“Rydyn ni wedi recordio sesiynau y gall pobl glicio arnyn nhw a chael syniad o beth mae’r gamp yn ei gynnig,” meddai Reuben, sydd wedi ymwneud â charate ers 25 o flynyddoedd.
“Maen nhw’n heriau cyflym y gall unrhyw un ymuno ynddyn nhw. Dydi gweithgareddau ar-lein ddim yn mynd i gymryd lle cyfarwyddyd wyneb yn wyneb, ond ar hyn o bryd mae’n ffordd wych o gyflwyno’r gamp a chadw mewn cysylltiad.”
Roedd Dragon Karate wedi dechrau darparu gwersi cynhwysol eisoes i blant ar Ynys Môn ac mae cyfres Insport yn eu helpu i gynnig y gamp i gynulleidfa ehangach a mwy amrywiol.
“Mae’n gamp wych i bawb,” ychwanegodd Reuben. “Mae carate’n gallu cynnig cymaint ac mae hi wir yn gamp i bob oedran a gallu.
“Fel clwb, rydyn ni wedi bod yn darparu gwersi i bobl ag anawsterau dysgu, ond rydyn ni eisiau ehangu a chyflwyno’r gamp i bobl ag anawsterau corfforol a hefyd pobl â nam ar y golwg.
“Mae un o fy myfyrwyr rheolaidd i sy’n 62 oed wedi syrthio yn ei atig yn ddiweddar ac anafu ei fraich. Dydi o ddim yn mynd i allu defnyddio’r fraich yna, ond rydw i eisiau ei gael yn ôl yn hyfforddi ac yn mwynhau’r gamp gymaint â phosib.
“Fe all carate gynnig hynny i bobl ac rydw i’n gyffrous am ehangu’r gwersi i gymaint o bobl â phosib.”
Cyn y cyfyngiadau symud presennol ar chwaraeon, roedd Cyfres Insport wedi sefydlu’n dda yn ystod y degawd diwethaf gyda mwy na dwsin o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ledled y wlad mewn lleoliadau amrywiol.
Cynhaliwyd un o’r digwyddiadau mwyaf ym Mhrifysgol Met Caerdydd, lle cyflwynwyd Phil Pratt, sy’n 11 oed, i bêl fasged cadair olwyn – camp y byddai’n dod yn Baralympiad ynddi yn ddiweddarach, gyda sgwad Prydain Fawr yn Rio yn 2016.
Gan nad oes posib cynnal digwyddiadau mewn lleoliadau ar hyn o bryd, mae’r byd rhithiol yn galluogi’r gyfres i barhau ac, ar Fehefin 19, bydd yr ail ddigwyddiad yn cael ei gynnal, gyda chlybiau’n cael eu gwahodd o ranbarth Gwent.
Maent yn cynnwys arddangosfa gymnasteg gydag Academi Gymnasteg Valleys, tennis gyda Little Hitters, rygbi cadair olwyn gyda Rygbi Cadair Olwyn y Dreigiau, a boccia gyda Chyngor Sir Fynwy.
Ar Orffennaf 3, mae digwyddiad ar gyfer clybiau yn rhanbarth De Cymru ac, wythnos yn ddiweddarach, tro clybiau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru fydd hi. Mae’r digwyddiadau’n parhau am ddim i’w gwylio ar-lein, ar unrhyw adeg, ar ôl diwrnod y digwyddiad ei hun.
Dywedodd Tom Rogers, uwch swyddog prosiect Insport gyda Chwaraeon Anabledd Cymru: “O dan amgylchiadau arferol, byddai’r digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn gorfforol, mewn lleoliadau ledled y wlad drwy gydol y flwyddyn.
“Mae cadw pellter cymdeithasol i’n cadw ni i gyd yn ddiogel rhag y coronafeirws wedi gorfodi pawb ohonom i addasu, ac am nawr, bydd digwyddiadau Cyfres Insport yn cael eu cynnal ar-lein. Bydd pob digwyddiad yn cael ei gynnal gan glybiau o ranbarth penodol yng Nghymru, gan gyflwyno amrywiaeth o gyfleoedd cynhwysol i chi roi cynnig arnyn nhw gartref.
“Mae’r clybiau wedi creu cynnwys fideo sydd wedi cael ei olygu ar gyfer yr ymwelydd ar-lein. Felly, er enghraifft, gyda gymnasteg, mae clip cynhesu y gallwch chi ei gwblhau, ac wedyn pedwar clip gweithgarwch.
“Mae posib aros ar bob clip fideo am gyn hired â maen nhw eisiau. Os ydyn nhw’n teimlo’n sicr nad yw camp neu weithgaredd ar eu cyfer nhw, gallant glicio i ffwrdd a mynd ymlaen i’r un nesaf. Mae’r holl gynnwys yn rhywbeth y gallwch chi ei gopïo yn eich cartref eich hun.”
Ewch i insportseries.co.uk am ragor o wybodaeth am sut i fynychu’r digwyddiadau am ddim yma.
Sylwer: Mae’r digwyddiadau yma ar agor i bob oedran, ond bydd rhaid i chi gael rhywun dros 16 oed i gofrestru.
Cyfres Insport Rhithiol
Gogledd – 12fed Mehefin 2020
Gymnasteg - Clwb Gymnasteg Bangor a Môn Actif (Cyngor Sir Ynys Môn)
Carate - Dragon Karate Cymru
Pêl Fasged Cadair Olwyn - Pêl Fasged Cadair Olwyn Gogledd Cymru
Rygbi’r Undeb – Stingrays Bae Colwyn ac Undeb Rygbi Cymru
Gwent – 19eg Mehefin 2020
Gymnasteg - Academi Gymnasteg Valleys
Tennis - Little Hitters
Rygbi Cadair Olwyn - Rygbi Cadair Olwyn y Dreigiau
Boccia - Mon Life (Cyngor Sir Fynwy)
Y De – 3ydd Gorffennaf 2020
Pêl Fasged – Archers
Pêl Droed – Clwb Pêl Droed Tref y Barri Unedig
Aml-Chwaraeon – SportFit
Dawns – Impetus Dance
Pêl Gôl – Clwb Pêl Gôl De Cymru
Y Canolbarth a’r Gorllewin – 10fed Gorffennaf 2020
Tennis – Clwb Chwaraeon Integredig Aberhonddu
Athletau – Clwb Athletau Maldwyn
Aml-Chwaraeon – I’w Gadarnhau
Codi Pwysau – Clwb Codi Pwysau Sir Benfro