Ffisioleg chwaraeon yw’r wyddoniaeth gysylltiedig â sut mae ymarfer corff yn newid strwythur a swyddogaeth y corff. Mae ffisiolegwyr chwaraeon angen dealltwriaeth dda o ofynion ffisiolegol perfformiad chwaraeon, yn ogystal â gwybodaeth fanwl am sut mae’r corff yn ymateb ac yn addasu wrth gael ei roi dan straen corfforol acíwt a chronig. Defnyddir yr wybodaeth yma i ddatblygu trefn hyfforddi deilwredig ar gyfer athletwyr elitaidd, i sicrhau’r perfformiad corfforol gorau posib.
Mae ffisiolegwyr Chwaraeon Cymru yn gweithio gydag athletwyr perfformiad uchel a’u hyfforddwyr, fel rhan o dîm cefnogi amlddisgyblaethol, i ddarparu gwybodaeth a chyngor ymarferol a pherthnasol mewn lleoliadau amrywiol, o’r labordy ymchwil i’r maes, wrth iddynt hyfforddi ac mewn gwersylloedd cyn cystadlu a digwyddiadau cystadleuol.