Fel pob gôl-geidwad, mae Alex Smithies o Glwb Dinas Caerdydd wedi arfer gyda rhywfaint o ynysu.
Ond mae amddiffynnydd olaf y clwb yn cyfaddef bod y cyfyngiadau presennol yn profi ei allu ef hyd yn oed i fod yn hunanddibynnol a hunangynhaliol.
Yn ffodus, fel gyda’r rhan fwyaf o bêl droedwyr, mae gan Smithies brofiad o oresgyn amgylchiadau anodd ac mae wedi datblygu penderfyniad sy’n llesol iawn iddo fel athletwr proffesiynol mewn byd heb chwaraeon.
Ac mae ganddo air neu ddau o gyngor i bawb sy’n styc gartref, yn ceisio cadw’r corff a’r meddwl yn iach yn ystod y dyddiau anodd yma.
Dysgu oddi wrth brofiadau’r gorffennol sy’n hollbwysig wrth ddatblygu gwytnwch meddai’r gŵr 30 oed o Sir Efrog, gan gadw meddylfryd positif a dod o hyd i drefn sy’n gwneud i chi deimlo’n gyfforddus.
Naw mlynedd yn ôl, ac yntau ond yn 21 oed ac yn gwneud cynnydd yng nghlwb ei dref enedigol, Huddersfield, cafodd Smithies anaf difrifol i’w ben-glin ac roedd ofn y byddai’n chwalu ei freuddwyd o ddilyn gyrfa mewn pêl droed cyn iddi prin ddechrau bron.
“Roeddwn i allan am 11 mis, gyda dwy lawdriniaeth i’r ben-glin,” meddai. “Doeddwn i ddim yn siŵr fyddwn i’n gallu chwarae eto.
“Roedd yn gyfnod heriol iawn. Roedd y canlyniad yn aneglur. Doedd gen i ddim llawer o yrfa y tu ôl i mi ar y pryd a doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd nesaf i mi.
“Yn sicr, roedd rhaid i mi fod yn wydn a magu cymeriad er mwyn dod yn ôl o hynny. Yn y byd chwaraeon, rydych chi’n cael eich profi’n gyson – chwarae’n sâl neu gael anaf, neu ddim yn siŵr beth yw’r dyfodol i chi.
“Rydyn ni i gyd wedi cael ein profi yn ein bywydau ac mae pobl yn cael eu profi mewn ffordd wahanol iawn nawr.
“Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i bawb yn y DU ac mae pobl yn cael eu herio’n fwy nag erioed o’r blaen. Ond rydw i’n meddwl bod cymeriad cryf pobl Prydain yn dod i’r amlwg ar hyn o bryd.”