dysgu sut i addysgu a chynllunio sesiynau ar gyfer datblygu:
Sgiliau symud sylfaenol (gwella gallu athletwr i symud ei gorff yn effeithlon ac yn effeithiol) | Systemau egni (h.y. ffitrwydd aerobig ac anaerobig) | Cryfder a phŵer | Cyflymder ac ystwythder
|
• Cyrcydu • Colfachu • Hyrddio • Gwthio / Tynnu • Pedwarpedal • Cylchdroadau • Rhedeg, Neidio a Glanio
| • Hyfforddiant i wella dygnedd aerobig ac anaerobig | • Cymhwysedd Symud Sylfaenol • Cryfder • Dygnedd Cyhyrol • Hypertroffi • Symudiadau ffrwydrol
| • Cyflymu • Arafu • Newid Cyfeiriad
|
Byddwch hefyd yn cael eich uwchsgilio ar natur gyfannol hyfforddi Cryfder a Chyflyru, gan gynnwys y wyddoniaeth sylfaenol o ran hyfforddi a chynllunio yn ogystal â sut i greu amgylchedd Cryfder a Chyflyru difyr a chadarnhaol.
Gwybodaeth a Sgiliau
| Defnydd |
Deall rôl Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru
| Darparu rhaglenni Cryfder a Chyflyru ‘sy’n cael eu harwain gan berfformiad’ ar draws ystod amrywiol o gyfranogwyr. Deall pryd i gyfeirio. |
Sail wyddonol sylfaenol cryfder a chyflyru | Defnyddio egwyddorion hyfforddiant i gyflwyno sesiynau effeithiol |
Hyfforddiant effeithiol | Arddangos, disgrifio a hyfforddi symudiad effeithiol, gan symud ymlaen / dod yn ôl lle bo hynny yn briodol |
Cynllunio rhaglenni hyfforddi | Dylunio ac ysgrifennu cynlluniau hyfforddi tymor canolig yn seiliedig ar ddadansoddiad cynhwysfawr o anghenion |
Deall modelau technegol | Arsylwi, Hyfforddi ac Adborth, modelau technegol y cytunwyd arnynt yn seiliedig ar symudiadau |
Hyfforddi effeithiol | Ymgysylltu, addysgu a chyfathrebu'n effeithiol â chyfranogwyr ar draws cefndir eang |
Beth mae’r cwrs yn ei gynnwys – beth fydd yn ofynnol i mi ei wneud?
Bydd gofyn i chi gwblhau 5 asesiad. Bydd y 3 asesiad cyntaf yn ymarferol ac yn cael eu cwblhau yn y sesiynau wyneb yn wyneb gyda'r cyfranogwyr eraill ar y cwrs. Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau'r rhain, mae'n ofynnol i chi gyflwyno rhaglen 12 wythnos i rywun y tu allan i'ch cwrs. Bydd yr asesiadau terfynol yn cynnwys creu portffolio a chyflwyno i arweinydd eich cwrs wrth i chi gynllunio, cyflwyno ac adlewyrchu ar y rhaglen 12 wythnos.
Asesiad Ymarferol A
Hyfforddiant symudiadau sylfaen - hyfforddi sesiwn 20 munud i grŵp bach
Asesiad Ymarferol B
Diogelwch hyfforddi yn y gampfa - sbotio a methu'n ddiogel
Asesiad Ymarferol C
Asesiad hyfforddiant seiliedig ar gryfder - hyfforddi sesiwn 40 munud i unigolyn
Asesiad D - Rhaglennu a Chynllunio
Gyda chyfranogwr bywyd go iawn, cynnal ymgynghoriad, dadansoddi anghenion, profi perfformiad, a dylunio rhaglen 12 wythnos.
Yna byddwch yn cyflwyno'r gwaith hwn i'ch asesydd, 1-i-1 (gellir ei wneud trwy Teams/Zoom).
Asesiad E - Asesiad Effaith ac Ymarfer Myfyriol
Cyflwyno a darparu tystiolaeth o newidiadau i'r rhaglen, a log myfyriol. Bydd gofyn i chi gyflwyno eich myfyrdodau a chwblhau cwis anatomeg a ffisioleg.