Gan Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru - Dirnadaeth, Polisi a Materion Cyhoeddus
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi gweld effaith enfawr ar gymdeithas wrth i ni wynebu cyfyngiadau symud ac ymarfer cadw pellter cymdeithasol llym.
Mae gweithio o gartref wedi arwain at lawer o heriau, ac un her fawr yw’r ffaith bod llawer ohonom ni wedi dod yn athrawon newydd ein plant.
Mae ysgolion ledled Cymru wedi cymryd camau enfawr i wneud y pontio hwn mor hwylus â phosib gan greu adnoddau ar-lein, datblygu ffyrdd amrywiol o gadw mewn cysylltiad a chynnig cyngor, yn ogystal ag arddangos esiamplau o addysgu gartref gwych. Yn Chwaraeon Cymru, rydyn ni hefyd wedi rhyddhau adnoddau arbenigol am ddim i rieni eu defnyddio er mwyn helpu yn ystod y cyfnod yma. Mae’r adnoddau hyn nid yn unig yn galluogi rhieni i gadw eu plant yn actif, ond hefyd mae’n rhoi hyder eu bod yn adlewyrchu’r math o sesiynau fyddem yn eu gweld mewn ysgolion.
Y gwirionedd wrth gwrs yw nad ydyn ni i gyd yn athrawon A.G. cymwys a hyd yn oed os ydyn ni, mae hwn yn amgylchedd gwahanol iawn. Ond yn ystod cyfnod fel hwn, un peth y gallwn ni ei wneud er mwyn cefnogi plant yw gwrando ar eu barn nhw.