Gyda’r gaeaf yn tynnu mwy fyth o sylw at gyflwr ein caeau chwaraeon ni, dyma Graham Thomas o Dai Sport a Paul Batcup o Chwaraeon Cymru i roi cipolwg i ni ar y darlun presennol yng Nghymru.
Bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â chwarae pêl droed neu rygbi cymunedol yr adeg yma o’r flwyddyn yn deall y teimlad yn iawn.
Mae’n tywallt y glaw a’r gwynt yn chwipio wrth i chi sbecian allan drwy ffenest yr ystafell fyw i asesu’r tywydd ar gyfer gêm y penwythnos, ac mae eich ffôn chi’n canu gyda neges: “wedi gohirio – welai di wythnos nesaf.”
I chwaraewyr ar lawr gwlad yng Nghymru, mae glaswellt yn broblem – yn enwedig mewn gwlad lle mae’r glaw yn cael ei ystyried fel hobi cenedlaethol. Mae cynghorau prin o arian sy’n cael eu gorfodi i wneud toriadau i’w cyllidebau’n ei chael yn amhosib bron fforddio’r un lefel o gynnal a chadw ar eu caeau lleol.
Er bod y cyfranogiad mewn llawer o ardaloedd yn cynyddu – mae Cynghrair Bêl Droed Merched a Genethod De Cymru newydd gofnodi cynnydd o 63 y cant yn y niferoedd sy’n chwarae yn ystod y tair blynedd ddiwethaf – mae cannoedd o gemau ledled Cymru’n cael eu canslo bob wythnos.
Er y gall y tywydd amrywio’n sylweddol mewn gwahanol rannau o’r wlad, felly hefyd yr amgylchiadau sy’n galluogi i bobl chwarae.
Felly beth yw’r darlun ledled Cymru a sut bydd yn edrych yn y dyfodol?
Ydi pyllau glaw y gaeaf yn straen real ar gyfranogiad?