Main Content CTA Title

Jenkins yn gyffrous am ddychwelyd i rasio yn Dubai

Mae Helen Jenkins yn bwriadu rasio eto ym mis Ebrill – ar ôl profi bod unrhyw beth yn bosib os ydych chi’n benderfynol, yn dal ati i fod yn egnïol ac eisiau gwneud argraff ar y plant. 

I’r rhan fwyaf ohonom ni, gall hynny olygu cadw mewn siâp gweddol wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, er mwyn mwynhau bywyd i’r eithaf gyda’r teulu.         

I’r driathletwraig o Gymru sy’n bencampwraig byd dwbl, roedd yn cynnwys gorffen ei ras gyntaf ers dros dair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd ddau o blant ac anaf difrifol i’w chefn oedd angen llawdriniaeth gymhleth. 

Dim ond wyth mis yn ôl y rhoddodd Jenkins enedigaeth i’w mab Max – brawd i Mali sy’n ddyflwydd a hanner.                     

Llun Ryan Sosna-Bowd

Dim ond newydd ddychwelyd at hyfforddi oedd y fenyw 35 oed, ar ôl rhoi genedigaeth i’w merch, pan oedd ei phroblemau cefn mor ddifrifol fel bod rhaid iddi gael llawdriniaeth i uno’r esgyrn yn asgwrn ei chefn. 

Dywedodd meddygon wrthi nad oedd yn debygol o gystadlu eto, ond roedd y tân yn ei bol o hyd – nid cymaint dros gystadlu, ond dod dros yr anaf er mwyn gallu rhedeg, nofio a beicio eto, a chadw’n iach.             

Ond pan ddaeth Max, fe deimlodd yr athletwraig o Ben-y-bont ar Ogwr – sy’n cael ei hyfforddi gan ei gŵr a thriathletwr rhyngwladol arall, Marc – y poenau yn ei chefn yn cilio. 

Ac felly, ddechrau mis Chwefror – fwy na thair blynedd ers ei thriathlon diwethaf – cystadlodd Jenkins yng nghystadleuaeth Dyn Haearn Dubai 70.3. Cwblhaodd y cwrs a hefyd gorffennodd yn bumed mewn criw safonol iawn.       

“Pan gefais i lawdriniaeth ar fy nghefn ddechrau 2018, nid cystadlu oedd y flaenoriaeth – ond gallu byw bywyd egnïol,” meddai Jenkins.

“Rydw i wrth fy modd yn ymarfer a chymryd rhan mewn chwaraeon, felly os nad oeddwn i’n mynd i allu cystadlu eto, roeddwn i eisiau gallu ymarfer – mynd ar fy meic ac i redeg. Dyna beth rydw i wedi hoffi ei wneud erioed. 

“Nid cystadlu sydd wedi bod yn ffocws i fy meddwl i yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ond sut mae fy nghefn i a chael bod yn egnïol. 

“Roedd cystadlu wastad yn mynd i fod yn fonws. Ar ôl y llawdriniaeth, roedd yn annhebygol iawn y byddwn i’n cystadlu eto, felly mae’n ychwanegiad enfawr.”

Jenkins oedd triathletwraig orau’r byd yn 2008 a 2011, ond ar ôl bod allan o’r gamp cyhyd, mae hi ormod y tu ôl i’w holl wrthwynebwyr i fod â gobaith o fod yn aelod o dîm Prydain Fawr ar gyfer Gemau Olympaidd Tokyo yr haf yma. 

Yn hytrach, mae ei dychweliad yn debygol o ganolbwyntio am nawr ar bellter cystadlaethau Dyn Haearn, lle mae’r calendr yn fwy hyblyg ac mae’n gallu dewis ei rasys wedyn.   

“Un o’r rhesymau dros ddewis pellter mwy oedd bod llai o bwysau gyda hynny. Pan rydych chi’n cystadlu ar bellter Olympaidd mae llawer mwy o bwysau a ffocws.                     

Llun Ryan Sosna-Bowd

“Dim ond bob pedair blynedd mae’r Gemau Olympaidd yn cael eu cynnal a rhaid i chi geisio cael pwyntiau a chymhwyso a phopeth felly.   

“Mae hyn yn sicr yn cyd-fynd â ble rydw i ar hyn o bryd, o ran cael y plant. Mae’n ymwneud â beth rydw i eisiau ei wneud, yn lle bod ar amserlen.

“Ond ’fyddwn i byth yn rhedeg y pellter yna (21.1k) yn gystadleuol. Mae’n flynyddoedd ers i mi redeg mor bell â hynny wrth ymarfer. Roedd rhedeg y cilomedrau olaf yn anodd ac roeddwn i’n meddwl ‘waw, mae llawer o ffordd i fynd eto yma!’” 

Yr hyn oedd yn allweddol i Jenkins oedd nid ei hamser na’i safle yn y ras, ond sut roedd hi’n teimlo. Oedd e’n hwyl? Wnaeth hi fwynhau neu oedd hi’n rhy brysur yn meddwl am ddal yr awyren olaf yn ôl i Lundain a bod gartref mewn pryd ar gyfer bath Mali a Max?

Yn y diwedd, fe welodd hi bod yr ateb i’r cwestiynau yma i gyd yn bositif – gan gynnwys cyrraedd ar gyfer amser bath. 

“Rydw i’n hapus iawn. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl cyn y ras na sut oeddwn i am fod. Rydw i’n gwybod nad ydw i’n agos at ble oeddwn i wrth gystadlu ar fy ngorau, ond roeddwn i’n gwybod ’mod i wedi bod yn gwella. 

“Roedd yn hyfryd bod allan yn rasio. Wrth fynd i’r ras, doedd dim nod na chynllun. Roeddwn i eisiau gweld sut byddai pethau’n mynd a dim ond eisiau mwynhau unwaith eto.       

“Dydych chi byth yn gwybod nes i chi rasio ydych chi am fwynhau ai peidio. Ond fe wnes i a dyna oedd y peth pwysicaf.               

“O ran cyflymder, doedd e ddim yn berfformiad gwych ond mae cymaint o bobl yn gwybod pa mor anodd yw dechrau arni eto – yn enwedig pobl gyda dau o blant!”

Mae Mali a Max yn hapus hefyd. Nid yn unig maen nhw’n cael mwy o Mam yn  rhedeg yn eu gwthio nhw yn eu cadair wthio o amgylch Porthcawl ond hefyd mae gan Mali degan newydd o’r Emiradau.             

“Fe ddois i â medal yn ôl dros y penwythnos ac mae hi’n hoffi hynny. Mae hi wedi bod yn hapus iawn yn cerdded o gwmpas yn gwisgo’r fedal. 

“Mae’r cefn yn teimlo’n iawn. Rydw i’n brifo braidd, ond rydw i’n gadael i ’nghorff i adfer ac fe fydda’ i’n iawn. Y demtasiwn yw neidio’n syth yn ôl i ymarfer, ond mae’n rhaid i mi orffwys nawr a rhoi amser i bethau.               

“Gorffwys bach nawr ac mae’n debyg y gwnaf i ras arall fis Ebrill. Y nod gyda’r ras yma oedd ei chwblhau a gweld sut roedd yn teimlo. A’r newyddion da yw ei bod yn teimlo’n dda iawn.”

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy