Main Content CTA Title

Digwyddiad rhif un chwaraeon Cymru yn ystod y degawd…

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Digwyddiad rhif un chwaraeon Cymru yn ystod y degawd…

Mae buddugoliaeth Geraint Thomas yn y Tour de France yn 2018 wedi cael ei phleidleisio fel eich hoff ddigwyddiad chwaraeon ar gyfer Cymru yn ystod y degawd diwethaf! Mae'n cymryd ei le ar frig y podiwm ar ôl trechu Hal Robson Kanu yn rownd derfynol ein cystadleuaeth cwpan Degawd Chwaraeon Cymru a benderfynwyd gan bleidleisiau'r cyhoedd ar gyfryngau cymdeithasol. Diolch i bawb a gymerodd ran.

Dyma sut gweithiodd y gystadleuaeth gyfan…

Rownd Gyntaf

GORNEST 1
Sam Vokes yn penio Cymru i rownd gyn-derfynol yr Ewros yn 2016 VS Hal Robson Kanu yn creu cynnwrf mawr yn y byd pêl droed gyda Y gôl honno yn yr un gêm.

Enillydd: Hal Robson Kanu (83% y pleidleisiau ar Twitter, Facebook ac Instagram)

GORNEST 2

Mark Williams yn troi'r cloc yn ôl i ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd 2018 VS Jade Jones yn cicio ei ffordd i gipio aur Olympaidd yn Llundain 2012.

Enillydd: Mark Williams (67% y pleidleisiau)

GORNEST 3
Ail gais Alex Cuthbert mewn buddugoliaeth yn erbyn Lloegr a gipiodd Bencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013 VS Cais munud olaf anhygoel Shane Williams yn erbyn yr Alban yn 2010.

Enillydd: Shane Williams (72% y pleidleisiau)

GORNEST 4 - Dydd Iau 5 Rhagfyr
Yr hwylwraig Hannah Mills y bumed fenyw erioed yng Nghymru i ennill aur Olympaidd yn Rio 2016 VS Hollie Arnold yn taflu record byd newydd i gipio aur y waywffon yn y dosbarth F46 yn Rio 2016.

Enillydd: Hollie Arnold (54% y pleidleisiau)

GORNEST 5 - Dydd Gwener 6 Rhagfyr
Y codwr pwysau Gareth Evans yn ennill aur cyntaf Cymru yng Ngemau Cymanwlad 2018 a'i ddathliadau gwladgarol yn dilyn hynny! VS Tafliad anhygoel Aled Davies i ennill aur y ddisgen yn London 2012.

Enillydd: Aled Davies (54% y pleidleisiau)

GORNEST 6 - Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr
Geraint Thomas y Cymro cyntaf erioed i ennill Tour de France yn 2018 VS Ail gôl wych Aaron Ramsey yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Hwngari i sicrhau cymhwyso ar gyfer Ewro 2020.  

Enillydd: Geraint Thomas (84% y pleidleisiau)

GORNEST 7 - Dydd Sul 8 Rhagfyr
Y neidiwr clwydi 400m Dai Greene yn carlamu heibio'r gweddill i gipio'r aur ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd 2011 VS Golffiwr Jamie Donaldson yn ennill Cwpan Ryder 2014.

Enillydd: Dai Greene (74% y pleidleisiau)

GORNEST 8 - Dydd Llun 9 Rhagfyr
Gareth Bale yn sgorio gôl gwbl anhygoel yn Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2018 VS Swansea City yn ennill Cwpan y Gynghrair yn 2013 - tlws mawr cyntaf erioed y clwb.

Enillydd: Gareth Bale (69% y pleidleisiau)

Rowndiau Gogynderfynol

ROWND GOGYNDERFYNOL 1 - Dydd Iau 12 Rhagfyr
Hal Robson Kanu yn creu cynnwrf mawr yn y byd pêl droed gyda Y gôl honno VS Tafliad anhygoel Aled Davies i ennill aur y ddisgen yn London 2012.

Enillydd: Hal Robson Kanu (68% y pleidleisiau)

ROWND GOGYNDERFYNOL 2 - Dydd Gwener 13 Rhagfyr
Gareth Bale yn sgorio gôl gwbl anhygoel yn Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2018 VS Mark Williams yn troi'r cloc yn ôl i ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd 2018.

Enillydd: Gareth Bale (69% y pleidleisiau)

ROWND GOGYNDERFYNOL 3 - Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr
Geraint Thomas y Cymro cyntaf erioed i ennill Tour de France yn 2018 VS Y neidiwr clwydi 400m Dai Greene yn carlamu heibio'r gweddill i gipio'r aur ym Mhencampwriaethau Athletau'r Byd 2011.

Enillydd: Geraint Thomas (87% y pleidleisiau)

ROWND GOGYNDERFYNOL 4 - Dydd Sul 15 Rhagfyr
Cais munud olaf anhygoel Shane Williams yn erbyn yr Alban yn 2010 VS Hollie Arnold yn taflu record byd newydd i gipio aur y waywffon yn y dosbarth F46 yn Rio 2016.

Enillydd: Shane Williams (71% y pleidleisiau)


ROWND GYN-DERFYNOL 1 - Dydd Mawrth 17 Rhagfyr
Geraint Thomas y Cymro cyntaf erioed i ennill Tour de France yn 2018 VS Gareth Bale yn sgorio gôl gwbl anhygoel yn Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr 2018.

Enillydd: Geraint Thomas (79% y pleidleisiau)

ROWND GYN-DERFYNOL 2 - Dydd Mercher 18 Rhagfyr
Cais munud olaf anhygoel Shane Williams yn erbyn yr Alban yn 2010 VS Hal Robson Kanu yn creu cynnwrf mawr yn y byd pêl droed gyda Y gôl honno.

Enillydd: Hal Robson Kanu (55% y pleidleisiau)


ROWND DERFYNOL - Dydd Iau 19 a Dydd Gwener 20 Rhagfyr
Geraint Thomas y Cymro cyntaf erioed i ennill Tour de France yn 2018 VS Hal Robson Kanu yn creu cynnwrf mawr yn y byd pêl droed gyda Y gôl honno.

Enillydd: Geraint Thomas (52% y pleidleisiau)

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy