Mae’r sesiynau ar-lein yn cael eu darparu am ddim, tra mae’r ysgolion yn parhau ar gau, gan olygu bod yr incwm wedi diflannu ond eto mae’n rhaid talu rhai biliau o hyd.
Cafodd DanceFit gyllid o ychydig o gannoedd o bunnoedd gan Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru, i dalu ffioedd yswiriant a biliau cyfleustodau ... ac felly mae’r bwrlwm yn parhau.
Dywedodd cyfarwyddwr cwmni DanceFit, Holly Corsi: “’Dyw e ddim yn swnio fel llawer o arian, ond mae e wedi bod yn bwysig iawn i ni ac wedi golygu ein bod ni wedi gallu talu am rai pethau sylfaenol.
“Roedden ni eisiau dal ati gyda’r dosbarthiadau ac ar ôl eu cynnal yn ystod yr Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, fe wnaethon ni sylweddoli pa mor bwysig oedd dal ati gyda nhw i’n haelodau a’u teuluoedd.”
Mae DanceFit wedi ehangu yn ddiweddar a nawr mae’n cynnig gweithgareddau chwaraeon eraill fel sesiynau gymnasteg, pêl rwyd a rygbi o dan faner SportFit.
Mae’r dosbarthiadau yma’n cael eu cynnal yng nghanolfan gymunedol Maes Y Coed yng Nghaerdydd, ond gyda’r holl leoliadau a chyfleusterau chwaraeon eto i ailagor yng Nghymru, mae symud ar-lein wedi rhoi cyswllt gwerthfawr i’r plant gyda’u ffrindiau drwy blatfformau fel Zoom.
A dweud y gwir, mae’r sesiynau rhithiol wedi cynnig manteision positif ychwanegol gan fod plant o grwpiau nad ydynt yn cyfarfod fel rheol wedi dechrau dod i adnabod ei gilydd.
“Mae wedi bod yn hyfryd gweld y plant yn codi llaw ac yn rhyngweithio ar-lein – plant sydd mewn gwahanol ysgolion efallai, ond maen nhw wedi bod yn cymysgu fel hyn ar-lein,” meddai Holly.
“Oni bai ein bod ni’n gwneud sioe fawr neu gyflwyniad o ryw fath, ’smo nhw’n gweld ei gilydd. Felly, mewn ffordd, rydyn ni wedi gallu cael plant o wahanol rannau o Gaerdydd mewn un stafell gyda’i gilydd, sydd wedi bod yn grêt.
“Un o’r pethau yn ein datganiad cenhadaeth ni yw ceisio darparu profiad personol i bawb. Rydyn ni eisiau trin pobl fel unigolion, yn hytrach na dim ond rhif fel un o’n haelodau ni.”
Dylai cadw eu haelodau gyda’i gilydd, ac yn dal i gymryd rhan, olygu bod DanceFit a SportFit mewn sefyllfa dda i ailddechrau cynnig eu gwasanaethau unwaith y bydd y cyfyngiadau symud yn llacio ymhellach, a phan fydd ysgolion a chanolfannau cymunedol yn dechrau bod ar gael unwaith eto.
Mae cynlluniau’n cael eu hystyried eisoes o ran sut i addasu lleoliadau a’u hailosod er mwyn cydymffurfio â rheolau cadw pellter cymdeithasol.
“Mae’r cyllid wedi golygu ein bod ni wedi gallu dal ati, er bod pethau wedi bod yn wahanol,” ychwanegodd Holly.
“Mae wedi golygu ein bod ni wedi gallu parhau i gyfathrebu a pharhau i ddarparu gwasanaeth, fel bod pobl yn gwybod pryd gallwn ni ailafael mewn pethau eto. Roedd hynny’n hanfodol.”