Mae llawer o bobl ledled Cymru yn hoffi camp sydd ychydig yn llai prif ffrwd ac ychydig yn llai traddodiadol. Boed hynny oddi ar y grid, o dan y dŵr neu yn nyfnderoedd cudd llethrau Cymru, mae Chwaraeon Cymru yma i gefnogi eich clwb chwaraeon – dim ots pa mor wahanol neu ryfedd ydi eich camp.
Y llynedd, buddsoddodd Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru fwy na £4 miliwn mewn bron i 600 o glybiau chwaraeon cymunedol ar lawr gwlad. Mae'n cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000 ar gyfer prosiectau yng Nghymrud drwy arian y Loteri Genedlaethol.
Dyma ein canllaw ni i ddeg o'r nifer camp unigryw y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw ledled Cymru a’r clybiau sydd wedi defnyddio cyllid Chwaraeon Cymru i gyflwyno prosiectau gwych.
Crwydro Ogofâu
Dychmygwch eich hun yn cropian drwy holltau, yn sgrialu ar dir serth ac yn hongian ar raffau a nawr ychwanegwch y ffaith eich bod o dan y ddaear. Os ydi hyn yn dal i swnio fel pe bai at eich dant chi, efallai y dylech chi roi cynnig ar grwydro ogofâu?
Yr United Caving Exploration Team yw'r clwb mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae ei aelodaeth wedi cynyddu'n aruthrol o 250% mewn dim ond dwy flynedd gyda'r criw sy’n crwydro ogofâu yn mwynhau gwaith tîm a mwy o hyder.
Er mwyn cadw aelodau newydd yn ddiogel, roedd angen bandiau garddwrn monitro ac offer tagio. Camodd Chwaraeon Cymru i'r adwy a rhoi help llaw gwerth £2248 iddyn nhw.
CYNGOR DOETH: Mae Cronfa Cymru Actif yn croesawu ceisiadau gan brosiectau sy'n defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o bobl.
Octowthio
Meddyliwch am bwll nofio ac wedyn ychwanegu cnap a ffon hoci. A dyna beth ydi Octowthio (neu hoci tanddwr).
Efallai nad ydych chi wedi clywed llawer am Octowthio ond mae Clwb Octowthio Penfro wedi bod yn weithredol ers 1989. Gyda thîm oedolion ac iau, mae un aelod (Nia Matthews) wedi'i dewis i chwarae i Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau'r Byd hyd yn oed.
Fel y gallwch chi ddychmygu, mae'r clwb angen offer a all fod yn ddrud. Gwnaeth y clwb gais i Gronfa Cymru Actif ac mae wedi cael help llaw gwerth bron i £4000.
Wedi'i leoli yn Sir Benfro a’r ardaloedd o amgylch lle mae lefelau uchel o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi, mae arian y Loteri Genedlaethol wedi helpu'r clwb i brynu cit ac offer. Gall roi benthyg y cit i chwaraewyr nawr, gan leihau’r rhwystrau ariannol sy’n atal cymryd rhan.
CYNGOR DOETH: Rhowch amser i feddwl am yr hyn y bydd eich prosiect yn ei gyflawni a sut bydd o fudd i'ch clwb. Os ydych chi’n ansicr ynghylch a yw eich prosiect yn gymwys i gael cyllid, gall staff cyfeillgar Chwaraeon Cymru eich llywio chi i’r cyfeiriad cywir. Felly, llenwch y ffurflen ar-lein hawdd ac ewch amdani!
Pêl Korf
Efallai y bydd rhai yn dweud bod y gamp yma’n gymysgedd o bêl rwyd a phêl fasged. Fel pêl rwyd, dydych chi ddim yn cael driblo ac, yn union fel pêl fasged, mae pob chwaraewr yn cael saethu ac amddiffyn.
Mae Clwb Pêl Korf Abertawe sydd wedi’i sefydlu yn ddiweddar wedi denu bron i £1700 o arian o Gronfa Cymru Actif i logi lleoliad, cyrsiau hyfforddi, conau a pheli korf i'w helpu i sefydlu.
Yn flaenorol, yr unig glwb arall yn y ddinas oedd tîm Prifysgol Abertawe sydd ar gael i fyfyrwyr yn unig.
Mae'r clwb yn awyddus i fod yn hygyrch i bawb ac yn cynnig aelodaeth am bris is i bobl ddi-waith, pobl sy’n derbyn gostyngiad ar y dreth gyngor neu bobl sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol.
CYNGOR DOETH: Gwnewch gais am y cyllid gan feddwl yn y ffordd gywir. Meddyliwch am y manteision y gall eich clwb eu cynnig i'r gymuned a sut gallwch chi gynnig chwaraeon sy'n hygyrch i bawb. Wedyn, cynhwyswch hyn yn eich cais!
Gweithgareddau Tanddwr
Os ydych chi ffansi mentro cymryd rhan mewn camp newydd, efallai yr hoffech chi feddwl am weithgaredd tanddwr. Mae deifio sgwba yn ffordd wych o feithrin diogelwch mewn dŵr - a meddyliwch am yr anturiaethau tanddwr y gallech eu cael.
Mae clybiau ledled Cymru yn darparu hyfforddiant a chymwysterau i ddeifwyr môr. Ond peidiwch â phoeni os ydi’r môr yn codi ofn arnoch chi braidd - mae Clwb Tanddwr Aberhonddu yn defnyddio pwll nofio Canolfan Hamdden Aberhonddu i ymarfer eu deifio.
Yn awyddus i wneud y gamp yn fwy deniadol i blant a merched, gwnaeth y clwb gais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yr haf diwethaf. Galluogodd grant o bron i £8500 iddyn nhw newid rhywfaint o'r offer trwm a beichus am offer llai ac ysgafnach.
CYNGOR DOETH: Ydi eich prosiect chi’n anelu at leihau anghydraddoldeb? Rhowch wybod i ni yn eich cais.
Sglefrfyrddio
Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng ollies a backside180? Ydyn, rydyn ni’n siarad am sglefrfyrddio. Ac os ydych chi eisiau cael gwefr ar fwrdd, gallwch fynd i'r nifer cynyddol o barciau sglefrio ledled Cymru.
Syniad Alan Cains oedd Parc Sglefrio No Comply yng Nghasnewydd. Nod Alan yw gwella a chreu parc sglefrio a hybiau sglefrio newydd yn y ddinas. Ond roedd angen cyllid i adeiladu'r cyfleuster.
Ar ôl gwneud cais i Chwaraeon Cymru, derbyniodd fwy na £31,000 o Gronfa Cymru Actif a ariannodd tua 80% o gost yr adeiladu ac, yn ôl Alan, “gwneud popeth yn bosibl”.
Nawr mae’n gweithio gydag ystod eang o ganolfannau ieuenctid a chymunedol gan gynnwys grwpiau Positive Futures o bobl ifanc sydd dan anfantais ac wedi’u gwahardd o’r ysgol. Mae’n cynnal sesiynau queer yn ogystal â sesiynau hamddenol, tawelach, cyfeillgar i awtistiaeth. Mae hefyd yn cynnig sglefrio wedi’i addasu i unigolion a grwpiau ag anableddau.
CYNGOR DOETH: Peidiwch â chymryd yn ganiataol nad ydi Chwaraeon Cymru yn cefnogi eich camp chi. Roedd Alan bob amser yn ystyried sglefrfyrddio fel ffordd o fyw yn hytrach na champ - a chafodd ei synnu o ddarganfod bod y prosiect yn gymwys i gael cyllid.