Skip to main content

Yr athrawes fathemateg sy’n gwneud ei marc ar y cae rygbi

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Yr athrawes fathemateg sy’n gwneud ei marc ar y cae rygbi

Erthygl mewn cydweithrediad â Dai Sport.

Mae Cerys Hale yng nghanol ymgyrch y chwe gwlad ac mae’n datgelu bod cymryd rhan yn gallu cynnig llawer o fanteision i athrawes sy’n delio gyda phlant ysgol heriol.     

“Maen nhw’n dangos mwy o barch ato i pan mae’r gemau ’mlaen,” meddai prop pen tynn Cymru gyda gwên. “Maen nhw’n meddwl ’mod i’n galed!

“Os bydd rhywun yn ddigywilydd ac yn fy ateb i’n ôl, bydd rhywun arall yn gweud, bydd yn ofalus, ma’ ’ddi’n galed! A ’sa i’n anghytuno! Mae’n gweithio i mi!”

Pan nad yw hi’n pacio i lawr yn erbyn gwrthwynebwyr sy’n ceisio cael y gorau arni, mae Hale yn brysur yn dysgu mathemateg i blant yng Nghaerffili mewn uned cyfeirio disgyblion.                       

Mae’r dyddiau yno’n heriol, ond dyma’r yrfa o’i dewis gan ei bod yn cyd-fynd yn well â bod yn chwaraewraig rygbi ryngwladol na dysgu mewn ysgol prif ffrwd. 

 

Yn yr uned, mae’r diwrnod ysgol yn llai ac yn gorffen am 2.00pm, gyda dosbarthiadau o ddim mwy nag wyth o ddisgyblion. Mae hynny’n galluogi Cerys - blaenwr 26 oed sy’n chwarae i Gaerloyw ac a fydd yn ennill ei 29ain cap yn erbyn Lloegr - i baratoi ei gwersi a gwneud ei hadroddiadau diogelu ddiwedd y prynhawn.           

Wedyn, mae’n gallu neidio i’r car a theithio i hyfforddiant Cymru yng Nghaerdydd, heb orfod gwneud y mynydd o waith marcio oedd ganddi pan oedd yn athrawes yn Ysgol Gyfun Brynmawr.

“Mae’n helpu gyda’r rygbi, i sicrhau cydbwysedd o ran fy amser i. Mae’r swydd yn heriol iawn ond gyda’r nos does ’da fi ddim llawer o waith marco, am nad oes llawer o ddisgyblion yn yr ysgol. 

“Heb weith’o fel hyn, fi’n credu y byddwn i’n gweld pethau’n anodd. I ddechre, doedd dim ots ’da’r plant ’mod i’n chwarae i Gymru. Ond nawr mae un neu ddau o’r bois yn mynd i hyfforddiant rygbi eu hunain ac mae mwy o sôn wedi bod am y peth nawr.

“Fe ddywedodd un o’r merched wrtho i y dydd o’r bla’n, ‘weles i chi ar y teli dros y penwythnos, Miss!’ felly roedd hynny’n neis. 

“Hefyd fe wnaeth un ofyn i mi ryw ddiwrnod oeddwn i wastad wedi meddwl y byddwn i’n chwarae dros Gymru ac fe wnes i ddweud fy mod i wastad yn teimlo ’mod i’n ddigon medrus, felly mae’n dda gyda’u helpu nhw i ddatblygu hyder hefyd – beth bynnag maen nhw eisiau ei wneud, fe ddylen nhw anelu amdano fe.”

Yn wahanol i dîm cenedlaethol y dynion – sy’n cynnwys chwaraewyr rygbi llawn amser proffesiynol – mae carfan merched Cymru’n gorfod jyglo rygbi gyda gyrfaoedd y tu allan i’r gamp. 

Mae Hale, a ddechreuodd chwarae rygbi yn 11 oed i glwb Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd, wedi bod yn y byd addysg ers pedair blynedd ac er ei bod wedi symud i weithio gyda phlant sydd wedi profi anawsterau yn rhannol er budd ei rygbi, roedd rhesymau eraill dros y dewis hefyd.                         

“Mewn ysgolion prif ffrwd, roeddwn i’n teimlo weithiau bod y plant yn is i lawr yn y dosbarthiadau’n gallu cael eu hanghofio. Heb gael yr un cyfleoedd.

“Wyth disgybl yw ein dosbarthiadau mwyaf ni, felly mae’n well. Rydych chi’n ffurfio perthynas dda gyda phob disgybl, nid dim ond enw arall yn dod drwy’r drws y’n nhw. Mae’n heriol a blinedig, ond yn rhoi llawer iawn o foddhad. 

“Rydych chi’n clywed am sefyllfaoedd anodd mae disgyblion yn eu hwynebu, ond wedyn mae’r uchafbwyntiau’n wych. Os bydd disgybl yn dweud wrtho i, “Unrhyw gynlluniau ar gyfer hanner tymor?”, fe fydd hynny’n codi ’nghalon i am y diwrnod. Mae’r uchafbwyntiau’n arbennig ac mae’n gwneud y cyfan werth e. Rydw i wir yn mwynhau.”

 

Mae Lloegr, a Ffrainc i raddau llai, wedi sefydlu contractau proffesiynol llawn amser i lawer o’r merched yn eu carfannau, fel bod y math o jyglo neu gyflawni sawl tasg ar unwaith sy’n cael ei wneud gan chwaraewyr Cymru’n llai o broblem. 

Rhaid i chi gael cyflogwr sy’n deall – ac un gwladgarol efallai – er mwyn cael amser i ffwrdd o amgylch gemau pan rydych chi’n chwarae i Gymru. 

Mae Hale yn dweud bod ei bosys yn ACT, darparwr hyfforddiant ac addysg, wedi bod yn gefnogol iawn, ond mae’r amserlenni’n gallu bod yn anodd iawn pan rydych chi’n cyrraedd yn ôl am 2am fore Llun fel gwnaeth chwaraewyr Cymru ar ôl eu gêm yn erbyn Iwerddon yn Nulyn.         

“Chi’n gorfod bod yn onest wrth fynd i gyfweliad. Fe wnes i ddweud wrthyn nhw y byddwn i eisiau rhywfaint o amser bant i chwarae rygbi. Mae’n bwysig bod yn agored. 

“Rydw i’n eiddigeddus braidd o ferched llawn amser Lloegr. Rydw i’n chwarae i Gaerloyw, gyda sawl un o’r merched llawn amser, felly mae’n agoriad llygad. Ond mae’n neis cael dianc oddi wrth y rygbi a bod dan bwysau gwahanol.               

“Tybed sut maen nhw’n llwyddo i ddianc rhag y rygbi, pan mai rygbi yw’r cyfan maen nhw’n ei wneud. Mae manteision ac anfanteision am wn i. 

Hyd yma, nid yw ymdrechion y garfan – ar ac oddi ar y cae – wedi gwobrwyo Cymru gyda buddugoliaeth yn y twrnamaint yma.   

Ond mae miss mathemateg Caerffili’n credu y daw popeth i’w le pan fydd Cymru’n llwyddo i daro deuddeg.       

“Rydyn ni’n ffodus ein bod ni wedi cymhwyso eisoes ar gyfer y Cwpan Byd nesaf ac rydyn ni’n gwybod i ble rydyn ni’n mynd a beth sydd raid i ni ei wneud. Ond rydyn ni eisiau bod yn ennill gemau.               

“Ond yr hyn rydyn ni’n teimlo’n sicr ohono yw pan fydd pethau’n dod i’w lle y bydd pobl yn synnu at ba mor dda ydyn ni.” 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy