Gyda’r byd chwaraeon yng Nghymru’n teimlo effaith cyfyngiadau symud y Coronafeirws, mae rhai newidiadau tymor byr yn cael eu gwneud i’n cynlluniau grant cymunedol.
Fel mesur dros dro, y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng fydd yr unig ffocws ar gyfer ein grantiau cymunedol. Bydd hyn yn galluogi i ni ganolbwyntio ein cefnogaeth ar helpu clybiau ledled Cymru i oroesi yn ystod y cyfnod eithriadol heriol yma.
Mae’r penderfyniad yma’n seiliedig ar adborth gan glybiau a’n partneriaid sydd wedi amlinellu i ni yr help ar unwaith maent ei angen fwyaf ar hyn o bryd, yn ogystal â’r cyfyngiadau ehangach sydd yn eu lle ar hyn o bryd oherwydd COVID-19, sy’n ei gwneud yn annhebygol y bydd unrhyw weithgarwch datblygu chwaraeon newydd yn gallu digwydd.
Mae bron i 10% o glybiau chwaraeon cymunedol Cymru wedi gwneud cais am gyllid argyfwng eisoes, gyda phob cais yn cael ei brosesu mor gyflym â phosib ar hyn o bryd.
Mae hyn yn golygu na fydd clybiau cymunedol, am y tro, yn gallu gwneud cais mwyach am unrhyw grantiau neu gyllid arall, gan gynnwys cyllid y Gist Gymunedol a’r Grantiau Datblygu. Hoffem annog unrhyw un sydd eisiau cefnogaeth ar unwaith i wneud cais i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng.
Mae cyfleoedd cyllido eraill yn cael eu datblygu a byddant yn cael eu cyfathrebu cyn gynted â phosib.