1. Cyflwyniad
Mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob penderfyniad am Gyllid Buddsoddi yn cael ei wneud yn briodol ac yn unol â’n meini prawf fel maent wedi’u cyhoeddi. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein Partneriaid yn cael yr holl wybodaeth angenrheidiol i sicrhau eu bod yn deall yn llawn y sail ar gyfer pob penderfyniad Buddsoddi a'r rhesymau pam y dyfarnwyd symiau neu, mewn rhai achosion, pam y gwrthodwyd ceisiadau am fuddsoddiad.
Mae Chwaraeon Cymru yn rhagweld y bydd deialog barhaus gyda’n Partneriaid drwy gydol y polisi Buddsoddi. Byddwn yn ceisio sicrhau bod gan Bartneriaid yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer ceisiadau / cyflwyniadau, byddwn yn ymwybodol o'r data a gedwir gan Chwaraeon Cymru at ddibenion dyrannu cyllid pan fo hynny'n berthnasol, a byddwn yn ymwybodol o'r ffordd y byddwn yn asesu ceisiadau a sut mae'r polisi gwneud penderfyniadau Buddsoddi yn gweithio. Pan fo hynny'n briodol, rhoddir adborth i Bartneriaid ar eu ceisiadau / cyflwyniadau.
2. Apêl
Fodd bynnag, er gwaethaf ein hymrwymiad i sicrhau bod Partneriaid yn gwbl ymwybodol o'r rhesymau dros pam y gwnaed penderfyniadau Buddsoddi, efallai y byddwch yn anfodlon o hyd ac eisiau apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw. O dan yr amgylchiadau hynny mae gennym bolisi apêl cadarn i sicrhau bod unrhyw bryderon y gellir eu cyfiawnhau yn cael sylw cyflym a chynhwysfawr.
Mae'r seiliau dros apelio yn gyfyngedig. Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol mae Chwaraeon Cymru yn gallu ystyried apeliadau:
- Rydych chi o'r farn nad yw Chwaraeon Cymru wedi dilyn ein gweithdrefnau, neu nad yw wedi gweithredu ein gweithdrefnau, yn rhesymol.
- Rydych chi’n gallu dangos ein bod wedi camddeall rhan sylweddol o'ch cais neu'r deunydd rydych wedi'i gyflwyno i ni sydd wedi arwain at leihau, addasu neu wrthod eich Cyllid Buddsoddi.
3. Polisi Apeliadau
I ddechrau, byddem yn gobeithio gallu ymdrin ag ymholiadau yn anffurfiol ac, fel rhan o’r ddeialog barhaus, byddem yn eich annog i siarad â’r personél priodol yn Chwaraeon Cymru i gael gwybodaeth mewn perthynas â phenderfyniad Buddsoddi. Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon o hyd ar ôl y ddeialog hon, mae’r polisi apeliadau fel a nodir isod: -
Cam 1
- I gyflwyno apêl dylech ysgrifennu, yn y lle cyntaf, at Brif Weithredwr Chwaraeon Cymru o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cawsoch gadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad eich cais am fuddsoddiad.
- Mae'n rhaid i'r apêl gael ei chyflwyno'n ysgrifenedig a rhaid nodi sail yr apêl yn glir. Dylech hefyd sicrhau bod yr apêl wedi’i hategu gan unrhyw dystiolaeth ychwanegol i gefnogi’ch apêl a / neu ei bod yn cyfeirio’n benodol at ddogfennau a gyflwynwyd yn flaenorol i Chwaraeon Cymru.
- Bydd eich apêl yn cael ei chydnabod o fewn 5 diwrnod gwaith i’w derbyn.
- Bydd y Prif Weithredwr yn cyfeirio'r apêl at unigolyn penodol yn Chwaraeon Cymru sydd â'r lefel angenrheidiol o ddealltwriaeth o'r polisi buddsoddi i ystyried yr apêl ac ni fydd yr unigolyn hwn wedi bod yn ymwneud ag asesu eich cais am fuddsoddiad o'r blaen.
- Bydd yr unigolyn penodol wedyn yn asesu'r wybodaeth sydd ar gael a gyflwynwyd gennych chi ac sydd wedi'i chynnwys yn ffeil eich cais / eich cytundeb partneriaeth.
- Gall yr unigolyn penodol, wrth ystyried sail eich apêl, os yw'n briodol, ofyn am ragor o wybodaeth i sefydlu'r ffeithiau gennych chi, neu gan unigolion yn Chwaraeon Cymru neu, os yw'n briodol, trydydd parti.
- Byddwn yn ymdrechu i'ch hysbysu o ganlyniad eich apêl cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, bydd yr amser a gymerir i ystyried yr apêl yn amrywio, yn dibynnu ar amgylchiadau pob apêl.
- Bydd yr unigolyn penodol yn cyfeirio'r mater yn ôl at y Prif Weithredwr wedyn gyda chanlyniad ei ymchwiliad a'i argymhellion. Gall y Prif Weithredwr wrthod yr apêl neu gadarnhau'r apêl.
- Os caiff eich apêl ei chadarnhau, bydd eich cais / cytundeb partneriaeth yn cael ei gyfeirio at Swyddog priodol yn Chwaraeon Cymru i'w ailystyried a bydd penderfyniad newydd yn cael ei wneud gan Chwaraeon Cymru.
- Cofiwch, hyd yn oed os caiff eich apêl ei chadarnhau a hyd yn oed os bydd eich cais yn cael ei ailasesu, ni fydd hyn yn awtomatig yn golygu y bydd dyfarniad yn cael ei gynnig / gynyddu.
Cam 2
- Os ydych chi wedi apelio yn erbyn y penderfyniad Cyllido, yn unol â Cham 1 uchod, ac os ydych chi’n anfodlon o hyd gyda’r ymateb, gallwch gyflwyno apêl bellach i Sport Resolutions UK (“SRUK”) sy’n sefydliad annibynnol a diduedd sy'n darparu gwasanaethau cymrodeddu ar gyfer anghydfodau sy'n ymwneud â chwaraeon.
- Nid yw Sport Resolutions yn gysylltiedig â Chwaraeon Cymru ac mae unrhyw ymchwiliadau ac argymhellion a ddarperir ganddynt yn cael eu gwneud yn annibynnol.
- Mae'r seiliau apelio yn y cam hwn wedi'u cyfyngu yr un fath â'r seiliau apelio yng Ngham 1 y cyfeirir atynt uchod.
- Os ydych yn dymuno cyflwyno apêl o'r fath i Sports Resolutions, dylech roi gwybod i ni yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r cadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad eich apêl o dan Gam 1.
- Gydag apêl i Sport Resolutions, mae'r polisi apêl i'w ddilyn wedi'i nodi yn Rheolau Cymrodeddu Sport Resolutions (edrychwch ar y ddolen https://www.sportresolutions.co.uk/images/uploads/files/D_3_- _Cyflafareddu_Rheolau_2.pdf).
- Cofiwch na fydd Rheol 3 Rheolau Cymrodeddu Sport Resolutions yn berthnasol i unrhyw apêl a wneir o dan y Polisi hwn. Os bydd unrhyw anghysondeb rhwng y Polisi hwn a Rheolau Cymrodeddu Sport Resolutions, darpariaethau'r Polisi hwn fydd yn cael eu rhoi ar waith.
- Bydd copi o Reolau Cymrodeddu Sport Resolutions a Chytundeb Cymrodeddu yn cael eu hanfon at yr apelydd pan fydd Sport Resolutions yn derbyn yr hysbysiad o apêl.
- Bydd apêl i Sport Resolutions yn cael ei hystyried ar sail y papurau. Fodd bynnag, gall unrhyw banel a sefydlir gan Sport Resolutions, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, ystyried gwrando ar dystiolaeth neu gyflwyniadau cyfreithiol neu gyflwyniadau eraill, yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
- Bydd y panel a benodir gan Sport Resolutions yn cynnwys 3 unigolyn a benodir ganddynt a bydd y Cadeirydd fel rheol yn berson â chymhwyster cyfreithiol.
- Ni allwch apelio i Sport Resolutions os nad ydych wedi cwblhau'r weithdrefn a nodir yng Ngham 1 uchod.
- Fel rhan o'r polisi apêl gall Sport Resolutions ddarparu argymhellion i Chwaraeon Cymru a fydd yn cael eu cyfathrebu i chi.
- Ymdrinnir â chostau apêl i Sports Resolutions yn unol â darpariaethau Rheolau Cymrodeddu Sports Resolutions fel a ganlyn:-
• Bydd costau'r apêl, gan gynnwys costau Sports Resolutions UK, y Tribiwnlys ac unrhyw arbenigwyr a benodir gan y Tribiwnlys, yn cael eu pennu gan Gyfarwyddwr Gweithredol Sports Resolutions yn unol â gweithdrefnau Sports Resolutions sydd mewn grym ar y pryd. Oni bai fod y partïon yn cytuno fel arall, neu oni bai fod y tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall, neu oni bai fod unrhyw reoliadau cymwys yn darparu fel arall, bydd pob parti yn atebol am gyfran gyfartal o'r costau.
• Bydd y partïon yn gyfrifol am eu costau cyfreithiol eu hunain a chostau eraill oni bai fod y partïon yn cytuno fel arall, neu oni bai fod y Tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall, neu oni bai fod unrhyw reoliadau cymwys yn darparu fel arall.
- Mae penderfyniad Sports Resolutions yn derfynol ac ni chaniateir apêl bellach.
Gwybodaeth Bwysig
Ni all Chwaraeon Cymru ystyried apeliadau ar unrhyw seiliau eraill ar wahân i’r rhai a nodir ym mharagraff 2 uchod ac ni allwn ystyried apêl sy’n ceisio dadlau rhinweddau’r penderfyniad ei hun neu sy’n dadlau bod y data a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r dyfarniad mwyaf yn anghywir. Cyfyngir apeliadau i ddidwylledd y polisi gwneud penderfyniadau yn unig.
Bydd cynnwys a chanlyniadau’r holl apeliadau a wneir o dan y Polisi hwn yn cael eu hadrodd i Bwyllgor Archwilio a Risg Chwaraeon Cymru.