Yn yr erthygl arbennig ddiweddaraf yma, mae Graham Thomas o Dai Sport a Paul Batcup o Chwaraeon Cymru yn edrych ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r cyfryngau cymdeithasol yn y byd chwaraeon.
MAE’N hawdd credu bod rhywbeth mawr yn bod ar y berthynas rhwng chwaraeon a chyfryngau cymdeithasol pan rydych chi’n clywed y si brydion diweddar am Lionel Messi a Barcelona.
Yr honiad yw bod pêl droediwr gorau’r byd wedi bod yn darged ymgyrch ar Twitter i’w dynnu i lawr beg neu ddau – ymgyrch wedi’i threfnu gan ei glwb ei hun – awgrym oedd yn ddigon credadwy fel bod Barcelona wedi gwneud cyhoeddiad yn gwadu eu bod wedi llogi cwmni i danseilio eu seren fwyaf.
Mae gan seren y byd pêl droed yng Nghymru, Gareth Bale, 18 miliwn o ddilynwyr ar Twitter a 43 miliwn pellach ar Instagram. Mae hynny’n bron i boblogaeth gyfan y DU gyda’i gilydd.
Gwerth chweil pan mae eisiau hybu ei fuddiannau masnachol ei hun, ond pan mae’r esgid ar y droed arall – fel yr oedd y llynedd am y ffrae “Cymru, golff, Madrid” – gall y niferoedd yma olygu casineb ar raddfa enfawr.
Felly ai drwg yw popeth i sêr chwaraeon Cymru, y clybiau, y cefnogwyr ac unrhyw un arall sy’n camu oddi ar y cae chwarae i drobwll dyrys byd y cyfryngau cymdeithasol?