Skip to main content

Sboncen - “Os mai gwisgo masg yw’r pris i’w dalu am gael bod yn ôl, maen nhw’n gweld hwnnw fel pris bach.”

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Sboncen - “Os mai gwisgo masg yw’r pris i’w dalu am gael bod yn ôl, maen nhw’n gweld hwnnw fel pris bach.”

Dylai unrhyw un sy’n meddwl bod defnyddio masg ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru’n lletchwith neu’n anghyfforddus ystyried sut mae’n teimlo i wisgo un yn chwarae sboncen. 

Dyna’n union beth mae tri chwaraewr gwrywaidd nodedig o Gymru’n ei wneud ar hyn o bryd, ar ôl dychwelyd i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. 

Fel rhan o ddychwelyd fesul cam at y gamp yn dilyn y cyfyngiadau symud, mae Joel Makin, Peter Creed ac Elliott Morris Devred i gyd yn ôl yn hyfforddi nawr, ond gyda rhai addasiadau anarferol. 

Ar y cwrt, mae’r triawd nid yn unig yn gorfod cadw pellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd wrth weithio drwy eu hymarferion a’u hyfforddiant, ond hefyd maen nhw’n gorfod gwisgo masgiau wyneb er mwyn lleihau’r risg o ledaenu Covid-19.

 

Bydd yr un peth yn wir i chwaraewraig fenywaidd orau Cymru a rhif naw y byd, Tesni Evans, pan fydd yn dychwelyd ymhen ychydig ddyddiau. 

Ar hyn o bryd mae Evans yn ôl yn ei chartref yng Ngogledd Cymru, felly mae oedi gyda’i dychweliad nes dod o hyd i lety iddi yn y brifddinas – ond fe all ddefnyddio canolfan sboncen Sport England ym Manceinion fel canolfan dros dro. 

I Makin – rhif 10 y byd yng ngêm y dynion ar hyn o bryd – a’r lleill, mae her y masg yn profi’n un anodd ei goresgyn.           

Ond mae cyfarwyddwr perfformiad Sboncen Cymru, David Evans, yn mynnu bod y triawd yn profi bod ganddyn nhw’r dyfeisgarwch i gyfateb i’r cadernid a ddangoswyd ganddynt yn ystod y cyfyngiadau symud. 

Dywedodd Evans, cyn rif tri y byd: “Mae’r bechgyn yn gorfod gwisgo masgiau ar hyn o bryd, ac mewn camp fel sboncen mae hynny’n eithaf anodd ac roedden nhw’n cael anhawster i ddechrau a dweud y gwir. 

“Ond maen nhw wedi ymdopi’n sydyn iawn. Maen nhw’n eithriadol heini ac wedi methu mynd ar y cwrt am 12 neu 13 wythnos, felly mae eu hagwedd nhw’n eithaf positif. 

“Os mai gwisgo masg yw’r pris i’w dalu am gael bod yn ôl, maen nhw’n gweld hwnnw fel pris bach.”

Er bod y triawd yn gallu hyfforddi a gweithio drwy sgiliau ac ymarferion gyda’i gilydd, mae’r gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu nad ydynt yn gallu chwarae gemau. 

“Byddai gêm yn golygu bod y chwaraewyr yn dod o fewn dau fetr i’w gilydd, felly ’dyw hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd,” meddai Evans.

“Gyda’r ymarferion, rydych chi’n gwybod i ble mae’r bêl yn mynd, felly mae’n hawdd cadw at y rheol cadw pellter cymdeithasol. Gobeithio, ymhen amser, y bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio ychydig. Mewn llawer o wledydd, lle mae chwaraewyr sboncen wedi dychwelyd, dydyn nhw ddim yn gwisgo masgiau.

“Ond rydyn ni’n hapus i fod yn ofalus oherwydd mae hyn yn ymwneud â diogelwch ac iechyd cyhoeddus, sy’n gorfod bod yn flaenoriaeth.” 

A dweud y gwir, Cymru yw’r unig le yn y DU ar hyn o bryd lle mae chwaraewyr elitaidd wedi dychwelyd ar y cwrt sboncen.

Yn Lloegr, maen nhw’n dal i aros am ganiatâd ond, yng Nghymru, er mai camp dan do yw hi, teimlwyd bod y nifer bach o chwaraewyr elitaidd sy’n gysylltiedig yn golygu bod sboncen yn addas, ochr yn ochr â chwaraeon fel bocsio a gymnasteg, i gael y golau gwyrdd ar gyfer dychwelyd o dan reolau llym.         

Mae Makin, Creed a Morris Devred i gyd yn cael archwiliadau tymheredd ac mae mesurau hylendid ychwanegol ar waith, ond mae ganddyn nhw bethau eraill ar eu meddwl. 

Efallai bod ymarfer yn ystod y cyfyngiadau symud wedi cynnal lefelau cyffredinol eu ffitrwydd a’u hyblygrwydd, ond dim ond ar y cwrt mae modd sicrhau gofynion corfforol heriol chwarae’r gêm.                   

“Fe allwch chi wneud miloedd o hyrddiadau statig yn y gampfa neu’r tŷ, ond nes i chi wneud hyrddiadau deinamig ar y cwrt, dydych chi ddim wir yn gallu profi eich hun,” meddai Evans.

“Felly mae ambell ben ôl anesmwyth wedi bod hyd yma, a chyhyrau ffolennol poenus, ond mae’n rhaid i ni fod yn ofalus iawn rhag eu gorweithio nhw, rhag cael unrhyw anafiadau.”

Ond mae’r seibiant gorfodol wedi arwain at fanteision hefyd. Mae Tesni Evans wedi gallu gwella’n llwyr o anaf i’w ffêr oedd yn bygwth ei thymor, ac mae’r gorffwys a’r adfer i’r lleill wedi cynnig manteision, yn ôl yr hyfforddwr. 

“Mae Tesni wedi gallu adfer, ac mae Joel wedi gallu cael llawer o orffwys ac nid dim ond help corfforol yw hynny. 

“Weithiau, mae’r chwaraewyr yn teimlo nad ydyn nhw’n taro’r bêl yn dda, ond yn aml fe all hynny fod am eu bod nhw wedi blino neu dydyn nhw ddim yn y lleoliad hollol gywir i daro’r ergyd. Nawr maen nhw i gyd yn ffres iawn.”

Does dim chwaraewyr yn gwybod eto pryd allant ailddechrau cystadlu, ond y gobaith yw y bydd posib cynnal rhai twrnameintiau yn y DU yn nes ymlaen yn ystod y flwyddyn, ar gyfer cynulleidfa deledu efallai. 

“Y peth pwysig yw bod y chwaraewyr sboncen yn taro pêl eto ac mae hwnnw’n gam mawr ymlaen,” meddai Evans.

“Rydyn ni wedi cynnwys canllawiau sboncen y byd a’u gwneud yn berthnasol i beth sy’n digwydd yma yng Nghymru ac rydw i hefyd wedi bod yn hapus iawn gyda’r holl rannu sydd wedi digwydd hwng y campau.

“Athletau, bocsio, nofio . . . mae’r holl gyrff rheoli wedi bod yn rhannu gwybodaeth ac yn helpu gyda gweithredu protocolau oherwydd mae pawb eisiau’r un peth – cael chwaraeon yn gweithredu unwaith eto.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy