Mae gennym ni dîm penodol ac angerddol o Seicolegwyr Perfformiad sy’n gweithio gyda chwaraeon i alluogi athletwyr, hyfforddwyr a chyfarwyddwyr perfformiad i ffynnu yn eu hamgylcheddau hyfforddi a chystadlu.
Cenhadaeth y tîm Seicoleg Perfformiad yw cefnogi ein chwaraeon allweddol i baratoi’n feddyliol er mwyn gallu rhoi’r perfformiad priodol ar yr amser priodol.