Bydd yr ymgyrch yn cael ei hanelu at bobl o bob gallu a phrofiad, fel bod pawb yn cael cyfle i fod yn actif.
- Gweithgarwch Ysgafn – Gweithgareddau ysgafn yn y cartref ar gyfer pobl sy’n newydd i ymarfer efallai, neu sydd â chyfyngiadau symud.
- Gweithgarwch Cyffredinol – Gweithgareddau ar gyfer pobl sy’n mwynhau chwaraeon ac ymarfer ac sydd eisiau dal ati i elwa o’r manteision i’w hiechyd.
- Gweithgarwch Uwch – Ar gyfer pobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd ac sydd eisiau hyfforddiant dwysach.
Hefyd bydd Chwaraeon Cymru yn darparu mynediad cynyddol at ei adnoddau i ysgolion, ar gyfer eu defnyddio yn y cartref.
“Mae wedi bod yn braf iawn gweld cymaint o bobl yn cynnig cefnogaeth eisoes i gael pobl i fod yn actif,” meddai Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies.
“Mae pawb yn y byd chwaraeon yng Nghymru eisiau helpu a chwarae eu rhan, yn enwedig ar amser pan mae gofalu am iechyd corfforol a meddyliol yn bwysicach nag erioed.
“Ein hased enfawr ni yw’r arbenigedd sydd ar gael i ni ac rydyn ni am ei ddefnyddio i ddarparu llawer o ffyrdd amrywiol a diddorol o fod yn actif.
“Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig peidio â gadael neb ar ôl a dyma pam y byddwn ni eisiau cefnogi gweithgarwch o’r cam cyntaf un ac ymlaen.”
Am fwy o wybodaeth ewch i www.sport.wales/beactivewales.
Sefydliadau sydd wedi cofrestru gyda CymruActif (ar 30/03/2020):
Hoci Cymru
Chwaraeon Anabledd Cymru
RYA Cymru
Sboncen Cymru
Athletau Cymru
Rygbi’r Gynghrair Cymru
Bowlio Cymru
Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Beicio Cymru
Cymdeithas Jiwdo Cymru
Chwaraeon Eira Cymru
Nofio Cymru
Codi Pwysau Cymru
Triathlon Cymru
Golff Cymru
*Edrychwch ar y cyfarwyddyd swyddogol presennol ar gadw pellter cymdeithasol.