Mae ein tîm penodol o gynghorwyr Ffordd o Fyw yn Perfformio yn gweithio gydag athletwyr i gefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol ochr yn ochr â’u gyrfaoedd chwaraeon cystadleuol.
Maent yn cefnogi athletwyr perfformiad uchel y genedl i ddatblygu’r sgiliau perthnasol i reoli a chydbwyso ymrwymiadau perfformiad yn rhagweithiol gyda gweithgareddau eraill a gofynion fel astudiaethau, gwaith neu fywyd teuluol.
Gan gydweithio â Chyfarwyddwyr Perfformiad, hyfforddwyr, rhieni a chydymarferwyr yn yr adran Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon, ein dull o weithredu yw lleihau pryderon, gwrthdaro ac ymyriadau posib – sy’n gallu bod yn niweidiol i gyd i fywydau personol a pherfformiad.