Bydd posib i Bethany, sy'n cael ei disgrifio fel ysbrydoliaeth i bawb yn Academi Gymnasteg Valley yng Nghrymlyn, osod y Bathodyn Blue Peter ochr yn ochr â'r holl fedalau mae wedi'u hennill.
Ar ôl ennill medal aur yng Ngemau Olympaidd Arbennig y DU yn 2018, cafodd Bethany ei dewis ar gyfer tîm Prydain a gipiodd 58 o fedalau yng Ngemau Olympaidd Arbennig Abu Dhabi ym mis Mawrth.
Perfformiodd y ferch ifanc, sydd ag anawsterau dysgu, yn wych i ennill tair medal aur a dwy arian yn y gystadleuaeth Gymnasteg Artistig Lefel Tri.
Parhaodd llwyddiant Bethany ym mis Hydref pan gafodd ei choroni'n Bencampwraig Prydain yn un o gategorïau hŷn y merched ym Mhencampwriaethau Artistig Anabledd Prydain yng Nghaerlŷr.
Er bod pencampwraig bocsio ieuenctid y Byd a'r Gemau Olympaidd, Caroline Dubois, wedi ei threchu i ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn, mae pawb yn Academi Crymlyn yn hynod falch o'i chyflawniadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Meddai'r Prif Hyfforddwr a'r cyfarwyddwr rheoli, Melissa Anderson: "'Sa i'n gwybod a yw Bethany'n sylweddoli pa mor ysbrydoledig yw hi. Mae hi'n derbyn popeth heb gynhyrfu dim.
"Mae hi'n gweithio mewn dosbarth prif ffrwd gyda chriw o ferched ddwy neu dair gwaith yr wythnos ac wedyn ar ddyddiau Sadwrn mae hi gyda chriw o blant sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
"Felly, i'r plant prif ffrwd, mae hi'n esiampl wych, yn gweithio'n galed ac yn dal ati, gan ddangos beth allwch chi ei gyflawni.
"Ond i'r plant yn y sgwad anabledd, mae hi'n fodel rôl eithriadol. Yr agwedd yw, 'iawn bois, efallai bod gennych chi anabledd neu anghenion ychwanegol, ond edrychwch beth allwch chi ei gyflawni drwy ymrwymo a gweithio'n galed'.
"Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r sgwad anabledd wedi cynyddu - mae gymnastwyr yn gwneud cystadlaethau ychwanegol ac rydw i'n credu bod Bethany'n fodel rôl gwych i'r plant yma, gan ddangos iddyn nhw beth sy'n bosib ei gyflawni."
Ddeunaw mis yn ôl, roedd rhaid i Bethany newid hyfforddwyr gan fod ei hyfforddwr blaenorol, Shevel Hewitt, wedi symud i America. Er hynny, mae hi wedi ffurfio perthynas hynod gynhyrchiol gyda'i hyfforddwr newydd, Jaz McLellan.
Dywedodd Anderson: "Doedd Jaz ddim wedi gweithio gydag anableddau mewn gymnasteg ond roedd ganddi brofiad sylweddol o weithio gyda phobl ifanc ag anghenion ychwanegol, ond mewn amgylchedd ysgol. Felly roedd yn dipyn o her i Jazz hefyd.
"Fe gymerodd Bethany ychydig bach mwy o amser i addasu, ond i fod yn onest, maen nhw wedi sefydlu perthynas hyfryd. Mae'n wych gweld hynny.
"Mae hi wedi cael trefn newydd ar y llawr, maen nhw wedi newid ei cherddoriaeth hi, a threfn wahanol ar yr holl gyfarpar. Felly, fel y gallwch chi werthfawrogi rwy'n siŵr, mae hynny'n eithaf anodd i berson ifanc fel Bethany.
"Ond mae hi wedi llwyddo, wedi meithrin y sgiliau ar amser ac, ar ôl gweld ei pherfformiad yng ngemau'r byd ar fideo, roedd yn gwbl wych. Dylai fod yn falch iawn ohoni hi'i hun.
"Teithio allan i Abu Dhabi gyda hyffordddwyr y Gemau Olympaidd Arbennig, a doedd hi heb gael llawer o sesiynau gyda nhw, a phethau eraill newydd a gwahanol yn cael eu taflu ati - roedd meistroli hynny i gyd a pherfformio hyd eithaf ei gallu'n siŵr o fod yn heriol eithriadol iddi hi.
"Pe bai hi wedi mynd allan yno a heb ennill medalau, fe fydden ni wedi bod yn falch iawn, iawn ohoni oherwydd hynny. Roedd yn ddiwylliant mor wahanol, gwlad wahanol, mae hi wedi goresgyn cymaint o heriau."