Skip to main content

David Morgan – yn codi ymwybyddiaeth o’i gamp

Rhwng 1982 a 2002, roedd cefnogwyr chwaraeon Cymru yn gwybod eu bod yn siŵr o fod yn dathlu o leiaf un fedal aur pan oedd David Morgan yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad.

Mae’r codwr pwysau sydd â’r nifer mwyaf o fedalau yng Nghymru wedi ennill cyfanswm o naw aur a thair arian yn gwisgo coch dros Gymru – sy’n golygu mai ef yw’r gŵr cyntaf mewn unrhyw gamp i ennill medalau mewn chwech o wahanol Gemau’r Gymanwlad. 

Wrth groesawu’r 2020au ar Ionawr 1, cafodd camp nodedig y dyn cryf a aned yng Nghaergrawnt ei chydnabod o’r diwedd ar restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.     

Er ei bod yn 20 mlynedd bron ers ei goron Gymanwlad ddiwethaf ym Manceinion, mae’r gŵr 55 oed yn falch ei fod ef a’r gamp y mae wedi ymrwymo cymaint o’i fywyd iddi wedi cael eu cydnabod gydag MBE.

 

"Dim ond am ddau godwr pwysau arall sydd wedi cael MBE alla’ i feddwl - Precious McKenzie a Michaela Breeze, felly mae’n braf cael cydnabyddiaeth oherwydd hynny,” meddai Morgan, a enillodd ei fedal aur gyntaf fel llanc 17 oed yn Brisbane yn 1982 i ddod yr enillydd teitl codi pwysau ieuengaf erioed yn y Gymanwlad. 

"Rydw i’n meddwl mai’r broblem yw nad oes gennym ni lawer o bobl sy’n dda iawn. I bobl fod â diddordeb, mae’n rhaid i chi gael enillwyr, does?       

“Dydw i ddim yn meddwl bod codi pwysau ym Mhrydain Fawr wedi bod mor boblogaidd ag athletau neu bêl droed, rygbi neu griced."

Mae Morgan yn dweud na ddechreuodd godi pwysau am enwogrwydd ac arian. "Doedd dim llawer o ots gen i nad oedd yn gamp brif ffrwd a dweud y gwir. 

“Doeddwn i ddim yn cymryd rhan i fod yn enwog neu’n seren, nac i ennill bywoliaeth. Am fod gen i ddiddordeb mewn ffitrwydd corfforol wnes i ddechrau arni, ac i wella fy hun, ac roedd codi pwysau’n rhywbeth wnes i syrthio’n rhan ohono."

"Mae’n braf cael yr MBE. Mae Mam dal yn fyw, mae hi'n 91 oed, ac mae’r math yna o beth yn golygu llawer iddi hi. Felly os yw’n golygu llawer iddi hi, mae’n golygu llawer i mi.”

Yn ogystal â’i lwyddiant yn torri record yng Ngemau’r Gymanwlad, cystadlodd Morgan hefyd yn y Gemau Olympaidd dair gwaith, gan ddod yn agos at fedal ddwywaith. A’r cyfan gan weithio o ddydd i ddydd a dal ati gyda chyllid cyfyngedig a chefnogaeth teulu a ffrindiau.     

Meddai cyn bencampwr iau y byd am ei ymddangosiadau Olympaidd: “Yn 1992, fe gefais i anaf ac felly doedd dim gobaith bryd hynny. Yn ’84, fe ddylwn i fod yn 10fed ond fe ddois i’n bedwerydd oherwydd boicot. Ond er hynny, ddeufis yn ddiweddarach fe wnes i godi mwy na’r boi wnaeth ennill, felly roedd amseru’n broblem. 

“Yn ‘88, fe ddylwn i fod wedi ennill, ond fe gefais i ddysenteri bythefnos cynt, felly doeddwn i ddim yn codi cystal, ond wrth hyfforddi roeddwn i wedi codi cymaint â’r enillydd. Ond roeddwn i yn yr ysbyty am bedwar diwrnod ac fe wnaeth hynny amharu arna’ i. 

“Ond dyna fel mae pethau. Dyna beth yw chwaraeon. Fe allwch chi gael anaf, mynd yn sâl, mae’r pethau yma’n digwydd, ond gyda Gemau’r Gymanwlad roeddwn i’n fwy ffodus o ran anafiadau.”

Fe gyflawnodd Morgan yr hyn roedd ei eisiau o’r gamp ac mae’n dweud y dylai darpar godwyr pwysau wybod beth maen nhw ei eisiau o’r gamp cyn dechrau arni o ddifrif.     

“Mae cymaint o bethau eraill yn tynnu sylw ieuenctid heddiw, gyda ffonau symudol, gemau a’r holl bethau gwahanol. Mae llawer o bethau’n eu denu nhw i wahanol gyfeiriadau. 

“Pe baech chi’n dweud wrth rywun, ‘i ddechrau y cyfan sydd raid i chi ei gael yw geneteg, os oes gennych chi hynny, rhaid i chi wneud chwe sesiwn bach y dydd am 10 mlynedd ac wedyn efallai y gwnewch chi gyrraedd pencampwriaethau’r byd ac efallai y cewch chi fedal’, dydw i ddim yn siŵr faint o bobl fyddai eisiau gwneud hynny.             

“Os ydych chi’n ei wneud e am eich bod chi wrth eich bodd, mae’n bur debyg mai codi pwysau yw’r llwybr i’w ddilyn.”

Fel hyfforddwr ffitrwydd llawn amser, mae Morgan yn annog manteision iechyd codi pwysau, yn enwedig i bobl hŷn.                               

“Dim codi pwysau o angenrheidrwydd, codi pwysau Olympaidd, ond hyfforddiant ymwrthedd.   

"Felly, codi pwysau, pwysau trwm, a sgwatiau a meinciau, dyna beth rydw i’n ei wneud nawr. Mae gen i bobl yn eu 70au sy’n dod i hyfforddi gyda mi. 

“O’i wneud yn iawn, mae’n rhyw fath o ffynnon ieuenctid oherwydd rydych chi’n cynnal y cyhyrau, yn cynnal y gweithredoedd – dim ond i chi beidio â gwneud gormod a’ch bod chi’n gwneud symudiadau sydd ddim yn mynd i’ch anafu chi.             

“Nid codi pwysau yw’r peth gorau i bobl dros 50 mae’n debyg, ond hyfforddi â phwysau – symudiadau arafach gyda mwy o ailadrodd – mae’n fuddiol iawn. Rydw i’n meddwl y dylai pawb wneud hanner awr ddwywaith yr wythnos. 

“Rydw i’n meddwl pe bai pawb yn gwneud hynny, byddai llai o godymau, pengliniau newydd a phopeth arall. Mae wedi gweithio’n dda iawn i mi. 

"Rydw i wedi bod yn ei wneud ers 25 mlynedd. Mae’r ieuengaf yma’n tua 50 a’r hynaf rydw i wedi gweithio ag ef yn 90, ac maen nhw i gyd wedi codi pwysau. 

“Fe fyddech chi’n synnu at y bobl yn eu 50au! Dim ond i chi roi trefn addas, gytbwys a chynyddol iddyn nhw, mae’n anhygoel sut maen nhw’n gallu gwella mewn chwe mis. 

“Gall y rhan fwyaf o bobl sy’n gwneud dau sesiwn yr wythnos gynyddu eu cryfder corfforol ryw 100 y cant mewn chwe mis. Mae hwn yn newid aruthrol o ddim ond gwneud rhywfaint o hyfforddi â phwysau cynyddol. 

“Ac wrth gwrs, os gwnewch chi ddyblu eich cryfder yn 50, mae’n haneru eto erbyn i chi fod yn 80 ac wedyn rydych chi’n ôl ble’r oeddech chi yn 50, pan rydych chi’n 80! Mae ansawdd eich bywyd chi’n llawer gwell, felly o’r safbwynt hwnnw fe fyddwn i’n ei argymell.”

Daeth Morgan, sydd â phum record byd meistri o hyd, yn ei ôl y llynedd ar y lefel honno, ond oherwydd anaf i’w ben-glin roedd rhaid iddo roi’r gorau iddi. 

“Roeddwn i’n gloff am chwe mis nes iddo wella ac roeddwn i’n meddwl ‘ydw i wir eisiau bod yn gloff? Na’. Roeddwn i’n gwybod y byddwn i wedi gallu torri sawl record ond fe wnes i drafod y mater gyda fy ngwraig ac fe wnaethon ni benderfynu nad oedd e werth e. 

“Dydw i ddim eisiau dwy record byd arall ac wedyn bod yn gloff yn 60 oed. Rydw i eisiau bod yn iawn a gallu gwneud y pethau rydw i eisiau eu gwneud.”

Mae Morgan yn fodlon gyda beth mae wedi’i gyflawni yn y gamp. 

“Rydw i’n hapus. Roedd rhaid i mi weithio ar lawer o bethau fy hun ac roeddwn i’n ffodus iawn o gyfarfod gŵr o’r enw Den Welch yn gynnar yn fy ngyrfa. Fe oedd yn rhedeg yr Empire Sports Club ym Mryste ac roedd yn gwneud llawer gyda chodi pwysau yng Nghymru.                       

“Roedd o flaen ei amser ac fe wnaeth helpu llawer arna’ i gyda’r gwahanol bethau nad oedd bobl yn eu gwneud. Roedd yn arloesol gyda hynny.               

“Fe gefais i ychydig o lwc yn ei gyfarfod e. Wrth lwc, fe lwyddodd fy nghorff i i ymateb i’r math yna o hyfforddiant. 

“Rydw i’n hapus gyda beth wnes i. Rydw i’n falch ohono, roedd mam a dad yn falch ohono.

“Ac rydw i wedi dod allan y pen arall yn un darn, sy’n beth da.”

Cynhyrchwyd yr erthygl mewn partneriaeth â Dai Sport.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy