Main Content CTA Title

Cyhoeddi Chwaraeon Cymru fel hwb Team GB ar gyfer y Gemau Olympaidd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyhoeddi Chwaraeon Cymru fel hwb Team GB ar gyfer y Gemau Olympaidd

Gydag ychydig dros bum mis i fynd tan Gemau Olympaidd Tokyo 2020, cadarnhaodd Cymdeithas Olympaidd Prydain heddiw y tîm gwasanaethau perfformiad o 44 o bobl a fydd yn darparu cefnogaeth o ddydd i ddydd i’r athletwyr.                       

Yn ychwanegol at staff perfformiad y chwaraeon eu hunain, bydd aelodau’r gwasanaethau perfformiad hyn – sy’n cynnwys meddygon, ffisiotherapyddion, seicolegydd, gwyddonwyr perfformiad, dadansoddwyr perfformiad, maethegwyr a chogydd – yn rhan greiddiol o weithlu Pencadlys Team GB a byddant wedi’u gwasgaru ar draws y Pentref Olympaidd, yn ogystal â lleoliadau perfformio Team GB ei hun: y Gwersyll Paratoi a’r Llety Perfformiad.           

Bydd Gwersyll Paratoi Team GB wedi’i leoli ym Mhrifysgol Keio (Campws Hiyoshi), Pwll Rhyngwladol Yokohama a Stadiwm Todoroki yn Kawasaki, a bydd Llety Perfformiad Team GB, lleoliad ar gyfer hyfforddiant tawel yn ystod y Gemau, yn ardal Odaiba, drws nesaf i’r Pentref Olympaidd.     

Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd

Yn ychwanegol at y swyddogaethau hyn yn Tokyo, bydd wyth dadansoddwr perfformiad yn y DU ond yn gweithio yn unol ag amser Tokyo, yn Hwb Caerdydd Team GB yn Athrofa Chwaraeon Cymru, gan gefnogi’r gweithgarwch ar y tir yn Tokyo.

Bydd y tîm gwasanaethau perfformiad yn cael ei arwain gan y Dirprwy Brif Weithredwr ar gyfer Tokyo 2020, Dr. Paul Ford MBE, gyda’r tîm profiadol wedi mynychu mwy na 100 o gemau aml-chwaraeon rhyngddynt.        

Dywedodd Ford: “Rydyn ni wedi creu’r amgylchedd hyfforddi gorau a manylaf cyn y Gemau i herio unrhyw amgylchedd yn y byd i baratoi athletwyr ar gyfer eu pinacl chwaraeon yn Tokyo 2020 a does gen i ddim amheuaeth ein bod ni hefyd wedi recriwtio’r tîm cefnogi gorau posib i lenwi’r swyddogaethau hanfodol hyn yn ystod y Gemau.  

“Rydyn ni’n falch unwaith eto o gael cynrychiolaeth o bob rhan o rwydwaith chwaraeon perfformiad uchel y DU, o’r athrofeydd chwaraeon cenedlaethol, y Cyrff Rheoli Cenedlaethol, a sawl practis preifat, gan sicrhau bod gennym y staff gorau posib a mwyaf profiadol erioed ar gyfer y Gemau.  

“Rydyn ni’n eithriadol ymwybodol bod elfennau amrywiol yn creu tîm llwyddiannus ond does gennym ni ddim amheuaeth y bydd yr athletwyr a’r chwaraeon yn cael y gefnogaeth orau ac yn cael eu paratoi yn y ffordd orau pan fyddant yn cystadlu ym mis Gorffennaf.”

Bydd Athrofeydd Chwaraeon y Gwledydd Cartref yn chwarae rhan greiddiol unwaith eto mewn darparu arbenigedd drwy gyfrwng eu hymarferwyr ac, fel yn 2016 yng Ngemau Rio, mae Dr. Niall Elliott, Athrofa Chwaraeon sportscotland, wedi cael ei benodi fel Prif Swyddog Meddygol (PSM) ar ôl ei berfformiad diweddaraf fel PSM Tîm yr Alban yng Ngemau Cymanwlad yr Arfordir Aur yn 2018.  

Elliott fydd pennaeth tîm meddygol athletwyr Prydain yn Tokyo 2020, a fydd yn mynychu’r lleoliadau hyfforddi a chystadlu yn ystod y digwyddiad ym mhrifddinas Japan a thu hwnt.                

Dywedodd Elliott: “Mae’n anrhydedd enfawr gweithio gyda Chymdeithas Olympaidd Prydain a bod yn gyfrifol am iechyd a lles y tîm cyfan. Mae hwn yn gyfle i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr rhagorol, profiadol a dibynadwy o bob cwr o’r DU sydd ym mhinacl y byd chwaraeon.”

Louise Fawcett, o Athrofa Chwaraeon Lloegr, sydd wedi gweithio yn y Gemau Olympaidd bum gwaith, fydd prif ffisiotherapydd Team GB.                        

Dywedodd Fawcett: “Mae’n fraint bod yn Brif Ffisiotherapydd COP ar gyfer Gemau Tokyo.  

“Mae cefnogi athletwyr yn y Gemau Olympaidd yn rôl hanfodol sy’n rhoi llawer o foddhad. Fel tîm cefnogi amlddisgyblaethol, byddwn yn gwneud popeth allwn ni i sicrhau bod athletwyr Team GB wedi paratoi’n llawn i’w helpu i gyflawni eu nodau.            

“Mae’r paratoadau ar gyfer y Gemau’n parhau ac rydw i’n hyderus y byddwn ni’n barod i roi’r gwasanaethau ffisiotherapi gorau posib i’r tîm.”

Enw - Rôl - Sefydliad

Paul Ford Dirprwy Brif Weithredwr – Perfformiad          COP

Greg Retter Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad  COP

Niall Elliott Prif Swyddog Meddygol  SIS

Mike Rossiter Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Annibynnol

Jonathan Hanson Meddyg SIS

Kate Hutchings Meddyg EIS

Michelle Jeffrey Meddyg SIS

Kate Jordan Meddyg Annibynnol

Carrie McCrae Meddyg SIS

Alastair Nicol Meddyg Annibynnol

Graeme Wilkes Meddyg Annibynnol

Wendy Martinson Arweinydd Maeth Perfformiad  EIS / Annibynnol

Emma Gardner Maethegydd   EIS

Irene Riach Maethegydd  SIS

Julia Wells Arweinydd Dadansoddi Perfformiad  EIS

Yiannis Konstantonis Dadansoddwr Perfformiad EIS

Yana Stride Dadansoddwr Perfformiad EIS

Paul Worsfold Dadansoddwr Perfformiad EIS

Carys Jones Arweinydd Dadansoddi Perfformiad Hwb y DU  WIS

Emma Bird Dadansoddwr Perfformiad Hwb y DU EIS

Mark Bone Dadansoddwr Perfformiad Hwb y DU Annibynnol

Tia Davidson Dadansoddwr Perfformiad Hwb y DU EIS

Victoria Jones Dadansoddwr Perfformiad Hwb y DU MMU

Emma Mosscrop Dadansoddwr Perfformiad Hwb y DU MMU

Jennifer Roach Dadansoddwr Perfformiad Hwb y DU WIS

TBA Cogydd Perfformiad TBA

Faye Hodson Cydlynydd Perfformiad   EIS

Kate Hays Arweinydd Seicoleg Perfformiad  EIS

Luke Gupta Gwyddoniaeth Perfformiad EIS

David Lasini Gwyddoniaeth Perfformiad NISI

Luke Sweet Gwyddoniaeth Perfformiad EIS

Paddy Anson Arweinydd Gwyddoniaeth Perfformiad  EIS

Laura Hanna Rheolwr Gwasanaethau Perfformiad Annibynnol

Stuart Pickering Rheolwr Gwasanaethau Perfformiad EIS

Louise Fawcett Prif Ffisiotherapydd EIS

Nicki Combarro Dirprwy Brif Ffisiotherapydd Annibynnol

Carl Butler Ffisiotherapydd EIS

Oli Davies Ffisiotherapydd SIS

Angela George Ffisiotherapydd EIS

Paul Gould Ffisiotherapydd EIS

Ian Horsley Ffisiotherapydd EIS

Craig More Ffisiotherapydd SIS

Caryl Becker Ffisiotherapydd EIS

Lily Devine Ffisiotherapydd EIS

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy