Trosolwg o’r ddisgyblaeth
Mae ein Therapyddion Meinwe Meddal yn allweddol ym mharatoadau’r athletwyr. Maent yn cydweithio oddi mewn i dîm amlddisgyblaethol ehangach er mwyn lleihau’r risg o anafiadau, sicrhau’r perfformiad gorau posib a chynyddu gallu athletwyr i hyfforddi a chystadlu.
Mae eu gwybodaeth am gynnal ac adfer y meinwe meddal yn cael ei harwain gan ddeallusrwydd a’i gyflwyno gyda chreadigrwydd. Y pwrpas yw sicrhau bod unrhyw atebion yn cyd-fynd â gofynion pwrpasol y gamp a’r athletwr.
Mae ein Therapyddion Meinwe Meddal yn anelu at ddarparu gwasanaeth cefnogi perfformiad eithriadol i athletwyr Cymru a Phrydain. Drwy ddull integredig a chyfannol o weithredu wrth gefnogi athletwyr, gallwn fabwysiadu dull person yn gyntaf o weithio sy’n cyd-fynd â gwerthoedd craidd yr Athrofa.
MEYSYDD GWAITH?
Yn Chwaraeon Cymru, mae Therapyddion Meinwe Meddal yr Athrofa yn darparu triniaeth meinwe meddal effeithiol ac yn ceisio addysgu’r athletwr am fanteision therapi meinwe meddal fel mesur ataliol ac fel cyfrwng i adfer. Bydd rhaglen yn cael ei dyfeisio yn seiliedig ar anghenion chwaraeon benodol ac unigol yr athletwr.
Mae ein pwrpas cyffredinol yn seiliedig ar ein gallu i feithrin perthnasoedd sy’n galluogi i ni gysylltu’n well â’r gamp, hyfforddwyr ac athletwyr.