Main Content CTA Title

Diweddariad Coronafeirws – Cau Canolfannau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Diweddariad Coronafeirws – Cau Canolfannau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru

Bydd Canolfannau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chaernarfon (Plas Menai) yn cau i’r cyhoedd yn weithredol o 18:00 dydd Mercher Mawrth 18fed 2020. 

Bydd Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd a Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Plas Menai, yn cael eu cau hyd nes ceir rhybudd pellach i aelodau’r cyhoedd yn dilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth y DU. 

Archebion 

Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon am archeb yn un o’r cyfleusterau, dylech gysylltu â’r canolfannau ar e-bost ar:

Caerdydd: [javascript protected email address]

Plas Menai: [javascript protected email address]

Sylwer y bydd yr archebion sy’n digwydd tra mae’r canolfannau ar gau yn cael ad-daliad llawn neu gallwn edrych ar aildrefnu ar ddyddiad arall. Dylech anfon eich cais am ad-daliad neu aildrefnu ar e-bost i’r cyfeiriadau e-bost uchod. 

Aelodau Arian ac Aur (Y Ganolfan Genedlaethol, Caerdydd)

Ni fydd unrhyw daliadau debyd uniongyrchol yn cael eu cymryd ar 1af Ebrill 2020. Byddwn yn adolygu’r taliadau yn y dyfodol pan fydd y Ganolfan yn ailagor. 

Clybiau a Gweithgareddau 

Os ydych chi’n aelod o glwb neu weithgaredd sy’n cynnal sesiynau yn ein cyfleusterau, dylech gysylltu â’r clwb neu’r gweithgaredd i gael gwybod a oes trefniadau eraill wedi’u rhoi yn eu lle. 

Busnes Chwaraeon Cymru 

Bydd staff Chwaraeon Cymru yn gweithio o gartref hyd nes ceir rhybudd pellach. Bydd hyn yn wir am y staff i gyd, oni bai eu bod yn cyflawni gwasanaeth hanfodol yn ein cyfleusterau. 

Bydd busnes Chwaraeon Cymru yn parhau ac rydym wedi gofyn i staff gynnal cyfarfodydd busnes gan ddefnyddio adnoddau fel Skype, neu dros y ffôn. 

Dylai partneriaid Chwaraeon Cymru barhau i ddefnyddio eu llinellau cyfathrebu arferol – fel eu swyddog perfformiad neu uwch swyddog penodol yn Chwaraeon Cymru – er mwyn i ni allu parhau i ddarparu gwasanaeth i bartneriaid tra mae’r cyfleusterau ar gau. 

Os ydych chi’n gweithio i neu gyda chorff rheoli neu sefydliad sydd wedi’i leoli yn un o’r cyfleusterau, dylech gysylltu â hwy yn uniongyrchol os oes gennych chi gwestiynau am waith parhaus a chyfathrebu. 

Athletwyr 

Bydd newidiadau i’r ffordd mae Athrofa Chwaraeon Cymru yn eich cefnogi chi. Mae staff Chwaraeon Cymru yn cysylltu â chyfarwyddwyr/hyfforddwyr perfformiad ynghylch trefniadau wrth gefn.

Grantiau a Chyllid

Bydd tîm grantiau Chwaraeon Cymru yn weithredol tra mae’r canolfannau ar gau. Os oes gennych chi unrhyw ymholiad am gais rydych chi wedi’i wneud, cysylltwch â’r tîm ar [javascript protected email address]

Mwy o gyngor am arian grant Chwaraeon Cymru ar gael yma.

Newyddion Diweddaraf

Out Velo yn dod â'r gymuned feicio LHDTQ+ at ei gilydd

Er ei fod yn cael ei arwain gan LHDTQ+, mae Out Velo hefyd yn agored i'r rhai nad ydyn nhw'n ystyried…

Darllen Mwy

Adnodd newydd yn mapio caeau artiffisial yng Nghymru

Mae Chwaraeon Cymru a Llywodraeth Cymru yn falch o lansio adnodd newydd sbon ar gyfer y sector chwaraeon…

Darllen Mwy

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy