“Mae tanau rheolaidd i ddelio â nhw o hyd gan fod pobl yn treulio mwy o amser yn eu cartrefi, ac mae larymau mwg yn canu o hyd, a damweiniau ar y ffyrdd i roi sylw iddynt er bod llai o draffig ar y ffyrdd,” meddai Taylor.
“Fe fydden ni wir yn gallu gwneud heb bobl sy’n cynnau tanau’n fwriadol ar lethrau mynyddoedd. Mae’n wallgof, cwbl boncyrs.
“Os yw cydweithiwr yn gorfod mynd i adeilad fel cartref gofal ar hyn o bryd i edrych ar broblem gyda’r larwm yno, mae’n rhaid iddo gael offer gwarchodol personol, fel masgiau a menig, ond mae’n rhaid rhoi’r offer yma mewn bag dwbl wedyn a’i daflu, ac mae’n rhaid iddo newid ei ddillad.
“Rhaid i chi gael cawod a chael eich dadlygru, ac mae hyn i gyd yn ychwanegu at yr amser pryd mae’r person yn gallu dod yn ôl at y criw. Felly nid yw tanau bwriadol yn helpu gyda’r sefyllfa o gwbl.”
Mae Taylor wedi bod yn swyddog tân ers llawer mwy nag y mae wedi bod yn chwaraewr rygbi, ond mae hanes y proffesiwn a’r fersiwn 15 bob ochr o’r gêm wedi bod yn mynd law yn llaw ers blynyddoedd maith yng Nghymru.
Ond i gapten y tîm rygbi’r gynghrair cenedlaethol sydd wedi’i ffurfio’n ddiweddar ar gyfer y merched, mae cyfuno rygbi gydag ymladd tân yn brofiad cymharol newydd.
Mae Taylor, sydd bellach yn 41 oed, wedi bod yn brwydro yn erbyn tanau ers 20 mlynedd, ond ni ddechreuodd chwarae rygbi’r undeb nes ei bod yn 34 oed.
Enillodd ei chapiau cyntaf dros Gymru yn y cod undeb yn 36 oed, cyn penderfynu cyfuno hynny gyda chwarae rygbi’r gynghrair yr haf diwethaf – i Ddreigiau Glas Caerdydd – i helpu ffrind oedd yn hyfforddi.
Ychwanegodd: “Fe wnes i chwarae un sesiwn hyfforddi rygbi’r gynghrair jyst er mwyn helpu ac roeddwn i wrth fy modd. Erbyn i mi chwarae fy ngêm gyntaf, roeddwn i wedi gwirioni. Ac O!, pan ddaeth i ben, doeddwn i erioed wedi bod mor siomedig yn fy mywyd yn clywed y chwiban.
“Mae rhywbeth gwahanol iawn am rygbi’r gynghrair o gymharu â rygbi’r undeb. Mae llawer mwy o chwarae ar y bêl ac mae gennych chi fwy o ran ac mae’r bêl yn eich dwylo chi’n llawer amlach. Rydw i wrth fy modd.
“Rydw i’n hoffi rhedeg gyda’r bêl a bod mewn gofod. Pe bai rhaid i mi ddewis rhwng y ddau – rygbi’r gynghrair neu rygbi’r undeb – byddai’n broses hir iawn i wneud penderfyniad. Ond nawr, rydw i’n teimlo ’mod i’n elwa fwy o rygbi’r gynghrair.”
Ond ar hyn o bryd nid yw Taylor yn cael cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon o gwbl, fel gweddill y wlad.
Mae’n ffodus bod campfa gorsaf dân y Barri yn un o’r ychydig gampfeydd yng Nghymru sy’n cael bod ar agor o hyd er mwyn i’r swyddogion tân gael parhau i hyfforddi ynddi – er bod hynny o dan amodau llym iawn.
Ond o ran ei rygbi, mae Taylor yn gorfod mireinio ei sgiliau gartref – fel pob chwaraewr rygbi arall yng Nghymru.
Dylai unrhyw un sy’n amau pa mor arbennig yw’r sgiliau hynny edrych ar ein ffilm o gais unigol gwefreiddiol a sgoriodd dros Gymru yn y fuddugoliaeth wych o 24 i 20 yn erbyn Llewesau Lloegr yn Sain Helen yn ôl ym mis Tachwedd.
Hon oedd ail gêm Cymru ers i’r garfan gael ei ffurfio ac mae’r canlyniad yn golygu bod uchelgais tymor hir Cymru o gymhwyso ar gyfer Cwpan Byd 2021 yn gwbl realistig.
“Mae’n rhwystredig methu chwarae rygbi, ond rydw i’n lwcus ’mod i’n gallu defnyddio’r gampfa yn y gwaith pan rydw i ar ddyletswydd,” meddai Taylor.
“Rydw i’n cadw mewn cysylltiad ag eraill drwy sesiwn Zoom ac yn gwneud rhywfaint o ioga gartref ac wedyn rydw i hefyd yn cael ymarfer yn yr awyr agored wrth fynd â fy nghŵn am dro.
“Fy nghyngor gorau i i bobl eraill o dan y cyfyngiadau yma – pobl sydd wedi arfer gwneud chwaraeon a’r rhai sydd eisiau cadw mewn siâp – yw sefydlu trefn a chynnwys ffrindiau neu deulu.
“Os oes gennych chi drefn, fe allwch chi ddod o hyd i ymarfer ffitrwydd un diwrnod ac wedyn gall eich ffrind ddod o hyd i un y diwrnod canlynol ac fe allwch chi herio eich gilydd – nid i drechu eich gilydd, dim ond i geisio gwella.”