BETH YW MAETH PERFFORMIAD?
Ein nod cyffredinol ni fel tîm maeth perfformiad yw helpu athletwyr i ddatgloi pŵer bwyd fel eu bod yn cael mwy o amser i hyfforddi (drwy leihau’r dyddiau a gollir i anaf a salwch), gwell hyfforddiant (manteisio i’r eithaf ar bob sesiwn) a pherfformiadau cystadlu gorau (o weithio gyda gwestai i ddatblygu llinellau amser personol).
Gan ddefnyddio athroniaeth “bwyd yn gyntaf”, mae ein tîm yn gweithredu’n integredig ac yn gyfannol ochr yn ochr â hyfforddwyr ac ymarferwyr gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon i sicrhau bod athletwyr yn gwbl ganolog yn ein hymyriadau maeth perfformiad.
Mae Athrofa Chwaraeon Cymru yn darparu amrywiaeth o wasanaethau maeth perfformiad i wella perfformiad yn ystod camau hyfforddi a chystadlu mewn chwaraeon niferus.