Main Content CTA Title

Dynion a Merched gyda’i gilydd – rhai o’r tueddiadau mewn chwaraeon cymysg

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dynion a Merched gyda’i gilydd – rhai o’r tueddiadau mewn chwaraeon cymysg

Yn y  1970au gwelwyd Brwydr y Rhywiau rhwng seren y byd tennis i ferched  Billie Jean King a chyn rif un y dynion  Bobby Riggs.  

Trefnwyd y gêm i weld a allai chwaraewraig fenywaidd o'r safon uchaf drechu chwaraewr gwrywaidd o'r safon uchaf, er  bod Riggs  yn ei bumdegau erbyn hynny.      

Trodd y digwyddiad yn stynt cyhoeddusrwydd a syrcas cyfryngol i ryw raddau, gyda King  yn ennill yn y diwedd.  

Er hynny, mae tennis yn un o'r chwaraeon mawr lle mae dynion a merched yn gallu cystadlu ochr yn ochr ac yn erbyn ei gilydd ar y lefel uchaf.    

Mae dyblau cymysg wedi bod yn rhan bwysig o'r gêm ar lefel byd erioed ac mae'n dod yn fwy a mwy poblogaidd. Cafodd twrnamaint y dyblau cymysg yn  Wimbledon  eleni fwy  o sylw nag erioed diolch i'r cyfuniad perffaith o Andy Murray a Serena Williams  yn cymryd rhan.  

Hefyd tynnodd y twrnamaint sylw at Evan Hoyt  o Gymru wrth iddo ef a'i bartner Eden Silva  gyrraedd y rowndiau gogynderfynol, gan sicrhau gwobr ariannol fwyaf eu gyrfa a phwyntiau hynod werthfawr o ran safleoedd y byd.   

Mae llawer o chwaraeon eraill, fel badminton,  yn gweld dynion a merched yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar y lefel uchaf mewn fersiynau cymysg o'r ddisgyblaeth.  

Mae chwaraeon marchogol wedi cynnwys dynion a merched yn cystadlu'n uniongyrchol yn erbyn ei gilydd ar lefel gyfartal.  

Yn y byd athletau, cyflwynwyd rasys cyfnewid cymysg yn llwyddiannus am y tro cyntaf ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd eleni.    

Roedd y gystadleuaeth yn gosod timau o ddau ddyn a dwy fenyw yn erbyn ei gilydd dros bedwar cymal y ras gyfnewid  400m.  

Hefyd mae timau cymysg yn cystadlu mewn digwyddiadau cyfnewid mewn cystadlaethau traws gwlad mawr, gan gynnwys Pencampwriaethau Traws Gwlad Ewrop yn ddiweddar lle enillodd Prydain Fawr aur y tîm yn y ddisgyblaeth.   

Mae athletau wedi gweld dynion a merched yn rhedeg ochr yn ochr â'i gilydd mewn rasys mawr ers amser maith yn rhai o'r pencampwriaethau mawr, er bod hynny mewn categorïau rhyw gwahanol pan ddaw'n amser y canlyniadau terfynol.  

Mewn trac a chae domestig, bydd Cynghrair Athletau Prydain  (BAL)  ar gyfer y dynion a Chynghrair Athletau Merched y DU (UKWAL) yn uno y flwyddyn nesaf i ffurfio cynghrair ar y cyd ar gyfer tymor yr haf 2020.  

Mae hyn yn golygu y bydd dau glwb mwyaf Cymru, Athletau Caerdydd a Harriers Abertawe, yn maesu timau ar y cyd yn y Gynghrair Athletau Genedlaethol  (NAL)  newydd y tymor nesaf.   

Nid yw cyfansoddiad a rheolau'r gynghrair wedi'u llunio yn derfynol eto ac er ei bod yn annhebygol y bydd dynion a merched yn cystadlu'n uniongyrchol yn erbyn ei gilydd, bydd y timau'n gymysg - gan olygu y bydd dynion a merched yn cystadlu ochr yn ochr â'i gilydd i gyflawni'r un nod fel tîm.   

Bydd lefel uchaf y gystadleuaeth newydd yn dechrau gyda chystadleuaeth gymysg hanesyddol yng Nghaerdydd fis Mai nesaf.  

Mae  cadeirydd Athletau Caerdydd, Helen James, yn gyffrous am y syniad o weld adrannau dynion a merched y clwb yn cystadlu ochr yn ochr â'i gilydd.                     

"Bydd yn grêt, oherwydd dydyn nhw erioed wedi cystadlu gyda'i gilydd o'r blaen. Rydyn ni wir yn edrych ymlaen at hyn," meddai James.  

"Mae'n mynd i roi hwb i gyfeillgarwch pawb a'r penderfyniad i gefnogi ein gilydd. Fe fyddan nhw'n annog ac yn cefnogi ei gilydd i wneud yn dda.   

"Mae wedi creu llawer o ddiddordeb ymhlith athletwyr sydd eisiau ymuno â'r clwb. Mae'n mynd i fod yn wych. Hwn fydd peth mawr y  clwb.  Bydd pawb eisiau cystadlu.  Rydw i'n meddwl ei fod yn mynd i fod yn anhygoel."  

Dywedodd Lyn Orbell,  cadeirydd UKWAL: "Mae'r Gynghrair Athletau Genedlaethol newydd yn dod â'r uwch glybiau yn unol â gweddill y cynghreiriau yn y wlad ac yn gyfle i'r athletwyr iau sydd wedi cystadlu mewn timau cymysg ers rhai blynyddoedd anelu at fod yn rhan o'u  NAL newydd."  

Ychwanegodd  Dean Hardman,  cadeirydd BAL: "Mae wedi bod yn glir ers peth amser nawr bod yr athletwyr ac, yn fwy na hynny, y clybiau eu hunain, eisiau gweld cystadleuaeth uwch gynghrair lle mae dynion a merched yn cystadlu ochr yn ochr â'i gilydd fel cydaelodau o dîm." 

Nid yw cystadleuwyr cymysg yn anghyffredin mewn rhai cystadlaethau trac a chae. Ym Mhrifysgol Metropolitan  Caerdydd yn ddiweddar, yng ngornest glasurol y Nadolig, roedd y dynion a'r merched yn cystadlu ochr yn ochr yn y taflu siot, gyda phellteroedd yr athletwyr unigol yn cyfrif yng nghategorïau'r dynion neu'r merched.    

Cafodd nifer o'r rowndiau rhagbrofol 3,000m  eu graddio fel cystadlaethau cymysg, gyda dynion a merched â goreuon personol tebyg yn rhedeg ochr yn ochr â'i gilydd yn yr un rasys.  

Mae hyn yn sicrhau bod yr  athletwyr yn mwynhau mwy o gystadlu,  gan redeg yn erbyn gwrthwynebwyr gwrywaidd a benywaidd o'r un gallu.  

Er eu bod wedi rhedeg yn erbyn ei gilydd mewn rasys unigol, cafodd eu canlyniadau eu llunio'n unigol hefyd yn ganlyniadau dynion a merched, yn  union fel maen nhw mewn rasys 5k, 10k, hanner marathon a marathon ar ffyrdd.   

Mae chwaraeon eraill yn dechrau croesawu ethos "gymysg"  ar lefel gymdeithasol er mwyn cyflwyno amrywiaeth mwy ac ehangach o bobl i'w campau.    

Mae twrnameintiau rygbi cyffwrdd cymysg yn dod yn fwy poblogaidd a hefyd mae pêl rwyd a hoci wedi cyflwyno twrnameintiau a chynghreiriau cymysg.  

Fis Gorffennaf,  roedd gornest 7 Calon Cymru yn cynnwys twrnamaint rygbi cyffwrdd cymysg yn yr ŵyl gerddoriaeth a chwaraeon hynod boblogaidd yn  Llanidloes a'r gobaith yw cynnwys digwyddiad ehangach y flwyddyn nesaf.  

Un  gamp wirioneddol gymysg yw pêl korf, sy'n groes rhwng pêl rwyd a phêl fasged  ac  sy'n cael ei chwarae gan dimau cymysg o wyth o chwaraewyr - pedwar o ddynion a phedwar o ferched, i gyd yn cystadlu'n gyfartal.  

Mae'r gamp yn dod yn fwy poblogaidd yma yng Nghymru gyda thimau o Abertawe, Casnewydd, Aberystwyth a Chaerdydd yn cystadlu yng nghynghrair genedlaethol Cymru a chystadlaethau cwpan.  

Mae pencampwyr cenedlaethol Cymru'n cymhwyso ar gyfer Cwpan Ewropa IFK  sy'n cynnwys pencampwyr cenedlaethol o bob cwr o Ewrop.  

Hefyd mae Prifysgol  Aberystwyth, Prifysgol  Metropolitan  Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn cystadlu yng nghystadlaethau pêl korf Chwaraeon Prifysgolion a  Cholegau Cymru  (BUCS).  

Mae tîm pêl korf cenedlaethol yng Nghymru hefyd ac mae Caerdydd wedi cynnal twrnameintiau rhyngwladol.   

Dywedodd cadeirydd Pêl Korf Cymru,  James Wilcox, am y gamp: "Does gan bêl korf ddim un rhyw neu'r llall yn cymryd drosodd neu'n rheoli ac mae hynny'n arwain at awyrgylch braf yn y gamp.  

"Mae pobl yn tueddu i ddweud bod ysbryd teuluol braf yn perthyn i hyn. Mae llawer o bobl yn cyfarfod eu partneriaid drwy'r gamp ac wedyn maen nhw'n cael plant ac mae'r plant yn gallu chwarae gyda'i gilydd yn yr un tîm. Yn fechgyn neu ferched, maen nhw'n gallu chwarae gyda'u rhieni, ac felly mae'n gamp i deuluoedd yn sicr.   

"Mae teuluoedd sy'n chwarae gyda'i gilydd ar yr un tîm a dyna un o fanteision mawr y gamp, ond hyd yn oed ar lefel prifysgol, mae'r awyrgylch lle mae gennych chi ddynion a merched yn chwarae gyda'i gilydd yn dangos llawer o barch rhwng y rhywiau.  

"Roedd dyfyniad da gan hyfforddwr o'r Iseldiroedd yn ddiweddar - a nhw oedd y genedl wnaeth arwain gyda hyn, o'r Iseldiroedd mae'r gamp wedi dod - ac fe wnaeth e ddweud rhywbeth fel, 'rydych chi'n gallu adnabod chwaraewr pêl korf bob amser oddi wrth ei ddeallusrwydd emosiynol, sy'n deillio o chwarae camp rhywiau cymysg'."  

Mae chwaraeon cymysg wedi datblygu llawer ers i King  gyfarfod Riggs  yn Texas flynyddoedd maith yn ôl, gyda mwy o ddynion a merched yn mwynhau'r cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon ochr yn ochr â'i gilydd yn gyfartal, boed yn gystadleuol neu'n gymdeithasol.  

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy