Main Content CTA Title

Cylchgrawn Meddygol yn annog ymarfer i wella’r system imiwnedd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cylchgrawn Meddygol yn annog ymarfer i wella’r system imiwnedd

Mae’r British Journal of Sports Medicine wedi ailgyhoeddi cyfarwyddyd o ymchwil diweddar i fanteision mawr gweithgarwch corfforol. 

Mae’r cyngor a gyhoeddwyd yr wythnos yma’n datgan: “Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn lleihau’r risg o berson yn dal afiechydon trosglwyddadwy (fel heintiau firol a bacterol) drwy wella gallu system imiwnedd person i reoleiddio ei hun. 

“Felly, dylem gynnal ein trefn ymarfer yn ystod y cyfnod hwn, oherwydd mae’n gwella gallu ein system imiwnedd.” 

Mae cadw’n iach ac yn actif yn teimlo’n bwysicach nag erioed nawr. 

Efallai bod chwaraeon trefnus wedi dod i ben, ond mae digon o ffyrdd dychmygus a phleserus i chi edrych ar ôl eich iechyd corfforol a meddyliol. 

Hefyd – mae pobl yn dal i allu mwynhau’r awyr agored, dim ond iddynt ddilyn cyngor y llywodraeth ar ymbellhau cymdeithasol. 

Gyda’r achosion o goronafeirws yn cyfyngu’n llym ar ffyrdd arferol rhai pobl o ymarfer, mae mynd i gerdded neu redeg, bod yn actif yn yr ardd, neu yn y cartref, i gyd yn weithgareddau hanfodol i wneud i ni deimlo’n well.   

Bydd bod ar dop eich gêm yn gorfforol yn eich helpu chi hefyd i wella o salwch yn gynt, ac yn rhoi hwb i’ch system imiwnedd yn ogystal â’ch hwyliau. 

Mae Brian Davies, prif weithredwr dros dro Chwaraeon Cymru, wedi annog pawb yn y wlad i roi amser i ystyried beth allant ei wneud i ddal ati i fod yn iach.           

“Mae hwn yn gyfnod eithriadol anodd i bawb yng Nghymru, ond mae’n gwbl hanfodol bod pobl yn gofalu am eu hiechyd a’u lles,” meddai. 

“Y neges yw cadw’n actif ond cadw’n ddiogel hefyd. Ewch allan ryw ben yn ystod y dydd, hyd yn oed os yw hynny ddim ond i fynd am dro. 

“Er bod gweithgareddau grŵp fel Parkrun neu grwpiau beicio wedi cael eu gohirio, mae posib i bobl redeg ar eu pen eu hunain yr un fath, neidio ar gefn eu beic, cerdded gyda’i gilydd fel teulu gyda’r plant yn y parc, neu allan yng nghefn gwlad. 

“Rydyn ni’n ffodus yng Nghymru bod y rhan fwyaf o bobl yn byw yn agos at gefn gwlad, neu mae ganddyn nhw ofod gwyrdd gerllaw os ydyn nhw’n byw mewn dinasoedd. Bydd gwneud amser i fynd allan a symud yn gwella cyflwr eich meddwl chi yn ogystal â’ch ffitrwydd. 

“I bobl sy’n cael anhawster codi allan – neu’r rhai sydd wedi arfer mynd i’r gampfa neu i’r ganolfan chwaraeon leol – mae llawer o ymarferion y gallan nhw eu gwneud yn eu cartrefi ac mae wedi bod yn grêt gweld cymaint o athletwyr enwog yn arddangos eu trefn ymarfer ar-lein er mwyn cymell ac ysbrydoli pobl. 

“Efallai nad ydych chi ar yr un lefel â nhw, ond mae pobl yn gallu symud yn eu hamser eu hunain er  mwyn cadw mewn siâp.” 

Bydd Chwaraeon Cymru yn parhau i annog pobl i ddal ati i fod yn actif a byddwn yn rhannu syniadau ac awgrymiadau y gallwn ni i gyd eu dilyn yn ystod y dyddiau sydd i ddod. 

Dylech hefyd ddilyn cyngor swyddogol ar ymbellhau cymdeithasol wrth ymarfer yn yr awyr agored.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy