Mae’r Dreigiau Celtaidd yn mynd i allu goresgyn colli chwaraewyr a rhoi dipyn o syndod i sawl un yn yr Uwch Gynghrair pêl rwyd y tymor yma – yn ôl y fenyw a arferai fod yn rhan mor allweddol o’r garfan.
Y Dreigiau - dân yn eu boliau
Mae Suzy Drane – a oedd yn chwaraewr nodedig i’r Dreigiau am dros ddegawd ac yn un o sêr Cymru a gyrhaeddodd gyfanswm o 100 o gapiau y tymor diwethaf – yn credu y gall ieuenctid y tîm wynebu’r her sydd wedi’i chreu gan newid mawr yn y clwb yn ystod y misoedd diwethaf.
Gydag Uwch Gynghrair Vitality ar fin dechrau ar Chwefror 22, mae unig gynrychiolwyr Cymru ar y lefel uchaf mewn pêl rwyd ym Mhrydain wedi mynd drwy newid mawr.
Mae conglfeini’r garfan yn ystod y tymhorau diwethaf – chwaraewyr fel Drane, y cyn gapten Nia Jones, a sêr rhyngwladol profiadol eraill Cymru, Kyra Jones, Bethan Dyke a Chelsea Lewis, wedi mynd.
Hefyd mae deuawd rhyngwladol y tymor diwethaf o dramor, Kalifa McCollin a Stacian Facey, wedi mynd.
Mae llawer o dalent a phrofiad wedi mynd gyda’i gilydd ac mae rhai eisoes yn proffwydo tymor o anawsterau, ond mae Drane yn gweld cyfleoedd yn hytrach nag argyfwng ar y gorwel.
“Edrychwch ar Undeb Rygbi Cymru,” meddai Drane, a adawodd y Dreigiau i ymuno â Toucans Caerfaddon yn y lefel o dan yr Uwch Gynghrair, ond mae dal ar gael i Gymru.
“Mae’r tîm rygbi wedi gweld newid mawr yn yr un ffordd i’r criw hyfforddi, ond dydi hynny ddim fel pe bai wedi effeithio gormod arnyn nhw, gan fod y sylfeini yn eu lle.
“Rydw i’n meddwl y bydd y Dreigiau Celtaidd yn ei chael yn anodd ar adegau, ond rydw i’n meddwl y byddan nhw’n addasu. Yr hyn sydd wir yn gyffrous yw bod ieuenctid talentog iawn yn dod drwodd yng Nghymru – fel Shona O’Dwyer ac Eleri Michael – a hefyd Lucy Howells sydd dal yno ers y llynedd.
“Mae cyfle iddyn nhw nawr, i gael llawer o brofiad, a fydd yn llesol i’r Dreigiau yn y tymor hir, ac i Gymru.”
Mae’r Dreigiau wedi cadw eu prif hyfforddwr o’r tymor diwethaf, Tania Hoffman, ond mae newid mawr allan ar y cwrt.
Yn 32 oed, dewisodd Drane fanteisio ar gyfle gwaith fel darlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd drwy gamu i lawr un lefel.
Dewisodd Nia Jones a Dyke ymuno â gelynion y Dreigiau yn yr Uwch Gynghrair, Seven Stars, mae Kyra Jones wedi newid i chwarae Rheolau Aussie, ac mae Lewis a’i phartner, seren rygbi Cymru Adam Beard, wedi cyhoeddi eu bod yn disgwyl babi.
O’r tu allan, mae’r ecsodus yn awgrymu clwb sydd wedi colli ei apêl, ond mae Drane yn mynnu nad yw hynny’n wir i’r tîm a ddaeth yn seithfed yn y gynghrair 10 clwb y tymor diwethaf.
“I mi, hwn oedd yr amser iawn oherwydd cyfle gwaith na fyddai wedi bod ar gael i mi ryw dro eto efallai. Doedd dim agenda gudd gan neb. Mae trosiant mawr o chwaraewyr ond weithiau mae camp yn gweithio mewn cylchoedd penodol.”
I lenwi’r bwlch, mae’r Dreigiau wedi recriwtio deuawd o Jamaica, Rebekah Robinson a Latanya Wilson, yn ogystal ag O’Dwyer, sy’n symud i gyfeiriad croes i Nia Jones a Dyke, o Seven Stars.
Mae Paige Kindred wedi cyrraedd o dîm y pencampwyr Manchester Thunder, ac mae Amy Clinton wedi ymuno o Loughborough Lightning. Mae cyn gapten grŵp oedran Cymru, Sophie Morgan, wedi dychwelyd at y Dreigiau ar ôl cyfnodau gyda Thunder a Surrey Storm.
Mae Drane yn mynnu nad dim ond y Dreigiau sydd wedi profi trosiant mawr mewn chwaraewyr. Mae clybiau eraill wedi gweld newid mawr tebyg hefyd wrth i’r timau i gyd addasu i’r rheolau newydd am niferoedd y sgwad.
Mae sgwadiau diwrnod gêm wedi cael eu lleihau o 12 i 10 chwaraewr, sy’n golygu llai o gyfleoedd i rai chwaraewyr – ond mae timau’n cael pum chwaraewr ychwanegol yn awr fel “partneriaid hyfforddi”.
“Rydw i’n meddwl y bydd hi’n agosach yn y gynghrair eleni,” ychwanegodd Drane. “Mae mwy o chwaraewyr wedi symud am eu bod nhw eisiau bod yn y sgwad 10 chwaraewr yna.
“Mae cael dau le ychwanegol yn y grŵp ehangach yn rhoi mwy o brofiad i chwaraewyr ddatblygu, sy’n bwysig iawn.
“Mae gan y Dreigiau rai chwaraewyr sydd wedi cael eu recriwtio o Loegr, ond dydi hynny’n ddim byd newydd. Mae llawer o chwaraewyr wedi bod yn dod dros y bont o Gaerfaddon. Hefyd, rydyn ni wedi bod yn cael chwaraewyr o dramor.
“Rydw i’n meddwl y byddan nhw’n anelu at orffen yn uwch na seithfed. Dydych chi byth eisiau aros yn llonydd.
“Ond yr hyn sydd wir yn gyffrous yw’r chwaraewyr ifanc newydd yn sgwad Cymru sydd wedi cael eu cyfle. Mae hynny’n fy nghymell i a ’nghadw i’n ffres. Pan rydych chi’n stopio dysgu, mae’n amser stopio chwarae.”