Does dim rhaid i chi boeni am y rhedeg pellter hyn yn oed. Fel rhaglen flasu ar gyfer newydd-ddyfodiaid, mae'r rhaglen hyblyg yn golygu y gallwch chi wneud munudau yn y pwll neu ar beiriant rhwyfo, beic sbin a melin gerdded.
Does dim rhaid i chi wneud y tri un ar ôl y llall hyd yn oed, ond rhannu eich digwyddiadau ar amser sy'n gweddu i chi.
Dywedodd Steph Makuvise, swyddog cyfranogiad yn Triathlon Cymru: "Mae Ionawr Tri yn rhan o ymgyrch ehangach Go Tri. Y nod yw cael mwy o bobl o'r gymuned ehangach i gymryd rhan yn y gamp.
"Mae'n gyflwyniad hwyliog i'r gamp - pellteroedd byrrach, mwy o hygyrchedd - darpariaeth lefel mynediad, os leciwch chi, Park Run mewn Triathlon.
"Mae pobl yn meddwl ei bod hi'n oer iawn tu allan efallai, a pham fyddech chi eisiau gwneud triathlon? Ond mae posib addasu Go Tri. Does dim rhaid dilyn y drefn nofio, beicio, rhedeg sy'n rhan o driathlon traddodiadol.
"Mae pobl yn gallu gwneud triathlon dan do gan ddefnyddio offer campfa. Felly gall fod yn rhwyfo pellter penodol, rhedeg pellter, ac wedyn beicio pellter. Nid sut rydych chi'n gwneud yn erbyn pobl eraill sy'n bwysig, ond sut rydych chi'n gwneud fel unigolyn ac yn gwella eich hun."
Mae Ionawr Tri yn cynnig tair elfen. Mae cyflwyniad sylfaenol i'r gampfa lle gall rhywun roi cynnig ar wahanol bellteroedd a chofnodi eu hamseroedd ar-lein, gwirio eu cynnydd yn ystod y mis, a chymharu eu hamseroedd gydag eraill os ydyn nhw eisiau elfen gystadleuol.
Hefyd mae sesiynau i ddechreuwyr ar gyfer y clybiau triathlon presennol, i ddenu aelodau newydd.
Ac os bydd triathletwr newydd yn gwirioni, mae rhai clybiau'n cynnig cystadlaethau i driathletwyr newydd gael blas ar bleserau cystadlu.
Ond, yn bennaf, cael hwyl ac elwa o fanteision ymarfer yn rheolaidd yw'r nod.
Fel sy'n addas i un o'r campau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, mae Go Tri yng Nghymru wedi datblygu o lond llaw o ddigwyddiadau yn 2017 i 35 eleni a bydd Ionawr 2020 yn ail flwyddyn Ionawr Tri.
Mae tua 1,500 o bobl yng Nghymru wedi cofrestru ar hyn o bryd gyda phroffil ar raglen Go Tri, sydd â chanran nodedig o 53 y cant o gyfranogiad gan ferched.
Hefyd mae clybiau triathlon yng Nghymru wedi datblygu'n hynod gyflym yn oes y brodyr Brownlee ac yn dilyn llwyddiant safon byd triathletwyr nodedig o Gymru fel Non Stanford, Helen Jenkins a Liam Lloyd.
Ar hyn o bryd mae 90 o glybiau triathlon cofrestredig yng Nghymru ac meddai Gareth Evans, y swyddog digwyddiadau cenedlaethol ar gyfer Triathlon Cymru: "Mae Triathlon yn gamp unigol ond mae cymaint o fanteision i'w cael o fod yn aelod o glwb. Mae'n darparu cefnogaeth gymdeithasol, cefnogaeth gyda hyfforddiant a hefyd yr elfen gystadleuol o bob clwb.
"Rydyn ni'n ceisio edrych ar Gymru fel cenedl chwaraeon ehangach ac yn ceisio efelychu gelyniaeth clybiau mewn campau eraill a dod â hynny yn rhan o driathlon.
"Mae'r clybiau'n datblygu'n gyflym iawn. Enillodd clwb triathlon Tri-ers Caerffili gystadleuaeth categori yng ngornest Dyn Haearn Cymru y llynedd ac mae wedi datblygu o fod ag 20 aelod i fod â mwy na 120 mewn 12 mis."
Ar gyfer y rhai sy'n ystyried mentro am y tro cyntaf ym mis Ionawr, does dim angen siwt wlyb hyd yn oed.
Fel y dywed Steph Makuvise: "Does dim angen beic ffansi na siwt wlyb nac offer arbennig ar gyfer Go Tri. Fe gewch chi ddod gyda BMX, pâr o esgidiau Converse, crys T a dechrau arni a chymryd rhan. Mae mor hawdd â hynny."
Am fanylion am Go Tri ac Ionawr Tri, ewch i wefan Go Tri sy'n cael ei gweithredu gan British Triathlon. https://www.gotri.org/