“Dydw i ddim yn rhywun sy’n tueddu i hoffi cerdded fel arfer. Ond mae’n galluogi i mi fynd allan a meddwl drwy bethau. Mae pawb angen strwythur i’w diwrnod ar hyn o bryd.
“Rydw i’n ffodus bod gen i dîm cefnogi gwych, gan gynnwys seicolegydd, ac rydyn ni wedi siarad drwy bethau. Ond i bawb sydd wedi gweld eu bywyd yn cael ei newid yn fawr, bod yn realistig sy’n bwysig, gosod nodau ac amserlen newydd a darganfod pethau newydd efallai. Rydw i wedi dod o hyd i rannau newydd o’r parc doeddwn i ddim yn gwybod eu bod yn bodoli cynt!”
Mae wedi dysgu’r cyngor arall ei hun. Os ydych chi eisiau osgoi gormod o boeni a straen, cyfyngwch yr amser rydych chi’n ei dreulio’n gwrando ar y newyddion ac ar gyfryngau cymdeithasol.
“I ddechrau, roeddwn i’n gwrando ar bopeth, gan fod bob dim mor ansicr. Ond mae’n gallu bod yn ormod braidd ac wedyn fe benderfynais i beidio ag edrych ar unrhyw beth am wythnos, ac roedd hynny’n help.
“Nawr rydw i’n cyfyngu beth rydw i’n ei weld ac yn ei ddarllen. Mae amser yn sicr pan fydda’ i’n edrych ar bethau i gael y newyddion diweddaraf ond dydw i ddim yn meddwl ei fod yn iach cael obsesiwn gyda’r peth.”
Efallai bod byd Powell fymryn yn llai erbyn hyn, ond mae’r olwynion yn dal i droi.
Mae hi a’i phartner hyfforddi, Tom Hughes, sydd hefyd yn byw gyda hi, wedi gallu cael llawer o offer o bencadlys Chwaraeon Cymru. Efallai bod eu planed yn llai ond mae’n dal i droi o leiaf.
Mae pwysau, matiau, beiciau ymarfer a pheiriant ymarfer sgïo Nordig SkiErg wedi meddiannu’r ystafell fyw.
“Diolch i’r bobl garedig yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni wedi gallu troi’r tŷ yn gampfa. Mae’n golygu nad ydw i wedi gorfod newid fy rhaglenni o gwbl a dweud y gwir. Mae llond gwlad o bethau yma ac mae’n gas gen i feddwl am orfod mynd â nhw’n ôl!”
Yr unig beth nad yw Powell yn gallu ei wneud yw ei hymarfer Randori – y drefn baffio ar gyfer chwaraewyr jiwdo – ond mae’n gallu ymarfer ar y mat gyda Hughes.
“Dydi pethau ddim yn rhy ddrwg gan fy mod i’n ynysu gyda fy mhartner hyfforddi arferol ac mae fy hyfforddwr i’n gallu cysylltu â ni’n rheolaidd ar Skype. Rydyn ni’n fwy ffodus na rhai o ran bod llawer o bobl yn hyfforddi gyda phartneriaid gwahanol, ond rydw i’n tueddu i wneud llawer mwy o sesiynau un i un gyda Tom, gan wella’r sgiliau mae angen i mi eu gwella.
“I ddechrau, roeddwn i’n siomedig iawn bod y Gemau wedi cael eu gohirio. Ond doedd dim opsiwn arall ac er ei fod yn creu poen meddwl o ran methu gwybod sut bydd y cymhwyso o’r newydd yn gweithredu gyda dyddiadau ac ati, y peth da i mi yw fy mod i wedi bod yn perfformio’n dda yn ddiweddar.
“Ers i mi symud yn ôl i Gaerdydd rai misoedd yn ôl, rydw i wedi bod yn gwella ac rydw i’n gwybod bod mwy i ddod eto.
“Roedd fy mherfformiadau diwethaf i’n gymaint gwell na maen nhw wedi bod yn ystod y 18 mis diwethaf. Felly rydw i’n gwybod ’mod i’n gwella eto, sy’n grêt.”