Mae cronfa newydd gwerth £4m wedi cael ei lansio gan Chwaraeon Cymru er mwyn helpu clybiau a sefydliadau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad.
Bydd y gronfa newydd, ‘Cronfa Cymru Actif’, yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth i warchod clybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi cael eu taro’n ddrwg gan bandemig Covid-19 a’u helpu i baratoi ar gyfer ailddechrau gweithgareddau yn ddiogel.
Mae’r arian grant wedi bod yn bosib diolch i Lywodraeth Cymru ac arian sydd wedi cael diben newydd gan y Loteri Genedlaethol, sy’n parhau i fod yn un o gefnogwyr mwyaf y byd chwaraeon yng Nghymru.
Yn ystod y deufis diwethaf, mae mwy na £600k o gyllid argyfwng wedi cael ei ddyfarnu eisoes ganChwaraeon Cymru i helpu mwy na 300 o glybiau oedd mewn perygl ariannol ar unwaith.
Nawr, diolch i Gronfa Cymru Actif, gall mwy fyth o glybiau ddiogelu eu dyfodol drwy wneud cais am grant sydd rhwng £300 a £50,000.
Efallai y bydd clybiau a sefydliadau chwaraeon ar lawr gwlad sy’n wynebu risg o ddod i ben oherwydd argyfwng Covid-19 angen cyllid i helpu gyda thalu rhent, costau cyfleustodau, yswiriant neu unrhyw gostau sefydlog sydd ganddynt ar gyfer llogi cyfleusterau neu offer.
Mae rhai chwaraeon, fel golff a thennis, wedi ailddechrau eu gweithgareddau gan gadw at ganllawiau diogelwch sydd wedi’u cyhoeddi gan eu Cyrff Rheoli Cenedlaethol, ac mae eraill fel pêl droed a rygbi yn aros am y golau gwyrdd i ailddechrau. Bydd clybiau a sefydliadau cymunedol yn gallu gwneud cais i Gronfa Cymru Actif i’w helpu i wneud unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol i sicrhau bod y gweithgareddau’n ddiogel.