Skip to main content

Ymgynghoriaeth Meddygaeth Chwaraeon

  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru
  3. Ymgynghoriaeth Meddygaeth Chwaraeon

Mae ein meddygon meddygaeth chwaraeon yn arbenigwyr ar reoli salwch cyffredinol ac agweddau meddygol ar anafiadau cyhyrysgerbydol, adfer, a pherfformiad.

Maent i gyd wedi cael hyfforddiant mewn delweddu uwch-sain diagnostig. Gan weithio’n agos gyda’n Ffisiotherapyddion a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach, eu nod yw sicrhau’r effaith orau bosib o reoli anafiadau, a sefydlu strategaethau i wella perfformiad gan leihau’r risg o anaf hefyd. Mae iechyd a lles athletwr, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn hollbwysig.  

Meysydd gwaith

  • Sgrinio meddygol
  • Cydweithredu â staff cefnogi ac ymgynghorwyr meddygol allanol i sicrhau’r iechyd corfforol, yr adfer a’r gwella gorau
  • Lles ac iechyd y meddwl a chydweithredu â Seicolegwyr clinigol a chwaraeon
  • Delweddu a chyfeirio at ymyriadau radiolegydd
  • Rhoi meddyginiaethau ar bresgripsiwn

  

Ein henw da

Mae ein meddygon yn ymgynghorwyr mewn naill ai Feddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer neu Feddygaeth Frys. Rhyngddynt, maent wedi cefnogi llawer o enillwyr medalau Olympaidd, Byd, Cymanwlad ac Ewropeaidd mewn amrywiaeth eang o chwaraeon.  

Mae ein meddygon wedi’u cofrestru gyda’r GMC ac yn cael eu hailddilysu ar gyfer ymarfer bob pum mlynedd.   

Gweithio’n gyfannol

Mae ein Ffisiotherapyddion yn cydweithio gyda’r holl ddisgyblaethau yn yr adran Gwyddoniaeth a Meddygaeth Chwaraeon, gan sicrhau bod dull cyfannol o weithredu’n cael ei roi ar waith gyda phob athletwr. 

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy

Arwr y byd bocsio, Lauren Price, yn canmol effaith y Loteri

Mae’r bencampwraig focsio Lauren Price wedi mynd yn ôl at ei gwreiddiau i weld sut mae cyllid y Loteri…

Darllen Mwy

Tanni yn canmol effaith y Loteri Genedlaethol sy’n ‘newid y gêm’

Tanni Grey-Thompson yn dathlu'r Loteri Genedlaethol ar ei phen-blwydd yn 30 oed

Darllen Mwy