Main Content CTA Title

Pam mae Chwaraeon Cymru wedi penderfynu lansio'r cwrs hwn?

  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru
  3. Cryfder a Chyflwr
  4. Pam mae Chwaraeon Cymru wedi penderfynu lansio'r cwrs hwn?

Seb Moran – Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Arweiniol Chwaraeon Cymru – sy’n blogio am gymhwyster newydd sbon ar gyfer y rhai sy’n gweithio gyda’r genhedlaeth nesaf o athletwyr o Gymru.

Ydych chi braidd yn rhwystredig nad oes gan eich athletwyr addawol chi, sydd ddim ar lefel elitaidd mewn chwaraeon eto, fynediad at gefnogaeth o’r safon uchaf?

Yma yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni’n ceisio newid hynny fel bod gan bob plentyn y gefnogaeth sydd ei hangen i gyrraedd ei botensial.

Rydyn ni’n lansio cwrs newydd sbon – cymhwyster lefel mynediad, galwedigaethol mewn cryfder a chyflyru, wedi’i anelu at hyfforddwyr chwaraeon, athrawon Addysg Gorfforol, ac eraill sy’n gweithio gydag athletwyr ifanc. Ac rydw i'n meddwl bod ganddo botensial enfawr i wneud byd o wahaniaeth i chwaraeon yng Nghymru.

Pam mae angen y cwrs cryfder a chyflyru yma?

Wrth i chwaraeon lefel elitaidd ddod yn fwyfwy anodd, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn yr angen am arbenigedd penodol - gyda'r rhan fwyaf o sefydliadau bellach yn cyflogi staff arbenigol i weithio ochr yn ochr â hyfforddwyr chwaraeon. Ac er bod hyn wedi bod o fudd i'r haen uchaf o chwaraeon, efallai ei fod wedi dod ar draul y genhedlaeth iau.

Mae addysgu athletwyr sut i symud eu corff yn effeithiol - neidio a glanio, cydbwyso, sbrintio a newid cyfeiriad - yn aml yn cael ei ystyried yn eilradd i ddysgu technegau a thactegau chwaraeon-benodol. Mae'r rhan fwyaf o hyfforddwyr chwaraeon bellach yn gweld symud a hyfforddiant corfforol fel maes yr arbenigwyr cryfder a chyflyru.

Fodd bynnag, ar lefel llwybr ac ar lawr gwlad mewn chwaraeon – lle nad oes cyllid ar gyfer staff arbenigol – mae hyn yn peri problem. Mae dylanwad negyddol gemau fideo a chyfryngau cymdeithasol ar athletiaeth cenhedlaeth heddiw yn golygu bod pobl ifanc bellach yn trosglwyddo i'r lefel elitaidd heb y sgiliau symud sydd arnyn nhw eu hangen i ffynnu.

Pam mae hyn yn bwysig nawr? Yr heriau sy'n wynebu ein hathletwyr…

Gan fod gofynion y gêm lefel elitaidd yn rhoi pwysau cynyddol ar hyfforddwyr ac athletwyr i arbenigo'n gynt ac i hyfforddi'n galetach ac am gyfnod hwy, mae cyfraddau yr anafiadau a'r rhai sy'n rhoi'r gorau iddi yn uwch nag erioed.

Mae athletwyr benywaidd ifanc, yn arbennig, mewn mwy o berygl o gael anafiadau sy'n bygwth gyrfa fel rhwygiadau ACL - un o brif achosion rhoi'r gorau i chwaraeon.

Mae angen i ni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o athletwyr yn cael y lefel gywir o gefnogaeth. Ac fe allwn ni wneud hynny drwy roi'r sgiliau a'r hyder i hyfforddwyr ar y llwybr ddarparu'r gefnogaeth honno.

Felly, beth yw'r cwrs?

Mae’n gymhwyster galwedigaethol lefel 3 sydd wedi’i sefydlu gan Gymdeithas Cryfder a Chyflyru y DU (UKSCA). Wedi’i anelu at hyfforddwyr chwaraeon, athrawon Addysg Gorfforol, ac eraill sy’n gweithio gydag athletwyr ifanc – mae’n galluogi’r ymgeisydd llwyddiannus i gael yswiriant llawn i ddarparu hyfforddiant cryfder a chyflyru er mwyn gwella perfformiad ac atal anafiadau.

Roeddwn i’n amheus ar y dechrau, o ystyried hanes y diwydiant ffitrwydd o gynnig cyrsiau penwythnos i hyfforddwyr “dicio’r blwch” a derbyn eu tystysgrif arbenigedd. Ond fe wnes i newid fy meddwl yn gyflym.

Nid yn unig y mae disgwyl i chi gwblhau asesiadau ymarferol, rhaid i chi hefyd gyflwyno rhaglen 12 wythnos a chadw “portffolio o ymarfer” lle byddwch yn adlewyrchu ar eich cryfderau, eich gwendidau, ac yn dysgu drwy brofiad. Mae'n mynd ymhell y tu hwnt i natur ddamcaniaethol y rhan fwyaf o gymwysterau.

Rydyn ni eisiau gwneud y cwrs yma’n fforddiadwy ac yn gynhwysol a dyma pam rydyn ni wedi rhoi gostyngiad ar ei bris i £600, tra bo darparwyr hyfforddiant eraill yn ei gynnig am hyd at £1250. Yn y cyfamser, mae cwrs hyfforddwr personol lefel 3 cyfatebol, heb unrhyw ffocws ar athletwyr, ar gael am £995. Mae system chwaraeon gynhwysol yn flaenoriaeth i ni yn Chwaraeon Cymru a’r gobaith ydi y bydd y gostyngiad hwn yn gwneud y cwrs yn llawer mwy hygyrch i sefydliadau neu unigolion nad ydynt efallai’n gallu fforddio cymwysterau yn rhywle arall.

Ar ôl prosiect peilot llwyddiannus, rydw i’n falch iawn ein bod ni, ynghyd â’r UKSCA, yn gallu cynnig y cymhwyster yma i hyfforddwyr chwaraeon, athrawon Addysg Gorfforol, ac arweinwyr eraill sy’n helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer athletwyr yfory.

Sut gallaf i gofrestru ar gyfer y cymhwyster cryfder a chyflyru?

Os hoffech chi gael gwybod mwy am y cymhwyster a sut gallai fod o fudd i chi neu eich sefydliad, e-bostiwch [javascript protected email address]

Fe fyddwn i hefyd yn ddiolchgar pe baech chi’n gallu rhannu’r wybodaeth gyda’ch rhwydweithiau fel ein bod ni’n gallu lledaenu’r gair ledled Cymru.