Yn dibynnu ar danysgrifiadau’r aelodau ac arian y bar i helpu i dalu’r biliau, mae dim gemau a dim hyfforddiant yn ystod pandemig y coronafeirws wedi golygu dim incwm fwy neu lai.
Byddai diflaniad clwb fel Brickfield yn ergyd enfawr i’r gymuned leol. Nid yn unig mae ganddo hanes gwych am ganfod perlau ifanc medrus ond, yn fwy allweddol, mae’n rhedeg cyfanswm anhygoel o 27 o dimau ar gyfer pob oedran a gallu.
Mae’r timau yma’n darparu pêl droed i fwy na 500 o aelodau drwy 30 o hyfforddwyr cymwys mewn clwb sydd â statws elusennol.
Mae’r timau’n amrywio o blant pedair oed i feterans, timau anabledd, bechgyn a merched o bob oedran, futsal a phêl droed yn cerdded.
Hefyd mae ganddyn nhw ddau dîm pêl rwyd sy’n cael eu gweithredu ochr yn ochr â’r timau pêl droed.
Mae amrywiaeth mor eang o dimau wedi golygu bod Brickfield wedi ennill sawl gwobr – yn lleol ac yn genedlaethol – gan gynnwys y rhai sy’n cael eu dyfarnu fel cydnabyddiaeth gymunedol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.
Wrth lwc, mae cais i Chwaraeon Cymru am arian o’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi bod yn llwyddiannus ac mae’r clwb sy’n cael ei adnabod yn lleol fel “Bricky” yma o hyd.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Paul Hooson: “Mae arian Chwaraeon Cymru wedi bod yn gwbl allweddol.
“Dydw i ddim yn dweud y byddai’r clwb wedi diflannu heb yr arian, ond mae wedi golygu ein bod ni wedi gallu talu biliau a dal i fynd.
“Heb yr arian, fe fydden ni wedi gorfod cau popeth i lawer ac wedyn fe fydden ni wedi gallu cael problemau gyda phethau fel fandaliaeth.
“Rydyn ni wedi gallu talu rhai biliau cyfleustodau a rhoi rhywfaint o’r arian tuag at raglen cynnal a chadw’r tir, ar amser mor allweddol o’r flwyddyn.
“Hefyd mae gennym ni ffioedd aelodaeth sydd angen eu talu’n fuan, felly heb y grant yma fe fydden ni’n wynebu problemau enfawr.”
Gyda phedwar cae ac adeilad clwb i ofalu amdanyn nhw a’u cynnal, mae’r biliau cyfleustodau’n codi drwy’r amser i glwb sy’n defnyddio tanysgrifiadau ei aelodau i gadw’r goleuadau ymlaen, yn llythrennol.
Mae’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr yn talu cyfartaledd o ddim ond rhyw £3.50 yr wythnos fel ffioedd ymarfer a gemau, ac mae llawer o’r sesiynau i’r chwaraewyr iau am ddim.
Heb y grant o £800, fe fyddai’r clwb wedi cael anhawster dal ati.
Byddai honno wedi bod yn ergyd fawr i glwb sydd ag uchelgais o ehangu ymhellach a darparu gwasanaeth clwb ieuenctid yn ogystal â phêl droed.
Yn wahanol i gyfleusterau awdurdodau lleol, mae Brickfield wedi gorfod cynnal ei gyfleusterau ei hun. Mae’r arian wedi galluogi rhywfaint o waith cynnal a chadw sylfaenol ar y caeau a chadw’r adeilad yn gweithredu.
“Heb y grant, fe fyddai’r clwb wedi cael ei gau i lawr yn ystod y cyfnod yma ac fe fyddai hynny wedi gwneud agor yn gyflym eto’n anodd, pan fydd y cyfyngiadau’n cael eu codi,” ychwanegodd Paul.
“Byddai hynny wedi creu amheuon mawr am ein gallu ni i fownsio’n ôl yn gyflym a darparu’r holl bêl droed rydyn ni wedi bod yn ei gynnig.
“Y pryder yw, unwaith rydych chi’n cloi’r drysau ac yn diffodd popeth, mae’r glaswellt yn dechrau tyfu, mae pethau’n colli cyflwr, ac a fydd y clybiau hynny’n gallu dod yn ôl? Mae’n mynd i fod yn galed.”
Drwy gadw’r olwynion yn troi, mae Brickfield yn gobeithio y gallant adfer yn gyflym pan gaiff pêl droed ar lawr gwlad y golau gwyrdd i ailddechrau.
“Dyma holl bwrpas y cyllid argyfwng,” meddai Paul. “Fe fyddwn i’n annog clybiau eraill sydd angen help i wneud cais amdano oherwydd mae pêl droed yn rhan mor allweddol o’n cymunedau ni yng Nghymru a fedrwn ni ddim fforddio eu colli nhw.”