Bydd bron i £5 miliwn o gyllid y Loteri Genedlaethol yn helpu i gefnogi chwaraeon yng Nghymru drwy argyfwng y Coronafeirws.
Bydd y pecyn gwerth miliynau o bunnoedd yn rhan o’r Gronfa Cadernid Chwaraeon gwerth £8.1 miliwn sydd wedi’i neilltuo gan Chwaraeon Cymru i helpu i warchod y sector chwaraeon yng Nghymru rhag canlyniadau’r cyfyngiadau symud.
Bydd y Loteri Genedlaethol yn darparu tua £600m ar gyfer achosion da ledled y DU drwy becyn cefnogi Coronafeirws penodol.
Mae’r Gronfa Cadernid Chwaraeon yn cynnwys cyllid gan Lywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol i helpu i gefnogi chwaraeon i ddod allan o’r argyfwng a pharhau i gefnogi pobl yng Nghymru i fwynhau bod yn actif.
Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru, Brian Davies:
“Mae gan chwaraeon yng Nghymru gymaint o ddyled i’r Loteri Genedlaethol dros flynyddoedd lawer, ac eto rydyn ni’n cael cefnogaeth yn ystod cyfnod mor heriol i bawb.
“Bydd y Loteri Genedlaethol yn chwarae rhan allweddol mewn cefnogi clybiau, cyrff chwaraeon a gweithgareddau amrywiol i oroesi’r argyfwng presennol yma.
“Rydyn ni’n gweithio’n agos ac yn gyflym gyda’n partneriaid yn y sector ar y defnydd gorau o’r Gronfa Cadernid Chwaraeon. Hefyd mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng wedi dyfarnu arian i glybiau sy’n wynebu risg ariannol ar unwaith.”
I ddarllen y stori lawn am gyllid y Loteri Genedlaethol i achosion da, cliciwch yma.