Cipiodd y clwb ddwy wobr anrhydeddus yn Noson Wobrwyo Genedlaethol Gymnasteg Prydain – gan ddod yn gyntaf yn y categori clwb cenedlaethol (ar gyfer y rhai ag aelodaeth dros 250) a hefyd ennill y wobr genedlaethol ar gyfer cydraddoldeb a chynhwysiant, am weithio’n gyson yn y gymuned a darparu cyfleoedd ar gyfer grwpiau a dangynrychiolir.
Mae’r clwb wedi cael ei enwebu ar gyfer teitl “clwb y flwyddyn” bedair gwaith yn flaenorol ac meddai’r rheolwr gyfarwyddwr, y prif hyfforddwr a chydsylfaenydd y clwb, Melissa Anderson: “Rydyn ni’n teimlo’n falch iawn ac ar ben ein digon.
“Rydyn ni wedi ennill gwobr clwb y flwyddyn Gymnasteg Cymru ddwywaith yn y gorffennol, ond dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw glwb arall o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer erioed ar gyfer gwobr Prydain Fawr.
“Mae ennill, ac ennill y wobr am gydraddoldeb a chynhwysiant, yn golygu mai ni yw’r unig glwb i ennill dwy wobr yn yr un gystadleuaeth.
“Rydw i’n gwybod pa mor galed mae pawb yn gweithio a faint maen nhw eisiau darparu cyfleoedd yn y gymuned. Mae’n hyfryd cael cydnabyddiaeth am hynny fel tîm. Roedd llawer o glybiau eraill wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw’n gobeithio y bydden ni’n ennill, felly roedd yn wych.”
Gyda dwy wobr wedi’u cipio, cafodd y clwb ei enwebu yn ddiweddar hefyd ar gyfer gwobr y sefydliad cymunedol yn y Gwobrau Amrywiaeth Cenedlaethol, a gynhaliwyd ar y cyd ag ITV News.
Felly sut beth yw llwyddiant i glwb sydd hefyd yn fenter gymdeithasol? Beth all clybiau gymnasteg eraill – a chwaraeon eraill – ei ddysgu gan VGA?
Brwdfrydedd diddiwedd, gwaith caled, penderfyniad, synnwyr cyffredin a rhai egwyddorion tryloyw yn arwain y gwaith ac yn ysbrydoli staff, gwirfoddolwyr ac athletwyr yw trefn y dydd yn ôl pob tebyg.
Mae VGA yn cyllido ei hun. Nid yw’n cael hwb ariannol rheolaidd gan gyrff rheoli, awdurdodau lleol na noddwyr. Ac mae wedi bod felly ers iddo gael ei sefydlu 15 mlynedd yn ôl ar ôl uno clwb yn Abertileri ag un arall yng Nglynebwy.
Mae’n torri ei gwys ei hun ac yn gwneud ei benderfyniadau ei hun. Mae wedi gwneud defnydd achlysurol o grantiau ar gyfer offer a chyfleusterau – ond gan fwyaf, mae gweithrediadau’r clwb yn seiliedig ar yr un model â’r rhan fwyaf o dimau pêl droed a rygbi – tanysgrifiad aelodau.
Mae’n ymddangos mai’r gyfrinach yw creu profiad mor bleserus – ar gyfer y rhai â breuddwydion gymnasteg elitaidd yn ogystal â’r rhai sy’n chwilio am gyfeillgarwch a hwyl – fel bod yr aelodau (neu eu rhieni’n amlach na pheidio) yn fodlon cyfrannu.
Cerddwch i mewn i’r gampfa drefnus ym mhrif ganolfan y clwb yn Uned 3H ar Stad Ddiwydiannol Croespenmaen ac mae’n bosib gweld pam mae’n gweithio mor dda, a sut.
Mae’r gymnastwyr yn brysur. Mae digonedd o hyfforddwyr. Mae’r grwpiau’n fach.
Ym mhob cornel, mae rhyw weithgaredd yn cael ei gynnal dan oruchwyliaeth ac mae awyrgylch hamddenol, manwl, fel busnes i’w deimlo yma, ond awyrgylch sydd hefyd yn teimlo fel hwyl i’r rhai sy’n cymryd rhan.
Mae hyn yn cael ei efelychu mewn saith lleoliad arall, unedau eraill neu ganolfannau chwaraeon rhent mewn lleoliadau fel Cwmbrân, yn ogystal ag eiddo ysgolion. Mae’r niferoedd mor drawiadol â’r ddarpariaeth eang – gyda 2,900 o aelodau’n talu ffioedd sydd rhwng £4.50 am sesiwn awr a mwy na £100 am 20 awr o hyfforddiant dwys yr wythnos.