Skip to main content

Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Hwb i chwaraeon eira drwy uwchraddio llethrau artiffisial

Mae Cymru'n dod yn lle gwell ar gyfer chwaraeon eira diolch i arian grant o £100,000 gan Chwaraeon Cymru ar gyfer uwchraddio llethrau artiffisial yng ngogledd a de'r wlad.   

Yn y gogledd, ailagorodd Canolfan Chwaraeon Eira Llandudno ei drysau yr wythnos ddiwethaf gyda phrif lethr sydd wedi cael arwyneb newydd. Mae sgïwyr ac eirafyrddwyr eisoes yn mwynhau rhoi'r mat technoleg sgïo modern ar brawf cyn i'r lleoliad ddechrau cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau eleni.         

Gall cefnogwyr chwaraeon eira yn y de edrych ymlaen at welliannau cyffrous i Ganolfan Sgïo Caerdydd, sy'n fusnes gweithredol ers 50 o flynyddoedd bellach. Erbyn diwedd mis Mawrth, bydd gan y llethrau artiffisial system niwlo newydd, a fydd yn gwella'r amodau'n fawr iawn, yn enwedig mewn tywydd sych.

Mae'r ddau brosiect uwchraddio wedi bod yn bosib ar ôl i Chwaraeon Eira Cymru dderbyn cyllid Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru. Aeth grant o £75,000 tuag at y gwaith arwynebu yn Llandudno ac aeth £25,000 ar gyfer y gwelliannau yng Nghaerdydd. Roedd y cyllid yn rhan o ddyraniad o £5m gan Lywodraeth Cymru ddechrau'r llynedd er mwyn helpu i uwchraddio cyfleusterau chwaraeon ar hyd a lled y wlad.     

Dywedodd Robin Kellen, Prif Weithredwr Chwaraeon Eira Cymru: "Rydw i wir yn gyffrous am yr arwyneb newydd yng Nghanolfan Chwaraeon Eira Llandudno. Mae'r prosiect uwchraddio yma'n helpu i sicrhau dyfodol tymor hir llawer gwell i chwaraeon eira yn rhanbarth Gogledd Cymru ar ôl cau llethr sgïo Plas Y Brenin yn 2018.

"Cafodd y gost o £300k i gyd ar gyfer ailddatblygu'r cyfleuster gan y perchennog, John Nike Leisure, hwb aruthrol gan y cyllid Lle i Chwaraeon ac fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi gwneud cymaint o ymdrech er mwyn gweld y prosiect yma'n dwyn ffrwyth."

 

Mae ymchwil diweddar gan Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru wedi datgelu bod galw cudd sylweddol am chwaraeon eira yng Nghymru, gyda 12% o blant ysgol (ffynhonnell: Arolwg ar Chwaraeon Ysgol) a 9% o oedolion (ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru) yn dweud y byddent yn hoffi cymryd rhan mewn chwaraeon eira.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog ar gyfer Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Rydw i'n hynod falch ein bod ni wedi gallu darparu cyllid i foderneiddio'r cyfleusterau yma. Gan fod 2020 yn Flwyddyn yr Awyr Agored yng Nghymru, ble well i ddechrau na thrwy gael gwared ar dipyn o we pry cop ar lethr sgïo? Mae llethrau artiffisial yn lle delfrydol i ddechreuwyr roi cynnig ar chwaraeon eira a magu hyder."

Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru: "Mae'r £5m o gyllid Lle i Chwaraeon a gafodd ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru yr adeg yma y llynedd wedi cael ei rannu ymhlith mwy na 150 o brosiectau a fydd yn helpu i wella cyfleusterau mewn tua 30 o wahanol chwaraeon. O ystyried bod cymaint â hyn wedi cael cymorth, a bod galw'n bodoli o hyd, byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar ffyrdd o wella'r stoc o gyfleusterau chwaraeon ledled Cymru."

I gael gwybod mwy am Ganolfan Sgïo Llandudno, ewch i www.jnlllandudno.co.uk, neu ewch i www.skicardiff.co.uk am bopeth rydych chi angen ei wybod am Ganolfan Sgïo Caerdydd.  
 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy